Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaethom fuddsoddi £10.5 miliwn yn y prosiect i agor gorsaf newydd yn nhref Glynebwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Fe wnaethom fuddsoddi £10.5m yn y prosiect trwy'r gronfa Buddsoddiad Cyfalaf Rheilffyrdd er mwyn agor estyniad o'r rheilffordd ac agor gorsaf newydd ger tref Glynebwy.

Mae'r orsaf newydd yn cynnwys:

  • platfform 150 metr o hyd ar gyfer trenau sydd â 6 cherbyd
  • teledu cylch cyfyng
  • sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid
  • cysgodfan aros
  • pwynt cymorth
  • peiriannau tocynnau
  • mannau storio beiciau

Hynt y gwaith

Cwblhawyd y gwaith yng ngwanwyn 2015.