Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau cyllido ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021 ar gyfer myfyrwyr addysg uwch cymwys y mae COVID-19 yn effeithio arnynt

1. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y bydd y mesurau canlynol yn cael eu rhoi ar waith o 1 Awst 2020 ar gyfer myfyrwyr addysg uwch israddedig ac ôl-raddedig - myfyrwyr newydd a’r rhai sy’n parhau â’u hastudiaethau sy’n cael eu hatal rhag mynychu eu cyrsiau’n bersonol oherwydd COVID-19 ym mlwyddyn academaidd 2020 i 2021. 

2. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro’r sefyllfa. 

Myfyrwyr sy’n cael eu hatal rhag mynychu cwrs yn bersonol

3. Bydd yr holl gyrsiau dynodedig sy’n cael eu mynychu’n bersonol fel arfer, ond y mae’r dysgu wedi symud un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol ar-lein oherwydd COVID-19, yn denu’r pecyn arferol o gymorth ffioedd dysgu a chynhaliaeth yn 2020 i 2021. Bydd myfyrwyr ar y cyrsiau hyn yn cael eu trin fel myfyrwyr sy’n dilyn eu cwrs ac sy’n gymwys i wneud cais am gymorth ar yr amod eu bod yn parhau i ymroi i’w cwrs yn foddhaol. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gyrsiau Meistr a Doethuriaeth ôl-radd. 

4. Bydd cyrsiau sydd fel arfer yn cael eu cynnal drwy ddysgu o bell, lle nad yw’n ofynnol i fyfyrwyr fod yn bresennol yn bersonol yn rheolaidd, yn parhau i ddenu’r un pecyn cymorth ffioedd dysgu a cynhaliaeth ag y byddent fel arfer yn 2020 i 2021. Yn unol â’r polisi presennol, nid yw’r rhai sy’n dilyn cwrs drwy ddysgu o bell yn gymwys i gael Grantiau ar gyfer Dibynyddion. 

Myfyrwyr yn cael eu hatal rhag bod yng Nghymru

5. I fod yn gymwys i gael cymorth a statws ffioedd cartref, rhaid i fyfyriwr ddod o dan un o nifer o gategorïau cymhwyso. Mae llawer o'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru (neu ar gyfer rhai achosion, y DU) ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs. Pan fydd myfyrwyr yn cael eu rhwystro rhag bod yng Nghymru wrth astudio ar gwrs dynodedig oherwydd COVID-19, ystyrir eu bod yn absennol dros dro ac ni fydd hyn yn effeithio ar eu cymhwysedd. 

6. Efallai hefyd y bydd yn ofynnol i fyfyrwyr fod â thair blynedd o breswyliad arferol yn y DU a’r Ynysoedd (neu, mewn rhai achosion, yn yr AEE a’r Swistir) i fod yn gymwys. Mae absenoldeb dros dro yn annhebygol o effeithio ar hyn. 

7. Ystyrir bod myfyrwyr cymwys a fyddai fel arfer yn dilyn cwrs dysgu o bell yng Nghymru (neu’r Deyrnas Unedig i fyfyrwyr a gychwynnodd ar y cwrs yng Nghymru), ond sy’n gorfod astudio o bell o’r tu allan i Gymru neu’r Deyrnas Unedig o ganlyniad i COVID-19, yn astudio yng Nghymru, a byddant yn gymwys i gael y pecyn cymorth arferol i fyfyrwyr. 

Hawl myfyrwyr i gymorth costau byw

8. Bydd hawl myfyrwyr israddedig i gael cymorth cynhaliaeth at gostau byw yn parhau i fod yn seiliedig ar ble mae'r myfyriwr yn byw am y rhan fwyaf o bob chwarter o'r flwyddyn academaidd. 

9. Mae'r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr yn gwneud darpariaeth i'r rheini sy'n byw mewn gwahanol leoliadau gael gwahanol symiau o gymorth cynhaliaeth. I’r rheini sy’n dechrau cwrs ar 1 Awst 2018 neu ar ôl hynny (Mae lleoliadau gwahanol yn berthnasol i’r rheini a ddechreuodd gwrs cyn 1 Medi 2018, ond mae’r egwyddor yn aros yr un fath), dyma’r lleoliadau:

  • “byw gartref”: mae’r myfyriwr yn byw yng nghartref rhiant y myfyriwr tra mae’n ymgymryd â’r cwrs presennol
  • “byw oddi cartref, astudio yn Llundain”: mae’r myfyriwr yn byw yn rhywle ar wahân i gartref rhiant y myfyriwr tra:
    • mae’n ymgymryd â chwrs ym Mhrifysgol Llundain
    • mae’n ymgymryd â chwrs mewn sefydliad lle mae'n ofynnol iddo fod yn bresennol yn y flwyddyn academaidd ar safle sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn Llundain, lle darperir o leiaf hanner unrhyw chwarter o'r cwrs ar safle o'r fath
    • mae’n ymgymryd â chwrs rhyngosod yn y flwyddyn academaidd mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd â phrofiad gwaith, neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, yn Llundain lle’r ymgymerir â'r profiad gwaith hwnnw, neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio, am o leiaf hanner unrhyw chwarter
  • “byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall”: mae’r myfyriwr cymwys yn byw yn rhywle ar wahân i gartref rhiant y myfyriwr ond nid yw’n astudio yn Llundain, gan gynnwys mynychu sefydliad y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel rhan o gwrs y myfyriwr neu ymgymryd â lleoliad gwaith tramor mewn blwyddyn Erasmus

10. Bydd gan fyfyrwyr sy’n byw gartref am y rhan fwyaf o dymor oherwydd COVID-19 hawl i’r gyfradd gymorth briodol, ond gellir ailasesu hyn os bydd eu hamgylchiadau’n newid.

11. Gall COVID-19 effeithio ar incwm aelwydydd oherwydd salwch, diweithdra, cyfnod ar ffyrlo neu oherwydd profedigaeth. Bydd myfyrwyr sydd wedi gwneud cais am gymorth cynhaliaeth ar gyfer 2020 i 2021 ac sy’n credu y bydd incwm eu haelwyd ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol (2020 i 2021) yn gostwng o leiaf 15% o’i gymharu â’r incwm aelwyd a ddarparwyd ganddynt pan gawsant eu hasesu i ddechrau, yn gallu gwneud cais am ailasesiad o’u hawl, gallai hyn arwain at hawl i grant cynhaliaeth uwch. Lle mae’n berthnasol, cymerir incwm y ddau riant, neu’r rhiant mwyaf priodol a’u partner, i ystyriaeth er mwyn penderfynu a ddylid cynnal ailasesiad o’r fath.