Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y trefniadau rhyddhad ar gyfer gwaith adfer safle o dan Rannau 2 a 3 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/4000 Mathau o Ryddhad: Adfer Safle

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi golwg gyffredinol ar y trefniadau rhyddhad ar gyfer gwaith adfer safle (o dan Rannau 2 a 3 o’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi).

Mae’r dull a ddefnyddir ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn wahanol i’r trefniadau mewn rhannau eraill o’r DU, gan y bydd angen i weithredwyr safleoedd tirlenwi gael eu cymeradwyo gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) i wneud gwaith ar adfer safleoedd cyn hawlio rhyddhad yn eu.

Nod y dull hwn yw cynnig sicrwydd ac eglurder i weithredwyr safleoedd tirlenwi ac ACC, er mwyn gallu cydymffurfio a gofalu nad yw trefniadau’n cael eu camddefnyddio.

Dim ond ar gyfer gwarediadau mewn safleoedd tirlenwi awdurdodedig y mae modd cael rhyddhad.

DTGT/4110 Cais am ryddhad i adfer safle

Mae adfer safle yn golygu gwaith ar safle tirlenwi awdurdodedig wedi’i orchuddio (neu ran ohono) i adfer yr ardal honno i’w ddefnyddio at ddiben arall. O dan adran 8 o’r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi, os bydd unrhyw ddeunydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith adfer safle, bydd yn cael ei drin fel gwarediad trethadwy. Mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn ddyledus ar bob deunydd sy’n cael ei ddefnyddio i adfer safleoedd, boed y deunydd wedi’i brynu at y diben neu wedi’i gael fel arall.

Fodd bynnag, gall gweithredwr safle tirlenwi awdurdodedig hawlio rhyddhad ar ddefnyddio deunydd mewn gwaith adfer safle, os bodlonir meini prawf penodol. 

Rhaid i'r gwaith ddod o fewn y diffiniad o adfer safle, sef gwaith ar safle tirlenwi awdurdodedig (neu ran ohono) sy’n cael ei wneud er mwyn adfer yr ardal ar gyfer defnydd amgen. 

Ar naill ai safle tirlenwi peryglus neu safle nad yw’n beryglus, lle mae angen cap wedi’i beiriannu yn gyffredinol am resymau amgylcheddol, gwaith adfer safle sy'n digwydd uwchben y cap yn unig y gellir ei wneud. Yn gyffredinol nid yw'n ofynnol i safleoedd tirlenwi anadweithiol fod â chap wedi’i beiriannu am resymau amgylcheddol, ond, yn dilyn gwelliannau i'r ddeddfwriaeth ar 16 Gorffennaf 2019, efallai y byddant yn dal i allu dangos eu bod yn gwneud gwaith adfer safle. 

Mae’n rhaid hawlio’r rhyddhad mewn ffurflen dreth a bydd ond ar gael pan fydd y gwaredu sy’n berthnasol iddo yn cynnwys naill ai deunyddiau cymwys yn llwyr, (nid yw ar gael ar gyfer cymysgedd cymwys o ddeunyddiau) neu uwchbridd yn llwyr, ac yn rhan o waith adfer sydd wedi cael ei gymeradwyo gan ACC.

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn ystyried bod uwchbridd yn cynnwys uwchbridd wedi’i weithgynhyrchu sy’n cynnwys deunyddiau organig lle mae ei angen i gwblhau adfer safle fel y pennir yn y drwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio i gefnogi plannu glaswellt, planhigion, llwyni neu goed. Er mwyn cael rhyddhad adfer safle ar uwchbridd, byddai Awdurdod Cyllid Cymru yn disgwyl bod yr uwchbridd, boed hwnnw wedi cael ei weithgynhyrchu ar neu oddi ar y safle, neu gyflyrwyr pridd y gellid eu defnyddio i gyrraedd y safon ofynnol, yn cydymffurfio â gofynion y drwydded amgylcheddol berthnasol ac yn cyrraedd safonau cydnabyddedig y diwydiant, fel BS 3882:2015 Specification for topsoil a/neu PAS 100:2011 Specification for composted materials er enghraifft.

