Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Mae’r data adroddadwy a’r dangosyddion perfformiad allweddol (DPAau) ar gyfer cymeradwywyr rheolaeth adeiladu cofrestredig (CRhACau) yn ategu’r Rheolau Safonau Gweithredol.

Er bod yn rhaid i bob corff rheolaeth adeiladu gadw at y Rheolau Safonau, mae'r data adroddadwy a'r DPAau yn benodol i'r cyrff rheolaeth adeiladu hynny sy'n cael eu rheoleiddio gan y Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu ar ran Gweinidogion Cymru. Nid yw hynny'n cynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru ac felly nid yw adrannau 2 a 3 o'r ddogfen hon yn berthnasol i awdurdodau lleol yng Nghymru. 

Fodd bynnag, gall adran 4 "Nodyn esboniadol" fod o ddefnydd i bob corff rheolaeth adeiladu, gan gynnwys awdurdodau lleol, fel canllaw ar gyfer rhannau o'r drefn reoleiddio ehangach.

Mae trefniadau ar gyfer data adroddadwy a DPAau ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru wrthi'n cael eu paratoi.

Bwriedir i’r data adroddadwy a’r DPAau ddangos bod CRhACau yn gweithredu’n effeithlon ac yn effeithiol, bod adnoddau wedi eu targedu’n briodol a bod CRhACau yn cyflawni eu diben o sicrhau bod deiliaid dyletswyddau yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 2010.

Disgwylir i ddata CRhACau fod yn ddigon manwl i alluogi’r awdurdod rheoleiddio i ddadansoddi’r data a monitro CRhACau wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau ac allbynnau.

2. Dangosyddion perfformiad allweddol (DPAau)

DPA 1 swyddogaethau rheolaeth adeiladu

Mae CRhACau yn sicrhau y gwneir y defnydd gorau o adnoddau ac maent yn gweithredu’n effeithlon ac yn effeithiol i gyflawni eu diben o sicrhau diogelwch a safon adeiladau, gan ddiogelu pobl rhag unrhyw risgiau sy’n gysylltiedig ag adeiladau. 

Gofyniad

Dylai’r sawl sy’n cyflawni gwaith rheolaeth adeiladu sicrhau y bodlonir gofynion Rheoliadau Adeiladu 2010 a dilyn trywydd cyson mewn perthynas â’r holl swyddogaethau rheolaeth adeiladu er mwyn sicrhau bod deiliaid dyletswyddau yn cael eu trin mewn modd cyson i gydymffurfio â’r gyfraith.

Diben

Monitro effeithiolrwydd proses rheoli ceisiadau ac ymgynghori CRhACau a mesur effaith CRhACau ar yr amgylchedd adeiledig.

Data adroddadwy chwarterol

Ymgynghoriadau statudol:

1.1        Dyletswydd i ymgynghori â’r awdurdod gorfodi/tân ac achub mewn perthynas ag adeiladau neu rannau o adeiladau y mae’r Gorchymyn Diwygio Rheoliadau Diogelwch Tân (2005) yn gymwys iddynt. 

Rheoliad 12, Rheoliadau Adeiladau (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010: nifer y tystysgrifau planiau sydd wedi'u rhoi:

  • heb ymgynghori â'r awdurdod tân ac achub 
  • ar ôl ymgynghori â'r awdurdod tân ac achub, a dim atebion wedi dod i law o fewn y cyfnod statudol 

1.2       Dyletswydd i ymgynghori â'r ymgymerwr carthffosiaeth lle bydd H4 o Atodlen 1 o Reoliadau Adeiladu 2010 yn gwneud hynny'n ofynnol mewn perthynas â'r gwaith adeiladu.

