Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 23 Ionawr 2012.

Cyfnod ymgynghori:
31 Hydref 2011 i 23 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 262 KB

PDF
262 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am glywed eich barn chi am y modd y bydd ymgymerwyr systemau dŵr a charthffosydd yn mabwysiadu carthffosydd a draeniau ochrol newydd sy'n cysylltu â'r rhwydwaith carthffosydd cyhoeddus.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Wedi i Reoliadau’r Diwydiant dŵr (Cynlluniau ar gyfer Mabwysiadu Carthffosydd Preifat) 2011 ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2011 daeth yr ymgymerwyr dŵr a charthffosydd yn gyfrifol am y carthffosydd a draeniau ochrol preifat sy’n bodoli eisoes yng Nghymru a Lloegr ar 1 Hydref 2011. Bellach rydym yn awyddus i gyflwyno proses fabwysiadu orfodol a ategir gan safonau adeiladu gorfodol ar gyfer yr holl garthffosydd a draeniau ochrol newydd a adeiladir.

Byddwn yn cydweithio’n agos ag Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i sicrhau bod safonau adeiladu Cymru yn gyson â’r rhai Lloegr rhag peri dryswch i ddatblygwyr a’r diwydiant dŵr yn y ddwy wlad.

Byddem yn croesawu eich barn am:

  • Symud o’r drefn bresennol i drefniadau mabwysiadu newydd;
  • Safonau adeiladu gorfodol ar gyfer carthffosydd a draeniau ochrol newydd;
  • Rheoliadau drafft i sicrhau bod y broses fabwysiadu’n cael ei chwblhau; ac
  • Asesiad Effaith ar gyfer y Safonau Adeiladu Gorfodol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 11 MB

PDF
11 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.