Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nod y safon hon yw diogelu pridd rhag erydiad trwy ofalu bod rhywfaint o dyfiant ar y pridd

Y prif ofynion

Rhaid diogelu’r pridd trwy gynnal lefel ofynnol o orchudd (cnydau, sofl, gweddillion neu lystyfiant arall), ac eithrio lle byddai creu’r gorchudd yn gwrthdaro â gofynion GAEC 5.

Os ydych yn cynaeafu tir â chombein, peiriant cynaeafu porthiant neu beiriant lladd gwair, rhaid bodloni un o’r amodau canlynol bob amser, rhwng y diwrnod ar ôl y cynhaeaf ac 1 Mawrth:

  • cadw sofl y cnwd yn y pridd
  • paratoi gwely had o fewn 14 diwrnod ar gyfer cnwd a hau’r cnwd o fewn 10 niwrnod ar ôl diwrnod gorffen paratoi’r gwely had

Pan fyddwch yn trin glaswelltir mae’n rhaid i’r tir gael ei baratoi fel gwely had o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad trin a bydd angen i’r cnwd/glaswellir gael ei hau o fewn cyfnod o 10 diwrnod, gan ddechrau gyda’r diwrnod ar ôl i’r gwely hau gael ei baratoi’n derfynol.

Pwysig: os byddwch, trwy hau o fewn y cyfnod 10 niwrnod, yn mynd yn groes i ofynion GAEC 5, dylech hau’r cnwd neu’r cnwd gorchudd dros dro mor fuan â phosibl ar ôl i’r tir llawn dŵr sychu.

Archwiliadau maes

  • i gadarnhau bod yna orchudd pridd derbyniol neu fod amodau wedi’ch rhwystro rhag cydymffurfio
  • i gadarnhau nad oes pridd yn cael ei olchi i lawr llethrau neu oddi ar y cae

Arfer da

  • sicrhewch fod gennych orchudd ar dir sydd wedi’i gynaeafu erbyn y gaeaf
  • gadewch sofl y cnwd rydych wedi’i gynaeafu ar y tir
  • paratowch y pridd ar gyfer hau cnwd arno a heuwch y cnwd o fewn 10 niwrnod ar ôl paratoi’r pridd
  • gadewch lain 5 metr o led o dir heb ei drin na’i aredig wrth droed cae ar lethr lle bo pridd yn debygol o erydu (e.e. cae o indrawn wedi’i gynaeafu’n hwyr heb sefydlu gorchudd erbyn y gaeaf)

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2024) o fewn y pecyn hwn.