Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ynglŷn â chymhwyso Treth Trafodiadau Tir mewn perthynas ag rhyddhad gwerthu ac adlesu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/7016 Rhyddhad gwerthu ac adlesu

(atodlen 9)

Mewn trafodion gwerthu ac adlesu, mae prynwr yn cytuno i brynu prif fuddiant (rhydd-ddaliad neu lesddaliad) mewn tir neu adeiladau gan werthwr, ac wedyn mae’r un prynwr yn caniatáu rhoi’r tir neu’r adeiladau, neu ran ohonynt, yn ôl ar les neu is-les i’r gwerthwr a fydd wedyn yn dod yn denant. Bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi ar y trafodiad gwerthu a'r trafodiad adlesu. Ond, o dan amodau penodol, mae rhyddhad gwerthu ac adlesu’n caniatáu i’r trafodiad adlesu gael rhyddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir. Os bydd y rhyddhad hwn yn berthnasol, bydd y Dreth Trafodiadau Tir yn dal yn cael ei chodi ar y trafodiad gwerthu.

Er mwyn i’r rhyddhad gwerthu ac adlesu fod yn berthnasol i’r trafodiad adlesu, rhaid bodloni pob un o’r amodau canlynol:

  1. yr ymrwymir i’r trafodiad gwerthu yn llwyr neu’n rhannol yn gydnabyddiaeth am y trafodiad adlesu
  2. os yw’r trafodiad gwerthu yn rhannol yn gydnabyddiaeth am y trafodiad adlesu, bydd unrhyw gydnabyddiaeth arall ar gyfer y trafodiad gwerthu yn daliad ariannol (mewn unrhyw fath o arian) neu ysgwyddo, bodloni neu ollwng dyled
  3. nad yw’r trafodiad gwerthu yn trosglwyddo hawliau i drydydd parti nac yn drafodiad cyn-gwblhau, a
  4. pan fydd y ddau barti’n gyrff corfforaethol ar y dyddiad y mae’r trafodiad adlesu yn dod i rym, nad ydynt yn aelodau o’r un grŵp at ddibenion rhyddhad grŵp Treth Trafodiadau Tir.

Mae'r rhyddhad gwerthu ac adlesu ar gael ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

Dim ond pan fydd yr un partïon yn rhan o'r ddau drafodiad y mae rhyddhad gwerthu ac adlesu i’w gael. Er enghraifft, lle mae ‘A’ yn trosglwyddo eiddo i ‘B’, yna mae ‘B’ yn rhoi’r eiddo’n ôl ar les i ‘A’, rhaid i ‘A’ aros yr un fath yn y ddau drafodiad. Gall ‘A’ gynnwys mwy nag un person, ond os bydd unrhyw un o’r bobl hyn yn newid rhwng y trafodiadau gwerthu a’r adlesu, nid yw’r rhyddhad yn berthnasol.

Nid oes gofyniad arbennig i drafodiad adlesu fod yn gydnabyddiaeth am un trafodiad gwerthu’n unig, neu fod un trafodiad gwerthu yn gydnabyddiaeth am un trafodiad adlesu’n unig, er mwyn cael y rhyddhad.

Bydd swm y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad gwerthu yn dibynnu ar a oedd cytundeb ysgrifenedig yn bodoli, adeg y trafodiad gwerthu, er mwyn ymrwymo i’r trafodiad adlesu. Os oedd, dylai’r gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad gwerthu ystyried y llyffethair (encumbrance) hon (gweler enghraifft 3 isod).

Os nad oes cytundeb o’r fath yn bodoli, bydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad gwerthu yn seiliedig ar fuddiant mewn tir nad yw wedi'i lyffetheirio (h.y. byddai’r gwerth yn anwybyddu’r trafodiad lesddaliad). Dylid nodi y gallai llyffethair o’r fath gynyddu, gostwng neu effeithio dim ar y gwerth o’i gymharu â'r gwerth heb ei lyffetheirio ac ystyried bod rhent yn daladwy o bosib ar y trafodiad adlesu. Byddai hyn yn llif incwm i’r lesydd, fel rhan o’r trefniant gwerthu ac adlesu.

Enghraifft 1

Mae A Cyf yn berchen ar fuddiant lesddaliad mewn eiddo masnachol. I godi arian, mae'n penderfynu neilltuo ei les i B Cyf sydd heb gysylltiad am gydnabyddiaeth o £1m (y ‘trafodiad gwerthu’) ac adlesu’r llawr gwaelod yn unig am rent y farchnad (y ‘trafodiad adlesu’).

