Y trefniadau ar gyfer monitro perfformiad a risgiau yn ein system iechyd.
Cynnwys
O dan y Cyd-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal o leiaf ddwywaith y flwyddyn rhwng:
- Swyddogion Llywodraeth Cymru
- Archwilio Cymru
- Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Maent yn trafod sefyllfa pob un o'r byrddau iechyd, ymddiriedolaethau’r GIG a’r awdurdodau iechyd arbennig o ran:
- llywodraethu
- ansawdd
- perfformiad gwasanaethau
- rheolaeth ariannol
Rydym yn trafod gwybodaeth a thystiolaeth o’r cyfarfodydd hyn ac yn gwneud argymhellion i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch lefelau uwchgyfeirio yn y dyfodol.
Mae ein fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrryd yn nodi sut rydym yn gwirio perfformiad ac yn asesu risgiau yn y GIG.
Ceir pedair lefel ar hyn o bryd.
Pedair lefel o drefniadau llywodraethu
Trefniadau arferol
Mae sefydliadau’r GIG yn gyfrifol am gynnal trefniadau llywodraethu priodol. Mae angen iddynt sicrhau bod y rhain yn effeithiol er mwyn darparu gofal diogel o ansawdd da.
Monitro uwch
Bydd sefydliadau’r GIG yn sefydlu prosesau effeithiol i ymdrin â materion sy’n peri pryder. Bydd Llywodraeth Cymru yn cydgysylltu gweithgarwch, yn arsylwi, yn herio ac yn adolygu’r hyn a gyflawnir.
Ymyrraeth wedi’i thargedu
Bydd Llywodraeth Cymru, cyrff eraill y GIG neu gyrff adolygu allanol yn gweithio gyda sefydliadau pan fo pryderon difrifol wedi’u nodi. Gallai cymorth gynnwys gwaith am gyfnod penodol megis:
- mentora
- cyngor gan unigolion profiadol sydd â’r sgiliau clinigol neu’r sgiliau llywodraethu angenrheidiol
- gwaith adolygu
- mesurau arbennig
O dan amgylchiadau eithriadol, gall Llywodraeth Cymru nodi pryderon difrifol iawn am un o sefydliadau’r GIG. Caiff Gweinidogion Cymru ymyrryd fel y nodir yn Neddf y GIG (Cymru) 2006. Gall hyn gynnwys gwahardd dros dro neu atal pwerau a dyletswyddau aelodau unigol neu holl aelodau o fwrdd y sefydliad GIG.
Dewis olaf yw’r pwerau ffurfiol hyn, pan fo pob ymyrraeth arall yn annhebygol o lwyddo.
Statws uchwgyfeirio sefydliadau’r GIG yng Nghymru
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid (uwchgyfeiriwyd o statws trefniadau arferol).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mesurau arbennig (ers mis Chwefror 2023).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
Monitro uwch ar gyfer gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol (isgyfeiriwyd o ymyrraeth wedi’i thargedu).
Monitro uwch ar gyfer ansawdd a llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, ymddiriedaeth a hyder (isgyfeiriwyd o ymyrraeth wedi’i thargedu).
Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer materion ansawdd cysylltiedig â pherfformiad.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Ymyrraeth wedi’i thargedu ar gyfer cynllunio a chyllid.
Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd.
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid (uwchgyfeiriwyd o statws trefniadau arferol).
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Monitro uwch ar gyfer cynllunio a chyllid.
Monitro uwch ar gyfer perfformiad ac ansawdd.
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Trefniadau arferol.
Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Trefniadau arferol.
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Trefniadau arferol.
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Trefniadau arferol.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Trefniadau arferol.
Gwybodaeth ychwanegol
Uwchgynadleddau gweinidogol
Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd uwchgynadleddau gweinidogol ynghylch gwasanaethau ac arbenigeddau gofal a gynlluniwyd. Am fwy o wybodaeth, ewch i: Uwchgynadleddau gweinidogol ar ofal cymdeithasol ac iechyd: adroddiadau
Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd y GIG
Mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) 2023