Er mwyn cael sêl bendith ACC ar gyfer y gwaith adfer, bydd yn rhaid i weithredwr safle tirlenwi wneud cais yn ysgrifenedig i ACC. Mae’n rhaid gwneud y cais cyn i’r gwaith adfer ddechrau; ni all ACC awdurdodi gwaith adfer sydd wedi dechrau cyn i’r cais gael ei gyflwyno. Ar ôl gwneud y cais, does dim angen i weithredwyr safleoedd tirlenwi aros i gael eu cymeradwyo gan ACC cyn dechrau ar y gwaith. Mae hyn yn cydnabod y bydd gweithredwyr safleoedd tirlenwi am fanteisio ar dywydd ffafriol neu ddeunydd addas a fydd ar gael. Fodd bynnag, os bydd gweithredwr safle tirlenwi yn dechrau ar y gwaith mewn amgylchiadau o’r fath cyn cael ei gymeradwyo gan ACC, bydd yn gwneud hynny ar ei fenter ei hun gan nad oes unrhyw sicrwydd y bydd ACC yn cymeradwyo’r cais.

Yn y cais, mae’n rhaid i Weithredwr y Safle Tirlenwi roi manylion a thystiolaeth i Awdurdod Cyllid Cymru ynghylch sut cafodd pwysau’r deunyddiau adfer sydd eu hangen i adfer y safle eu cyfrifo. Dylid cyflwyno sail resymegol a thystiolaeth gyda’r cyfrifiadau’n egluro sut y daethpwyd i’r cyfaint, y ffactorau trosi cyfaint i fàs a’r ffactorau lleihau neu grynhoi a sut cawsant eu defnyddio yn y cyfrifiad.

Er mwyn cymeradwyo, bydd yn rhaid bod ACC yn fodlon bod y gwaith yn ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle. Dim ond y swm angenrheidiol o ddeunydd sy’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r drwydded neu’r caniatâd fydd yn elwa o'r rhyddhad. Bydd rhaid talu treth ar ddeunyddiau dros ben a fydd yn cael eu defnyddio.

DTGT/4120 Ceisiadau ACC am ragor o wybodaeth

Os bydd gweithredwr safle tirlenwi yn gwneud cais i gael ei gymeradwyo i wneud gwaith i adfer safle, gall ACC roi hysbysiad ysgrifenedig i weithredwr y safle tirlenwi i ofyn am ragor o wybodaeth er mwyn penderfynu a yw am ei gymeradwyo, neu ar ba delerau mae am wneud hynny. Bydd yn rhaid i ACC roi’r hysbysiad o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y bydd ACC yn cael y cais gan weithredwr y safle tirlenwi.

Rhaid i ACC roi gwybod i weithredwr y safle tirlenwi am y cyfnod amser y mae’n rhaid iddo ddarparu rhagor o wybodaeth ac mae’n rhaid i hyn fod o leiaf 30 diwrnod yn dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

Gall ACC a gweithredwr y safle tirlenwi gytuno i ymestyn y cyfnodau amser hyn.

DTGT/4130 Penderfyniad ACC

Bydd yn rhaid i ACC roi gwybod i weithredwr y safle tirlenwi yn ysgrifenedig beth yw ei benderfyniad, a hynny o fewn 30 diwrnod a fydd yn dechrau ar:

  • y diwrnod y bydd ACC yn cael y cais; neu
  • os yw ACC wedi gofyn am ragor o wybodaeth:
    • y diwrnod y mae ACC yn cael yr wybodaeth neu;
    • y diwrnod y mae’r cyfnod ar gyfer darparu’r wybodaeth yn dod i ben

Gall ACC a gweithredwr y safle tirlenwi gytuno i ymestyn y cyfnodau amser hyn.