Mae rhyddhad gwerthu ac adlesu’n berthnasol i’r trafodiad adlesu gan fod yr amodau perthnasol wedi cael eu bodloni yn yr enghraifft hon fel a ganlyn:

  1. mae’r trafodiad gwerthu (trosglwyddo gan A Cyf) yn gydnabyddiaeth rannol am y trafodiad adlesu gan B Cyf ar gyfer rhan o’r eiddo a drosglwyddwyd. Felly, mae’n fuddiant sydd wedi’i roi o’r buddiant y mae B Cyf wedi’i gaffael.
  2. Yr unig gydnabyddiaeth arall ar gyfer y trafodiad yw’r taliad ariannol. 
  3. nid yw’r gwerthu’n golygu trosglwyddo hawliau i drydydd parti dan gontract nac yn drafodiad cyn-gwblhau
  4. nid yw'r cwmnïau wedi’u cysylltu at ddibenion rhyddhad grŵp y Dreth Trafodiadau Tir.

Felly, bydd yr is-les newydd y mae A Cyf yn ei chaffael o dan y trafodiad adlesu yn cael ei rhyddhau rhag y dreth.

Codir y Dreth Trafodiadau Tir ar y trafodiad gwerthu, y broses o neilltuo'r les wreiddiol i B Cyd, yn unol â rheolau cyfnewidiadau ar ei werth marchnadol gan ei fod wedi'i lyffetheirio gan yr is-les newydd. Gan nad oes cysylltiad â B Cyf, y disgwyl yw y byddai’r gydnabyddiaeth yn £1m, o leiaf, sef yr hyn yr oedd yn barod i’w dalu mewn arian am y gwerthiant sydd wedi’i lyffetheirio gan y les.  Ond, mae’n bosib hefyd y bydd elfen elw yn gysylltiedig â’r brif les gan fod llif incwm yn codi o’r is-les newydd y mae B Cyf wedi'i chaffael, ar ffurf rhenti sy’n daladwy gan A Cyf. Wrth ystyried gwerth marchnadol y buddiant sydd wedi’i lyffetheirio y mae A Cyf yn ei gaffael, bydd angen ystyried y llif incwm hwnnw hefyd.

Enghraifft 2

Mae D Cyf yn berchen ar fuddiant lesddaliad mewn eiddo masnachol. Er mwyn codi arian, mae’n penderfynu neilltuo ei les i gwmni E Cyf am gydnabyddiaeth o £1m (y ‘trafodiad gwerthu’) ac adlesu'r llawr gwaelod yn unig am rent y farchnad (y ‘trafodiad adlesu’). Yn yr enghraifft hon, mae D Cyf ac E Cyf yn is-gwmnïau llwyr (100%) i C Cyf.

Nid yw rhyddhad gwerthu ac adlesu ar gael yn yr enghraifft hon gan nad yw un o'r amodau wedi’i fodloni. Gan fod y cwmnïau yn yr un grŵp, maent wedi'u cysylltu at ddibenion rhyddhad grŵp y Dreth Trafodiadau Tir ar adeg y trafodiad. Felly, mae'r trafodiad gwerthu (neilltuo’r brif les) a’r trafodiad adlesu (is-les newydd) yn drafodion trethadwy yn seiliedig ar werth marchnadol pob buddiant sy’n cael ei gaffael. Ond, mae’n bosib y bydd rhyddhad grŵp ar gael ar gyfer dwy elfen y trafodiad os caiff yr amodau yn Atodlen 16 y Ddeddf Treth Trafodiadau Tir eu bodloni.

Enghraifft 3

Mae unigolyn Ms F yn berchen ar eiddo rhydd-ddaliad ac mae hi am ei drosi’n 2 uned fasnachol. Er mwyn iddi allu codi arian, bydd angen iddi greu buddiannau lesddaliad yn yr eiddo. Mae Ms F yn creu G Cyf. Mae Ms F yn trosglwyddo'r buddiant rhydd-ddaliad i G Cyf sydd, yn ei dro, yn rhoi dwy les 999 mlynedd yn ôl i Ms F am ddim premiwm ac am rent bychan. Mae Ms F yn gallu neilltuo’r lesoedd 999 mlynedd hyn i drydydd partïon am gydnabyddiaeth arall heblaw rhent er mwyn codi arian.

Dyma'r goblygiadau o ran y Dreth Trafodiadau Tir:

  • O dan yr amgylchiadau hyn, byddai darpariaethau adran 22 y Ddeddf Treth Trafodiadau Tir (rheolau gwerth marchnadol tybiedig lle mae prynwyr yn gwmni sydd wedi’i gysylltu â’r gwerthwr) yn ystyried bod y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad gwerthu yn werth marchnadol, ni waeth beth yw gwerth yr elfen gyfnewid.
  • Mae'r trafodiad adlesu’n gyfnewidiad, felly bydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad adlesu’n werth marchnadol y buddiant sy’n cael ei gaffael.
  • Pe byddai Ms F yn neilltuo’r lesoedd eto wedyn, byddai hyn yn drafodiadau trethadwy, yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth arall heblaw rhent a roddir am neilltuo.