Rheoliad 13, Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc) 2010: nifer y tystysgrifau planiau sydd wedi'u rhoi: 

  • heb ymgynghori â'r ymgymerwr carthffosiaeth 
  • ar ôl ymgynghori â'r ymgymerwr carthffosiaeth, a dim atebion wedi dod i law o fewn y cyfnod statudol 

Rheoliad 13, Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc) 2010: nifer y tystysgrifau terfynol sydd wedi'u rhoi: 

  • heb ymgynghori â'r ymgymerwr carthffosiaeth 
  • ar ôl ymgynghori â'r ymgymerwr carthffosiaeth, a dim atebion wedi dod i law o fewn y cyfnod statudol

1.3       Nifer yr hysbysiadau cychwynnol sydd wedi eu cyflwyno i’r awdurdod lleol.

1.4       Nifer yr hysbysiadau cychwynnol sydd wedi eu gwrthod; dylid darparu’r rheswm neu restr o’r wybodaeth ychwanegol y mae’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol.

1.5       Nifer yr hysbysiadau cychwynnol sydd wedi eu canslo/tynnu’n ôl gan CRhACau oherwydd tramgwyddau sydd heb eu datrys.

1.6       Nifer yr adroddiadau asesu planiau (gwirio planiau) sydd wedi eu cwblhau.

1.7       Nifer yr arolygiadau terfynol, wedi'u rhannu rhwng y rhai sydd wedi'u cynnal o bell ac ar y safle. Yn dilyn arolygiad terfynol:

  • nifer y tystysgrifau terfynol llawn sydd wedi eu rhoi ar gyfer gwaith adeiladu sydd wedi ei gwblhau
  • nifer yr adeiladau na roddwyd tystysgrif derfynol ar eu cyfer o fewn 3 mis yn dilyn arolygiad terfynol

1.8       Nifer y ceisiadau gan geisydd (perchennog/adeiladwr yr adeilad) am gopïau o adroddiadau arolygu ar gyfer ei adeilad a nifer yr adroddiadau sydd wedi eu rhoi. 

1.9       Nifer yr adeiladau risg uwch sy’n mynd rhagddynt (hysbysiad cychwynnol wedi'i gyflwyno cyn y diwrnod y daw’r gyfundrefn newydd i rym ar 6 Ebrill 2024 a'r gwaith wedi dechrau erbyn 1 Hydref 2024). 

DPA 2 gorfodi ac ymyriadau

Dylai CRhACau sicrhau bod eu hymyriadau a’u gweithgareddau gorfodi yn targedu deiliaid dyletswyddau a gweithgareddau sy’n peri’r risgiau mwyaf difrifol o ran bodloni unrhyw ofynion cymwys yn Rheoliadau Adeiladu 2010.

Gofyniad

Dylai gweithgareddau gorfodi ac ymyrryd fod yn gymesur â lefel y risg gan gynnwys difrifoldeb posibl achos o dorri Rheoliadau Adeiladu 2010. Rhaid i CRhACau ystyried niwed posibl a niwed gwirioneddol y risgiau hynny, a difrifoldeb unrhyw achos o dorri’r gyfraith.

Diben

Monitro pa mor effeithiol y mae CRhACau yn cyflawni eu swyddogaethau a sicrhau bod CRhACau yn defnyddio’r holl adnoddau ymyrryd a gorfodi rheoleiddiol sydd ar gael iddynt, fel y bo’n briodol. 

Data adroddadwy chwarterol

2.1       Nifer y cansliadau mewn perthynas â hysbysiadau cychwynnol sydd wedi eu rhoi i awdurdodau lleol yn sgil tramgwyddau sydd heb eu datrys, gan gynnwys enw’r awdurdod lleol yr anfonwyd y cansliad mewn perthynas â’r hysbysiad cychwynnol iddo.

2.2       Nifer y dychweliadau mewn perthynas â hysbysiadau cychwynnol i’r awdurdod lleol am nad yw’r Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu wedi gallu cyflawni ei swyddogaeth.

Data adroddadwy blynyddol

Trwy gydol mis Chwefror, o 2025 ymlaen:

2.3       Nifer y tramgwyddau a welwyd yn ystod arolygiadau. 

2.4       Nifer y gohebiaethau ysgrifenedig ynghylch diffyg cydymffurfedd (gan gynnwys hysbysiadau electronig) sydd wedi eu rhoi, gan gynnwys disgrifiad o’r diffyg cydymffurfedd.

