Neidio i'r prif gynnwys

Sut y byddwn yn dwyn sefydliadau'r GIG yng Nghymru i gyfrif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Fframwaith Atebolrwydd a Chymorth GIG Cymru yn darparu canllawiau i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac awdurdodau iechyd arbennig ynghylch sut rydym yn eu dwyn i gyfrif, ac yn nodi pryderon difrifol yn y GIG ac yn ymateb iddynt.

Yn unol â'r Fframwaith, cynhelir cyfarfodydd o leiaf ddwywaith y flwyddyn rhwng Llywodraeth Cymru, Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru. 

Mae'r broses hon yn ddull ar gyfer rhannu tystiolaeth a darparu cyngor i nodi problemau. Trafodir sefyllfa pob bwrdd iechyd, ymddiriedolaeth GIG ac awdurdod iechyd arbennig yn erbyn y maes sylfaen, sef arweinyddiaeth neu arwain yn dda, a'r pedair colofn ategol a nodir yn y fframwaith: 

  1. Ansawdd
  2. Y Gweithlu
  3. Cyllid a Chynllunio
  4. Cyflawni a Pherfformiad 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr wybodaeth a'r dystiolaeth o'r cyfarfodydd hyn cyn gwneud argymhellion i'r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal ynghylch lefelau uwchgyfeirio yn y dyfodol. 

Pum lefel o drefniadau atebolrwydd

Lefel 1

Mae'r lefel hon yn disgrifio sefydliadau sy'n gweithredu'n unol â'r cynllun ar y cyfan, mae ganddynt drefniadau effeithiol o ran llywodraethiant a gallant reoli amrywiadau mewn gofal drwy drefniadau arferol y Bwrdd a'r uwch-dîm gweithredol.

Maent yn darparu sicrwydd arferol i Lywodraeth Cymru, yn dilyn proses adrodd gyffredin ac yn cymryd rhan mewn adolygiadau atebolrwydd ddwywaith y flwyddyn.

Lefel 2

Mae'r lefel hon ar gyfer sefydliadau lle mae risgiau sy'n dod i'r amlwg yn annhebygol o gael eu datrys drwy drefniadau arferol yn unig, ond sydd â'r gallu o hyd i adfer.

Gall y sefydliadau hyn gael cymorth ataliol a mwy o oruchwyliaeth.

Lefel 3

Mae sefydliadau ar lefel 3 yn destun pryder sylweddol mewn perthynas â maes neu golofn atebolrwydd, neu nid ydynt wedi sicrhau gwelliant drwy'r camau gweithredu ar lefel 2.

Mae'r sefydliadau hyn yn cael:

  • cymorth penodol gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru
  • fframwaith uwchgyfeirio ffurfiol sy'n nodi'r trefniadau adfer a'r meini prawf ar gyfer isgyfeirio. Caiff hyn ei fonitro gan Lywodraeth Cymru drwy gyfarfodydd chwarterol.

Lefel 4

Mae uwchgyfeirio i lefel 4 yn cyfeirio at sefydliadau sy'n dangos methiant difrifol neu sydd mewn perygl o fod angen ymyriad wedi'i gomisiynu i gefnogi adferiad.

Mae'r sefydliadau hyn yn cael:

  • cymorth wedi'i dargedu gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru
  • fframwaith uwchgyfeirio ffurfiol sy'n nodi'r trefniadau cymorth ac adfer a'r meini prawf ar gyfer isgyfeirio. Caiff hyn ei fonitro gan Lywodraeth Cymru drwy gyfarfodydd rheolaidd.

Lefel 5

Mae sefydliadau ar lefel 5 wedi dangos methiant difrifol neu gymhleth iawn lle nad yw gallu'r sefydliad yn ddigonol i adfer heb ymyriad allanol dwys.

Mae'r sefydliadau hyn yn cael:

  • cymorth wedi'i dargedu gan Perfformiad a Gwella GIG Cymru
  • fframwaith uwchgyfeirio ffurfiol sy'n nodi'r trefniadau adfer a'r meini prawf ar gyfer isgyfeirio. Caiff hyn ei fonitro gan Lywodraeth Cymru
  • fel dewis olaf, gellir defnyddio pwerau Gweinidogol fel y'u nodir yn Neddf y GIG (Cymru) 2006.

Lefelau atebolrwydd sefydliadau GIG Cymru

Gellir gweld statws uwchgyfeirio blaenorol sefydliadau mewn datganiadau ysgrifenedig.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio, a pherfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys ac argyfwng. 

Gellir gweld y fframweithiau uwchgyfeirio presennol a blaenorol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn: 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Lefel 5 (ers mis Chwefror 2023)

Gellir gweld y fframweithiau uwchgyfeirio presennol a blaenorol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Lefel 4

Gellir gweld y fframweithiau uwchgyfeirio presennol a blaenorol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 

Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd.

Lefel 4 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys ac argyfwng.

Gellir gweld y fframweithiau uwchgyfeirio presennol a blaenorol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd. 

Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio; a pherfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal brys ac argyfwng, gwasanaethau bregus (gan gynnwys offthalmoleg), a heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. 

Gellir gweld y fframweithiau uwchgyfeirio presennol a blaenorol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn:

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio. 

Gellir gweld y fframweithiau uwchgyfeirio presennol a blaenorol ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Lefel 3 ar gyfer perfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â gofal a gynlluniwyd. 

Lefel 4 ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, cyllid, strategaeth a chynllunio; a pherfformiad a chanlyniadau sy'n ymwneud â chanser, heintiau sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, a gofal brys ac argyfwng. 

Gellir gweld y fframweithiau uwchgyfeirio presennol a blaenorol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB)

Iechyd a Gofal Digidol Cymru 

Lefel 4

Gellir gweld y fframweithiau uwchgyfeirio presennol a blaenorol ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn:

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Lefel 1

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Lefel 1

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre 

Lefel 1

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru 

Lefel 1