Neidio i'r prif gynnwys

Ni fydd angen i ffermwyr sy'n aelodau o gynllun Gwarant Fferm Da Byw (FAWL) gwblhau gofynion ‘Mesur’ a ‘Cynllunio’ Cylch Gwella Iechyd Anifeiliaid (AHIC) ar wahân ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda Chynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru (WLBP) ar drefniadau a fydd yn caniatáu i aelodau FAWL ddefnyddio eu haelodaeth o'r cynllun i ddangos bod gofynion AHIC wedi'u bodloni ar gyfer 2026. 

Rhaid i ffermwyr gwblhau'r holl ofynion perthnasol eraill ar gyfer Gweithred Gyffredinol 12 (UA12), gan gynnwys y gofynion sgiliau a sgorio lles anifeiliaid perthnasol a'r Asesiad Bioddiogelwch Anifeiliaid sy'n dod i'r fferm erbyn diwedd mis Rhagfyr. 

Wrth ddiweddaru eu Dangosfwrdd Cyffredinol ar gyfer yr SFS, bydd aelodau FAWL yn gallu datgan eu haelodaeth FAWL. Bydd hyn yn cael ei dderbyn fel cadarnhad bod y gofynion AHIC perthnasol wedi'u bodloni ar gyfer y flwyddyn. 

Mae'r cytundeb hefyd yn darparu'r sail ar gyfer trefniadau i integreiddio gofynion iechyd a lles anifeiliaid UA12 perthnasol yn Adolygiad Iechyd a Lles Da Byw Blynyddol FAWL o 2027. Darperir rhagor o fanylion wrth i'r trefniadau hyn gael eu datblygu. 

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:  

“Bydd y cytundeb hwn yn lleihau dyblygu i ffermwyr gan gynnal y safonau uchel o iechyd a lles anifeiliaid rydyn ni'n eu disgwyl o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. 

“Mae hefyd yn cefnogi'r berthynas werthfawr rhwng ffermwyr a'u milfeddygon, gan helpu ffermwyr i gynllunio'n effeithiol ar gyfer iechyd a lles eu da byw, a'u busnesau. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda chynlluniau gwarant fferm cydnabyddedig eraill, gan gynnwys y Tractor Coch a ‘Pasture for Life’, ac mae'n disgwyl cadarnhau trefniadau pellach yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Nid yw'r cyhoeddiad hwn yn effeithio ar ffermwyr nad ydynt yn aelodau o gynllun gwarant fferm cydnabyddedig a dylent barhau i ddilyn canllawiau UA12 a gyhoeddwyd a chwblhau'r gofynion a nodwyd erbyn diwedd mis Rhagfyr hwn. 

Mae rhagor o wybodaeth am y trefniadau ar gyfer cynlluniau gwarant fferm ac UA12 ar gael yma: Gweithred Gyffredinol 12: Iechyd a lles anifeiliaid.