2.5       Nifer yr ymyriadau ataliol neu gywirol sydd wedi eu cymryd sydd wedi galluogi’r deiliad dyletswyddau i unioni’r tramgwydd ar unwaith.

DPA 3 rheoli risg

Yn unol â phrosesau rheoli risg, mae 90%* o’r prosiectau y nodir eu bod yn ‘ansafonol’ yn ddarostyngedig i amserlen arolygu bwrpasol sy’n nodi pwyntiau arolygu hanfodol ychwanegol, a dangosir tystiolaeth o hynny at ddiben adolygu mewnol.

* Caiff y ganran ei newid o flwyddyn i flwyddyn (Blwyddyn 1:  90%, Blwyddyn 2: 92%, Blwyddyn 3: 95%).

Gofyniad

Mae a wnelo rheoli risg prosiectau yn effeithiol â dyrannu gwaith rheolaeth adeiladu i bersonau cymwys er mwyn sicrhau bod ffactorau risg yn cael eu hasesu o’r dechrau a bod cynlluniau arolygu yn cyfateb i’r math o brosiect o dan sylw, yn ogystal â maint a graddfa’r prosiect hwnnw.

Diben

Monitro effeithiolrwydd prosesau risg CRhACau.

Data adroddadwy chwarterol

3.1       Nifer yr adeiladau sydd wedi eu nodi’n ansafonol (yn wahanol i adeiladau cyffredin) yn dilyn asesiad o geisiadau rheolaeth adeiladu planiau llawn neu hysbysiadau cychwynnol.

3.2       Nifer y prosiectau ansafonol pan fo proses rheoli risg CRhACau wedi nodi pwyntiau arolygu hanfodol ychwanegol i’w cynnwys yn yr amserlen wasanaethau / cynllun arolygu.

3.3       Nifer yr arolygiadau o adeiladau ansafonol h.y. prosiectau Dosbarth 3G (o bell ac ar y safle) sydd wedi nodi materion diffyg cydymffurfio, gan ddarparu manylion am yr holl ddiffyg cydymffurfio sydd wedi ei nodi, gan gynnwys yr achosion sydd wedi eu hunioni ar unwaith.

3.4       Nifer yr adeiladau ansafonol a disgrifiad o’r adeiladau ansafonol pan nad yw’r adeilad cyfan neu ran ohono yn dilyn yr egwyddorion dylunio sydd wedi'u cymeradwyo gan y diwydiant ac sydd wedi'u nodi yn y canllawiau adeiladu perthnasol (gweler canllawiau adeiladau ansafonol yn y Nodyn Esboniadol) fel modd i gydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 2010.

DPA 4 cymhwysedd (gwybodaeth ac arbenigedd)

Caiff 100% o’r gweithgareddau cyfyngedig eu cyflawni gan Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (ACAau).

Mae 95% o’r gweithwyr proffesiynol ym maes rheolaeth adeiladu (gan gynnwys ACAau ac eraill) sy’n cynnal gweithgareddau CRhAaCau wedi dangos tystiolaeth o'u datblygiad proffesiynol parhaus sy'n berthnasol i'w rôl o fewn cyfnod o 12 mis.

Gofyniad

Rhaid i CRhACau sicrhau bod adnoddau priodol ar gyfer swyddogaethau rheolaeth adeiladu a bod ganddynt y bobl gymwys a’r adnoddau angenrheidiol i reoli’r risgiau sy’n ymwneud â bodloni gofynion Rheoliadau Adeiladu 2010.

Diben

Asesu bod gan CRhACau adnoddau sy’n ddigon profiadol, cymwysedig a chymwys i gyflawni eu dyletswyddau o ran llwythi gwaith presennol ac yn y dyfodol, cymhlethdod a lleoliad gwaith a newidiadau i reoliadau a chanllawiau.

