Cymru fydd y genedl ddatganoledig gyntaf yn y DU i dreialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gan ddefnyddio data i adnabod etholwyr posibl.
Bydd pedwar awdurdod lleol yn cymryd rhan mewn cynlluniau peilot i gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, gan helpu i wneud y broses o gymryd rhan mewn democratiaeth yn fwy hygyrch a chynhwysol.
Bydd y cynlluniau peilot, sydd wedi’u sefydlu o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, yn treialu gwahanol ddulliau o gofrestru pleidleiswyr heb fod angen gwneud cais yn ffurfiol. Yr unig gofrestr a ddefnyddir fydd y gofrestr llywodraeth leol, sy'n cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau'r Senedd hefyd.
Bydd Sir Gaerfyrddin a Phowys yn gwneud copi o'r gofrestr llywodraeth leol gan ddefnyddio data a gedwir yn lleol. Bydd hyn yn caniatáu iddynt gymharu pa ffynonellau data fyddai orau i adnabod yr etholwyr lleol, heb newid y gofrestr bresennol.
Bydd Gwynedd, Casnewydd a Phowys yn nodi ac yn gwirio etholwyr posibl gan ddefnyddio data sy'n cael ei gadw gan y cyngor, cyn eu hychwanegu at y gofrestr. Mae cynllun peilot Gwynedd yn cynnwys gwaith ychwanegol i dargedu cymunedau sy'n anoddach eu cyrraedd.
Bydd etholwyr posibl sydd wedi’u nodi drwy'r cynlluniau peilot yn cael llythyrau cyn hir yn esbonio'r broses a'r dewisiadau sydd ar gael iddynt. Mae hynny'n cynnwys yr hawl i beidio â chymryd rhan, a chyfnod o 60 diwrnod cyn iddynt gael eu hychwanegu at y gofrestr.
Ni fydd yr etholwyr newydd hyn yn cael eu hychwanegu at y fersiwn agored o'r gofrestr llywodraeth leol sydd ar gael at ddibenion marchnata, er mwyn gwarchod preifatrwydd pobl sy'n cael eu hychwanegu at y gofrestr yn awtomatig.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant:
Trwy wneud y broses gofrestru yn fwy hwylus, mae'r gwaith arloesol hwn yn helpu i sicrhau y gall pawb gymryd rhan yn ein proses ddemocrataidd, yn enwedig pobl ifanc a grwpiau sydd heb eu cynrychioli'n ddigonol yn y gorffennol.
Daw'r cynllun hwn ar ôl inni roi'r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor cymwys bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac mewn etholiadau lleol, gan ddangos ein hymrwymiad parhaus i ddemocratiaeth fwy cynhwysol yng Nghymru.
Bydd y Comisiwn Etholiadol yn gwerthuso'r cynlluniau peilot erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried y canfyddiadau cyn gwneud penderfyniadau ynghylch cyflwyno proses genedlaethol o gofrestru etholwyr yn awtomatig, a fyddai'n golygu deddfu ymhellach.