Os na fydd ACC yn rhoi gwybod beth yw ei benderfyniad o fewn y cyfnodau amser hyn, ystyrir bod ACC wedi cymeradwyo’r gwaith adfer fel y mae wedi’i nodi yn y cais. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw waith a wnaed rhwng yr adeg pan gafodd y cais ei wneud, a phan ddaeth y cyfnod hwnnw i ben. 

Bydd yn bosib adolygu neu apelio yn erbyn penderfyniad ACC i gymeradwyo’r gwaith o adfer safle.

DTGT/4140 Cymeradwyaeth ACC

Os bydd ACC yn cymeradwyo, bydd yn rhaid i’r hysbysiad sy’n rhoi gwybod i weithredwr y safle tirlenwi am ei benderfyniad hefyd gynnwys y manylion cymeradwyo.

Gallai cymeradwyaeth ACC fod yn gysylltiedig â’r holl waith a ddisgrifiwyd yn y cais am gymeradwyaeth, neu ran o’r gwaith hwnnw; yn gysylltiedig â gwaith cyn neu ar ôl cael cymeradwyaeth (neu’r ddau) ac; gallai fod yn ddiamod neu’n ddibynnol ar amodau – er enghraifft, efallai y byddai amod yn mynnu bod gweithredwr y safle tirlenwi yn rhoi adroddiad diweddaru i ACC ynghylch gwneud y gwaith.

DTGT/4150 Amrywio’r gymeradwyaeth

Os bydd gweithredwr y safle tirlenwi wedi cael ei gymeradwyo i wneud gwaith adfer, gall wneud cais yn ysgrifenedig i ACC i amrywio’r gymeradwyaeth. Efallai y bydd angen gwneud hynny os bydd gofynion y gwaith adfer safle a nodwyd yn y drwydded amgylcheddol neu’r caniatâd cynllunio yn newid.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth ar ACC er mwyn penderfynu a fydd yn newid y gymeradwyaeth, neu ar ba delerau y bydd yn gwneud hynny, dylid dilyn y cyfnodau amser a nodwyd yng ‘ngheisiadau ACC am ragor o wybodaeth’.

Bydd yn rhaid i ACC roi hysbysiad o’i benderfyniad yn ysgrifenedig i weithredwr y safle tirlenwi. Dylid dilyn y cyfnodau amser a nodwyd ym DTGT/4030. 

Caiff ACC hefyd amrywio’r gymeradwyaeth ar ei gymhelliad ei hun os yw’n fodlon bod yr amrywiad yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y gymeradwyaeth ond yn ymwneud â gwaith adfer sy’n ofynnol o dan un o amodau trwydded amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r safle.

Os bydd ACC yn amrywio’r gymeradwyaeth ar ei gymhelliad ei hun, bydd yn rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i weithredwr y safle tirlenwi yn nodi manylion yr amrywiad.

Nid yw amrywio cymeradwyaeth yn effeithio ar y gwaith adfer a wnaed yn unol â’r gymeradwyaeth cyn ei hamrywio.

DTGT/4160 Canlyniadau torri’r gofynion sy’n gysylltiedig ag adfer safle

Os bydd deunydd yn cael ei ddefnyddio i adfer safle heb gael cymeradwyaeth ar gyfer hynny, ni fydd rhyddhad ar y deunydd hwnnw.

Os yw wedi cael ei gymeradwyo, bydd yn rhaid i’r rhyddhad fod yn rhan o waith adfer sy’n cael ei wneud yn unol ag ACC ac sydd wedi’i gymeradwyo ganddo, a bydd yn rhaid iddo fodloni’r holl ofynion eraill yn y Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi a’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi – er enghraifft, cadw a chynnal cofnodion er mwyn sicrhau ffurflen dreth gywir a chyflawn.

Gallai ACC asesu’r dreth os bydd yn credu bod treth wedi cael ei cholli, yn benodol os oes rhyddhad wedi’i hawlio neu ei roi ar gyfer treth ddatganoledig, neu wedi mynd yn ormodol. Hefyd, gallai gweithredwr y safle tirlenwi wynebu cosbau o dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi, fel cosbau am gamgymeriadau mewn ffurflenni treth ac am beidio â thalu treth.