Data adroddadwy blynyddol

4.1       Cymhwysedd:

  • Darparu cyfanswm nifer yr ACAau wedi eu nodi yn ôl dosbarth:
     
  • arolygwyr adeiladu Dosbarth 1
  • arolygwyr adeiladu Dosbarth 2
  • arolygwyr adeiladu Dosbarth 3
  • arolygwyr adeiladu Dosbarth 4

4.2       Nifer y gweithwyr proffesiynol eraill ym maes rheolaeth adeiladu (nad ydynt yn ACAau) â gwybodaeth a phrofiad ym maes rheolaeth adeiladu.

4.3       Pobl a sgiliau:

  • nifer yr ACAau yn ôl y math o ymgysylltiad: amser llawn; rhan-amser; wedi eu cyflogi gan CRhAC yn uniongyrchol; ar gontract allanol
  • nifer yr ACAau cyfwerth ag amser llawn sydd wedi eu dyrannu yn erbyn nifer y prosiectau sy’n gofyn am ACAau
  • nifer y staff gweinyddol/cymorth rheolaeth adeiladu cyfwerth ag amser llawn

4.4 Cadw a hyfforddi staff:

  • nifer yr ACAau cyfwerth ag amser llawn, gan gynnwys y rhai ar gontract allanol; gweithwyr proffesiynol ym maes rheolaeth adeiladu (nad ydynt yn ACA); staff gweinyddol/cymorth sydd wedi gadael, a’r nifer sydd wedi eu llogi
  • cyfanswm y diwrnodau hyfforddi y mae gweithwyr proffesiynol ym maes rheolaeth adeiladu wedi cymryd rhan ynddynt
  • cyfanswm y diwrnodau datblygu proffesiynol parhaus/diwrnodau datblygu eraill y mae ACAau wedi cymryd rhan ynddynt

DPA 5 systemau a rheolaethau

CRhAaCu wedi cydymffurfio 100% â chynllun rheoli ansawdd ac wedi pasio adolygiad blynyddol o gynllun rheoli ansawdd achrededig.

Gofyniad

Dylai CRhACau weithredu cynllun rheoli ansawdd, cydymffurfio ag ef, a’i gynnal, a dylai fod ganddynt systemau a rheolaethau effeithiol ac effeithlon i reoli a lliniaru risgiau i swyddogaethau rheolaeth adeiladu.

Diben

Asesu graddau, dyfnder ac effeithiolrwydd systemau rheoli prosesau CRhACau.

Data adroddadwy blynyddol

5.1 System rheoli prosesau:

  • Mae gan CRhAC system rheoli ansawdd achrededig ("QMS") (oes / na)
  • Mae gan CRhAC QMS heb ei achredu yn ei le - Rhowch enw'r QMS
  • Nid oes gan CRhAC QMS achrededig na QMS heb ei yn ei le

5.2 Gweithgareddau archwilio:

  • nifer yr archwiliadau mewnol a gynlluniwyd fel rhan o'r system rheoli ansawdd sydd wedi'u cwblhau
  • nifer yr archwiliadau mewnol eraill a gynlluniwyd sydd 
  • nifer yr archwiliadau mewnol nas cynlluniwyd sydd wedi eu cwblhau a’r rheswm dros yr archwiliad
  • nifer yr adolygiadau allanol a’r math o adolygiadau allanol sydd wedi eu cwblhau

DPA 6 ymdrin â chwynion ac apelau

Caiff 95% o’r cwynion sy’n ymwneud â chydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu 2010 eu datrys yn unol â gweithdrefn ac amserlenni cyhoeddedig y CRhAC.

Gofyniad

Dylai CRhACau gynnal trefniadau rheoli priodol ar gyfer ymdrin â chwynion er mwyn gallu gwella’n barhaus.

