Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar esemptiadau (adrannau 9 i 12) a rhyddhadau (adrannau 26 i 33) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Ddeddf TGT yn gwahaniaethu’n glir rhwng esemptiadau (adrannau 9 i 12) a rhyddhadau (adrannau 26 i 33). Yn fras, pan mae gwarediad yn esempt, nid oes atebolrwydd i dalu’r dreth: nid oes raid rhoi cyfrif amdani na’i hawlio ar ffurflen dreth. Pan mae gwarediad deunydd yn gymwys i gael rhyddhad, mae angen i weithredwr safle tirlenwi roi cyfrif am y gwarediad a hawlio’r rhyddhad ar ffurflen dreth. Pan mae hynny wedi cael ei wneud a bod cydymffurfiaeth wedi digwydd ag unrhyw amodau perthnasol, nid yw’r dreth i'w chodi ar waredu deunydd sy’n elwa ar y rhyddhad.

Nid yw’r esemptiadau a’r rhyddhadau ond yn ymwneud â gwarediadau ar safle tirlenwi awdurdodedig. Nid yw gwarediadau heb eu hawdurdodi (gwaredu deunydd yn rhywle heblaw ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig) yn elwa ar esemptiadau a rhyddhadau, a gallan nhw fod yn agored i’r dreth ar y gyfradd anawdurdodedig (gweler y canllawiau ar warediadau anawdurdodedig).

DTGT/4170 Esemptiadau

Gwarediadau lluosog deunydd ar yr un safle

Mae gwarediad deunydd yn esempt pan mae’r deunydd wedi cael ei gynnwys eisoes ar ffurflen dreth a bod treth wedi’i thalu wrth ei waredu ar yr un safle. Mae hyn yn sicrhau mai dim ond un waith y bydd gwarediadau lluosog o’r un deunydd ar yr un safle awdurdodedig yn agored i TGT.

Disgwylir y gallai'r esemptiad fod yn gymwys yng nghyswllt gweithgarwch penodol ar safle tirlenwi (gweler y canllawiau perthnasol), pan ellid symud deunydd a ddefnyddiwyd mewn un gweithgarwch penodol ar safle tirlenwi (megis creu ffordd dros dro at ardal gwarediadau tirlenwi) a’i ddefnyddio naill ai mewn gweithgareddau penodol arall ar y safle tirlenwi neu ei waredu mewn ardal gwaredu tirlenwi ar yr un safle. Mae’r esemptiad yn sicrhau mai unwaith yn unig y bydd y deunydd yn cael ei drethu.

Mynwentydd Anifeiliaid Anwes

Mae’r esemptiad yn berthnasol i fynwentydd anifeiliaid anwes, yn enwedig safle tirlenwi awdurdodedig nad ydynt ond yn derbyn gwaredu cyrff neu lwch anifeiliaid marw (ac unrhyw flwch neu wrn sy’n eu cynnwys). Mae gwarediadau mewn mynwentydd anifeiliaid anwes yn esempt o TGT, ac nid oes raid i weithredwyr mynwentydd o'r fath gofrestru gydag ACC i gyfrif ar gyfer TGT. Nid yw’r esemptiad yn cwmpasu safleoedd tirlenwi awdurdodedig eraill sy'n derbyn gweddillion anifeiliaid anwes a mathau eraill o wastraff: rhaid i safleoedd o'r fath gofrestru gydag ACC yn unol â’r rheolau arferol (trowch at y rheolau perthnasol ar gofrestru) ac mae gwaredu gweddillion anifeiliaid anwes ar safleoedd o’r fath yn agored i'w trethu.

DTGT/4180 Rhyddhadau

Deunydd a dynnir o ddŵr wrth gloddio

Mae’r rhyddhad hwn yn gymwys i waredu deunydd sy’n cael ei dynnu wrth garthu, ar gyfer unrhyw bwrpas, o wely rhai dyfrffyrdd penodol, gan gynnwys afonydd, camlesi, dociau a harbyrau. Mae hefyd yn gymwys i ddeunydd mwynol sy’n digwydd yn naturiol ac sy’n cael ei dynnu wrth garthu gwely’r môr fel rhan o weithrediadau i gael deunyddiau megis tywod a graean.

Mae’r rhyddhad yn ymestyn i ddeunyddiau cymwys sy’n cael eu hychwanegu at y deunydd sy’n cael ei garthu fel sydd ei angen ar gyfer sicrhau nad yw’r deunydd sy'n cael ei garthu yn un hylif (ac felly er mwyn gallu ei waredu drwy dirlenwi). Rhagwelir y byddai priodoleddau dadhydradu gan y deunydd cymwys sy’n cael ei ychwanegu neu byddai’n clymu cynnwys lleithedd gormodol o fewn y gwastraff.

Deunydd sy’n deillio o fwyngloddio a chwarela

Mae’r rhyddhad hwn yn gymwys i waredu deunydd sy’n digwydd yn naturiol ac sy’n cael ei echdynnu o'r ddaear o ganlyniad i waith cloddio neu chwarela. Mae rhyddhad i waredu deunydd o'r fath os nad yw'r deunydd wedi bod yn destun proses arall, neu heb gael ei addasu'n gemegol, rhwng yr adeg pryd cafodd ei echdynnu a’i waredu.

Ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli

Mae’r rhyddhad hwn yn cwmpasu gwaredu deunydd cymwys ar safle tirlenwi (neu ran ohono) a oedd yn arfer bod yn fwynglawdd brig neu'n chwarel.

Mae’r rhyddhad ar gael pan fodlonir yr amodau a ganlyn:

  • Mae'r gwarediad yn cynnwys deunydd cymwys yn unig neu gymysgeddau cymwys o ddeunydd yn gyfan gwbl (ond nid cymysgeddau cymwys o ddeunydd sy'n cynnwys gronynnau mân yn unig)
  • mae’n un o ofynion y caniatâd cynllunio sy’n gysylltiedig â’r safle fod rhaid i'r safle (neu’r rhan dan sylw) gael ei ail-lenwi’n llwyr neu’n rhannol yn dilyn y gwaith mwyngloddio brig neu chwarela, ac
  • nid oes gwarediadau trethadwy eraill wedi cael eu gwneud ar y safle (neu ran ohono) heblaw am warediadau sy’n gymwys am y rhyddhad hwn neu’r rhyddhad am waredu deunydd sy’n deillio o waith mwyngloddio a chwarela (neu’r rhyddhadau cyfatebol o dan y dreth tirlenwi).