Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi Cyngor Abertawe i drawsnewid i fflyd ddi-allyriadau erbyn 2030.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Ysgubwr ffyrdd trydan

Cefndir

Mae hyn wedi cynnwys darparu tri adroddiad manwl a chyllid grant ar gyfer cerbydau a phwyntiau gwefru.

Dechreuodd Cyngor Abertawe eu cyfnod trawsnewid gyda’r Gwasanaeth Ynni yn 2021, gan helpu i gynnal momentwm a sicrhau cefnogaeth uwch gynghorwyr a rhanddeiliaid ar gyfer camau nesaf y gwaith.

Sut gwnaethon ni helpu

Darparodd y Gwasanaeth Ynni adroddiadau fflyd ar ôl cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o fflyd Cyngor Abertawe, a oedd yn cynnwys tua 850 o gerbydau, i asesu’r defnydd o ynni ac amlinellu cynllun ar gyfer trosglwyddo i fflyd ddi-allyriadau erbyn 2030.

Gwnaethon ni hefyd adolygu cerbydau preifat gweithwyr a ddefnyddir at ddibenion gwaith. Aseswyd y mathau o danwydd, nifer y cerbydau, costau milltiredd, a gwneud argymhellion ar gyfer lleihau, rheoli risg, a gwneud defnydd effeithlon o’r fflyd. Roedd yr argymhellion yn cynnwys gwneud rhagor o ddefnydd o geir cronfa di-allyriadau. Yn ogystal, darparwyd trydydd adroddiad gennym ar seilwaith gwefru, a oedd yn asesu dichonoldeb gosod digon o bwyntiau gwefru i bweru fflyd gwbl drydan. Darparom gymorth technegol parhaus a chyllid grant i Gyngor Abertawe ar hyd eu taith.

Gofynion

Mae gan Gyngor Abertawe fflyd o 73 o gerbydau trydan batri a 12 o gerbydau hybrid, sy’n cynrychioli buddsoddiad cyfalaf o tua £2.5 miliwn.

Ariannodd grant y Gwasanaeth Ynni 34 o’r cerbydau yma drwy ddarparu cymhorthdal i dalu’r gwahaniaeth cost rhwng cerbydau batris trydan a chost cerbydau disel/petrol cyfatebol. Mae’r fflyd o gerbydau trydan bellach yn cynnwys ceir, faniau ysgafn a thrwm, ysgubwyr ffyrdd a cherbydau casglu sbwriel.

Manteision

Bydd trosglwyddo fflyd Abertawe i gerbydau trydan yn cynnig manteision sylweddol, fel gostyngiad o 70% mewn costau ynni, gostyngiad o 75% mewn defnydd o ynni, a gostyngiad o 90% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn ogystal, bydd mabwysiadu cerbydau trydan yn gwella ansawdd aer lleol, yn lleihau costau cynnal a chadw cerbydau, ac yn hybu diogelwch ynni, yn enwedig pan gaiff ei bweru gan ynni adnewyddadwy o ffynonellau lleol.

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Abertawe 40 o bwyntiau gwefru fflyd mewn 12 o leoliadau, ac mae’n bwriadu gosod 60 pwynt ychwanegol erbyn mis Gorffennaf 2023. Bydd y gorsafoedd gwefru yma’n gallu gwefru cerbydau casglu gwastraff, ceir a faniau ysgafn. Yn Neuadd y Ddinas, bydd wyth cerbyd di-allyriadau ar gael fel ceir cronfa, pob un â’i bwynt gwefru ei hun. Bydd pum cerbyd di-allyriadau ychwanegol, yn ogystal â phwyntiau gwefru penodedig, yn cael eu darparu ar gyfer gweithwyr gofal cartref yn eu cyfleusterau priodol.

Mae Cyngor Abertawe wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth drosglwyddo i fflyd di-allyriadau ac mae wedi cydweithio’n gyson â’r Gwasanaeth Ynni ers cynhyrchu’r adroddiadau fflyd.

Mae ein profiad diweddar gydag adolygiadau fflyd y Gwasanaeth Ynni wedi bod yn rhagorol ac yn werthfawr iawn. Roedd lefel y manylder a ddarparwyd yn yr adroddiadau adolygu yn wych ac yn rhoi arweiniad hanfodol wrth i ni nodi ein cynlluniau ar gyfer ein cyfnod pontio i gerbydau di-allyriadau. Mae’r arbenigedd nid yn unig wedi helpu i bontio bwlch gwybodaeth ond mae’r gefnogaeth barhaus ddilynol wedi helpu i ddatblygu llwybr clir tuag at weithredu seilwaith a cherbydau trydan yn llwyddiannus ar gyfer ein fflyd.

- Mark Barrow, Rheolwr Fflyd, Cyngor Dinas Abertawe

Manylion cyswllt

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am sut gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru helpu eich menter gymunedol neu sefydliad sector cyhoeddus:

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Trydar: @_gwasanaethynni |

Linkedin: welsh-government-energy-service

 

Ymwadiad

Ariennir y Gwasanaeth Ynni gan Lywodraeth Cymru gyda’r nod o ddatblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy sy’n cyfrannu at ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus a thargedau ynni cenedlaethol.

Mae’r Gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan yr Ymddiriedolaeth Garbon, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a Phartneriaethau Lleol (y “Partneriaid Cyflawni”). Mae’r adroddiad hwn (yr “Adroddiad”) wedi’i gynhyrchu gan y Partneriaid Cyflawni ac, er bod y safbwyntiau a fynegir ynddo yn cael eu rhoi’n ddidwyll ar sail y wybodaeth sydd ar gael ar ddyddiad yr Adroddiad hwn:-

(i) nid yw’r safbwyntiau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, sy’n derbyn dim atebolrwydd am unrhyw ddatganiad neu farn a fynegir yn yr Adroddiad;

(ii) bwriad yr Adroddiad yw rhoi arweiniad cyffredinol yn unig, yn hytrach na chyngor ariannol, cyfreithiol neu dechnegol at ddibenion unrhyw brosiect penodol neu fater arall, ac ni ddylai neb sy’n derbyn yr Adroddiad ddibynnu arno yn lle cael eu cyngor eu hunain gan ymgynghorydd trydydd parti priodol; a

(iii) dylai unrhyw unigolyn sy’n derbyn yr Adroddiad hwn geisio eu cyngor eu hunain am faterion ariannol, cyfreithiol, technegol a/neu gyngor proffesiynol perthnasol arall i’r graddau y mae angen arweiniad penodol arnyn nhw ar ba gamau (os o gwbl) i’w cymryd, neu i ymatal rhag eu cymryd mewn perthynas ag unrhyw brosiect, menter, cynnig, ymwneud ag unrhyw bartneriaeth neu fater arall y gallai’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr Adroddiad fod yn berthnasol iddo; a

(iv) nid yw’r Partneriaid Cyflawni yn derbyn dim atebolrwydd am yr Adroddiad, nac am unrhyw ddatganiad yn yr Adroddiad a/neu unrhyw wall neu anwaith yn ymwneud â’r Adroddiad.