Diben

Monitro trefniadau rheoli cwynion CRhACau er mwyn sicrhau bod ganddynt drefniadau sydd wedi eu diffinio’n glir ar gyfer ymdrin yn effeithiol â chwynion ysgrifenedig a chwynion llafar.

Data adroddadwy blynyddol

6.1       Cwynion yn ymwneud â diffyg cydymffurfedd â Rheoliadau Adeiladu 2010:

  • nifer y cwynion yn ymwneud â diffyg cydymffurfedd sydd wedi dod i law fel cyfran o brosiectau adeiladu parhaus

6.2       Datrys cwynion:

  • nifer y cwynion yn ymwneud â diffyg cydymffurfedd â Rheoliadau Adeiladu 2010 nad ydynt wedi eu datrys yn unol ag amserlenni’r CRhAC ei hun

6.3       Cyfeirio cwynion i fyny:

  • nifer y cwynion yn ymwneud â diffyg cydymffurfedd â Rheoliadau Adeiladu 2010 sydd wedi eu cyfeirio i fyny i'r awdurdod rheoleiddio  Rhowch fanylion y canlyniad (h.y. cwyn wedi'i chynnal, ei chynnal yn rhannol, neu heb ei chynnal).

3. Dull adrodd

Mae'r gwaith o ddatblygu datrysiad digidol er mwyn i CRhACau allu cyflwyno data trefniadau monitro'r Rheolau Safonau Gweithredol i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu (RhDA) ar y gweill ar hyn o bryd. Bydda yr RhDA yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law.

Pa mor aml y bydd angen adrodd

Data chwarterol

Bydd angen darparu data chwarterol am y DPAau a'r data adroddadwy canlynol:

DPA 1 Swyddogaethau rheoli adeiladu

  • CRhACau i baratoi adroddiad ar 1.1 i 1.9

DPA 2 Gorfodi ac ymyriadau

  • CRhACau i baratoi adroddiad ar 2.1 i 2.2

DPA 3 Rheoli Risg

  • CRhACau i baratoi adroddiad ar 3.1 i 3.4

Bydd angen ffurflenni data chwarterol, i'w cyflwyno i'r awdurdod rheoleiddio fel a ganlyn:

  • 1 Ebrill i 30 Mehefin erbyn 31 Gorffennaf
  • 1 Gorffennaf i 30 Medi erbyn 31 Hydref
  • 1 Hydref i 31 Rhagfyr erbyn 31 Ionawr
  • 1 Ionawr i 31 Mawrth erbyn 30 Ebrill

Ffurflenni data blynyddol

Bydd angen ffurflenni data blynyddol, i'w cyflwyno i'r awdurdod rheoleiddio erbyn 30 Ebrill ar gyfer y DPAau a'r data adroddadwy:

DPA 2 Gorfodi ac ymyriadau

  • CRhACau i baratoi adroddiad ar 2.3 i 2.5 (cipolwg blynyddol ar 4 wythnos o weithgareddau ym mis Chwefror, o 2025 ymlaen)

DPA 4 Cymhwysedd (gwybodaeth ac arbenigedd)

  • CRhACau i baratoi adroddiad ar 4.1 i 4.4

DPA 5 Systemau a rheolaethau

  • pob CRhAC i baratoi adroddiad ar 5.1 a 5.2

DPA 6 Ymdrin â chwynion ac apeliadau

  • CRhACau i baratoi adroddiad ar 6.1 i 6.3

4. Nodyn esboniadol

Mae’r nodyn esboniadol hwn yn gynghorol a dylai gynorthwyo cyrff rheolaeth adeiladu i ddwyn ynghyd y gofynion o ran data a nodir yn y trefniadau monitro sy’n ategu’r Rheoelau Safonau Gweithredol, ac adrodd arnynt.

Ystyried safbwyntiau a gaiff eu mynegi gan ymgynghorai statudol - Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 a Rheoliadau Adeiladu 2010

Y gofyniad statudol yn y ddeddfwriaeth yw i gyrff rheolaeth adeiladu (CRhAau) roi sylw i’r safbwyntiau a gaiff eu mynegi gan yr ymgynghorai statudol; rhaid i CRhAau ystyried y safbwyntiau a gaiff eu mynegi.

Os caiff barn yr ymgynghorai statudol ei diystyru am fod amgylchiadau achos yn awgrymu bod ystyriaethau eraill yn drech na’r farn a fynegwyd, dylai fod rheswm clir sy’n benodol i’r achos dros fynd yn erbyn y farn a dylid ei chofnodi. 

Trefniadau pontio i'r gyfundrefn adeiladau risg uwch ("HRB") sy'n mynd rhagddynt   

I drefniadau pontio fod yn gymwys i waith HRB, rhaid bod hysbysiad cychwynnol wedi'i roi i awdurdod lleol (heb ei wrthod) neu bod cynlluniau llawn wedi'u hadneuo (a heb eu gwrthod) gydag awdurdod lleol cyn i'r drefn newydd ddod i rym (6 Ebrill 2024). Hefyd, rhaid dechrau'r gwaith HRB erbyn 1 Hydref 2024. Os yw prosiectau HRB yn bodloni'r ddau faen prawf hyn, byddent yn dal i fod, hyd at eu cwblhau, o dan reolaeth adeiladu'r sector preifat. Os nad yw prosiect yn gallu bodloni'r naill faen prawf neu'r llall, caiff ei drosglwyddo i reolaeth adeiladu'r awdurdod lleol. 

Os bydd angen hysbysiad cychwynnol ar gyfer y gwaith adeiladu sy'n mynd rhagddo, rhaid i'r arolygydd cymeradwy sy'n goruchwylio'r prosiect gofrestru fel cymeradwywr rheolaeth adeiladu erbyn 6 Ebrill 2024 er mwyn iddo gael parhau i oruchwylio'r gwaith HRB dan sylw. 

Adroddiadau arolygu

Wrth ddarparu’r data adroddadwy, y ceisydd yw’r person sy’n gwneud cais i’r CRhAC am gopi o adroddiad arolygu.

Arolygiadau o bell

Arolygiadau o bell yw arolygiadau, adolygiadau neu weithgareddau cysylltiedig eraill a gynhelir mewn man ar wahân i’r safle arolygu. Gallant gael eu cynnal yn fyw, yn ôl-weithredol neu gyfuniad o’r ddau.

Gallant gynnwys teithiau rhithwir byw sy’n defnyddio datrysiadau digidol fel Microsoft Teams neu ddronau, gan dynnu lluniau llonydd a recordiadau eraill yn ystod y broses at ddibenion tystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso tystiolaeth, er enghraifft, gwybodaeth dechnegol a dogfennaeth wedi ei chwblhau gyda delweddau ffotograffig ategol.

Gall arolygiadau o bell gynnwys gweithgarwch sydd wedi ei gynllunio fel y’i nodir yng nghynllun arolygu prosiect, neu weithgarwch a sbardunir gan ddiffyg cydymffurfio neu wybodaeth newydd.

Gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig

Mewn perthynas ag awdurdodau rheolaeth adeiladu, mae adran 46A o Ddeddf Adeiladu 1984 yn darparu y caiff swyddogaethau rheolaeth adeiladu rhagnodedig eu pennu’n swyddogaethau y bydd awdurdodau rheolaeth adeiladu ond yn gallu eu cyflawni ar ôl yn gyntaf gael ac ystyried cyngor gan ACA sydd wedi'i gofrestru ar gyfer y math o adeilad a gwaith adeiladu y mae'r swyddogaeth yn ymwneud â nhw. 

Mae adran 54B o Ddeddf Adeiladu 1984 yn gwneud yr un ddarpariaeth mewn perthynas â CRhACau. 

Mae'r adrannau hyn hefyd yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau lleol a CRhACau gynnal rhai gweithgareddau drwy ACA sydd wedi'i gofrestru ar gyfer y math o adeilad a'r gwaith adeiladu y mae'r gweithgaredd yn ymwneud ag ef.

Rhagnodir y gweithgareddau a'r swyddogaethau cyfyngedig yn Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024.

Safle, llain ac adeilad

Safle: y darn o dir i’w ddatblygu sydd wedi ei amgáu o fewn ffiniau’r datblygiad. Gallai ffensys diogelwch, palisiau neu rywbeth tebyg nodi terfynau’r ffin.

Llain: adeilad unigol neu sawl adeilad o fewn y safle, neu sawl uned llety o fewn adeilad.

Adeiladau: yr adeilad a’r unedau o fewn yr adeilad hwnnw.  Gallai’r unedau o fewn adeilad fod yn gymysgedd o rai preswyl/di-breswyl/masnachol neu gallent fod yn rhai preswyl i gyd, yn rhai masnachol i gyd, neu’n rhai di-breswyl i gyd.

Manylion yr adeilad a/neu leiniau yw’r hyn a gofnodir yn y planiau a dylent fod yn ddigon manwl i alluogi’r awdurdod rheoleiddio, CRhAau ac ACAau i nodi maint a graddfa’r adeilad a’i gydberthynas ag adeiladau eraill, ffyrdd, draeniau, carthffosydd ac ati.

Adeilad(au) safonol ac ansafonol

Mae adeilad safonol wedi'i ddylunio a'i adeiladu yn unol â safonau a chodau cyffredin a gydnabyddir gan y diwydiant. Bydd Dogfennau Cymeradwy ar gael ar gyfer llawer o adeiladau safonol. Dylai fod gan unrhyw un sy'n defnyddio'r Dogfennau Cymeradwy ddigon o wybodaeth a sgiliau i ddeall y canllawiau a'u cymhwyso'n gywir i'r gwaith adeiladu. Mae hyn yn bwysig gan nad yw dilyn y canllawiau yn gwarantu y bydd y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau adeiladu a'r Dogfennau Cymeradwy. 

Mae adeiladau ansafonol yn adeiladau sydd ag unrhyw beth ynddyn nhw sydd y tu allan i dechnegau adeiladu cyffredin yng Nghymru neu Loegr, ac nad ydynt yn dilyn egwyddorion dylunio a gydnabyddir gan y diwydiant ac a nodir mewn canllawiau adeiladu perthnasol. Gallent gynnwys yr adeiladau hynny nad ydynt yn ffitio set tybiannol o ddulliau adeiladu cyffredin a hirsefydlog. 

Mae canllawiau adeiladu yn cynnwys (ymhlith pethau eraill): Dogfennau cymeradwy, Safonau Prydeinig a Dogfennau Technegol. 

At ddibenion Dosbarth 3G y Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (BICoF) a rheoleiddio'r proffesiwn yn unig, gall gwaith 'ansafonol' gynnwys unrhyw un o'r canlynol (ymhlith pethau eraill): 

  • Adeiladau sydd wedi'u cynllunio ar sail yr egwyddorion cyntaf ac nid o ganllawiau neu ganllawiau adeiladu safonol.
  • Adeiladau â deiliadaethau anarferol neu gymhleth iawn (e.e. rhai manwerthu defnydd cymysg mawr, canolfannau cynadledda ac ysbytai)
  • Adeiladau mawr neu uchel iawn, 
  • Adeiladau pren mawr, 
  • Rhai adeiladau sy'n defnyddio dulliau adeiladu modern. 

Defnyddio safonau cydnabyddedig eraill y tu hwnt i gwmpas y Dogfennau Cymeradwy

Adeilad y cofnodir nad yw ei ddyluniad neu’r dull o’i adeiladu yn dilyn y Dogfennau Cymeradwy (yn rhannol neu’n llawn) a/neu god(au) neu safon(au) ategol y cyfeirir atynt yn uniongyrchol fel rhan o’r canllawiau mewn Dogfen Gymeradwy, yn ystod y broses o gymeradwyo rheolaeth adeiladu neu yn ystod arolygiad.