Yn yr enghraifft hon, mae pob amod ar gyfer rhyddhad gwerthu ac adlesu’n cael ei fodloni. Felly, bydd rhyddhad yn cael ei roi i’r trafodiad adlesu.
Bydd y trafodiad gwerthu (trosglwyddo gan Ms F i G Cyf) yn cael ei drin fel caffael rhydd-ddaliad sydd wedi'i lyffetheirio gan G Cyf. Mae’n bur debyg y byddai modd anwybyddu gwerth marchnadol y rhydd-ddaliad sydd wedi'i lyffetheirio (les 999 mlynedd wedi’i rhoi am ddim premiwm ac am rent bychan) felly ni fyddai Treth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi.

Enghraifft 4

Mae H Cyf, rhiant-gwmni grŵp o gwmnïau, yn berchen ar fuddiant rhydd-ddaliad mewn eiddo masnachol. Er mwyn codi arian, mae’n penderfynu gwerthu’r eiddo i gwmni heb fod â chysylltiad â nhw, Y Cyf, am gydnabyddiaeth o £2m ac adlesu’r eiddo cyfan am rent y farchnad.

Yn dilyn y trafodiad gwerthu, mae H Cyf yn awyddus i un o’i is-gwmnïau, I Cyf, fod yn berchen ar y les. Mae’n gofyn i Y Cyf roi’r les i I Cyf.

Er bod H Cyf ac I Cyf yn aelodau o’r un grŵp, maent yn unigolion ar wahân yn llygad y gyfraith, ac fel y cyfryw nid yw'r amodau i gael rhyddhad gwerthu ac adlesu wedi’u bodloni oherwydd bod y les (y trafodiad adlesu) yn cael ei rhoi i gwmni (I Cyf) nad oedd yn werthwr (H Cyf) yng nghyswllt y trafodiad gwerthu.

Felly, codir y Dreth Trafodiadau Tir ar y trafodiad gwerthu a’r trafodiad adlesu a bydd y gydnabyddiaeth ar gyfer pob trafodiad yn seiliedig ar werth marchnadol pob buddiant sy’n cael ei gaffael.

Enghraifft 5

Mae gan Ms J yn berhen ar eiddo rhydd-ddaliad. Nid oes ganddi unrhyw eiddo arall. Mae hi wedi trosi'r eiddo rhydd-ddaliad yn ddau fflat (Fflatiau 1 a 2). Maent wedi'u cofrestru o dan yr un teitl ac mae morgais arnynt.

Mae Ms J yn byw yn Fflat 1 gyda'i chariad, Mr K. Mae Fflat 2 yn wag.

Mae Ms J yn bwriadu trosglwyddo rhydd-ddaliad yr eiddo cyfan i gwmni y mae wedi'i greu, a hi fydd yr Unig Gyfarwyddwr.

Yna bydd lesddaliad ar gyfer Fflat 1 yn cael ei roi i Ms J a Mr K, a fydd â chyfrannau cyfartal yn yr eiddo. Byddant yn ail-forgeisio'r eiddo ac yn dal i fyw ynddo.

Bydd Ms J yn cael lesddaliad ar Fflat 2 a fydd yn ei ail-forgeisio ar forgais prynu-i-osod. Bydd elw'r ail-forgais yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu'r morgais rhydd-ddaliad sy’n bodoli ar hyn o bryd, gan adael y rhydd-ddaliad heb forgais.

Bydd adlesiad Fflat 2 (o'r cwmni i Ms J) yn gymwys ar gyfer rhyddhad gwerthu ac adlesu (os yw'n cwrdd â'r amodau a amlinellir uchod).

Fodd bynnag, ni fydd lesiad Fflat 1 (o'r cwmni i Ms J a Mr K) yn gymwys ar gyfer y rhyddhad gan nad yw gwerthwr y rhydd-ddaliad a'r lesddeiliad yr un fath.

Enghraifft 6

Mae Mr L, Mr M, Mr N a Mr O yn berchen ar eiddo rhydd-ddaliad. Maent yn bwriadu trosglwyddo rhydd-ddaliad yr eiddo cyfan i gwmni y maent wedi'i greu, a nhw fydd yr Unig Gyfarwyddwyr arno.

Maent yn bwriadu lesio'r eiddo yn ôl i Mr L, Mr M a Mr N, ond nid i Mr O.

Ni fydd y trafodiad les hwn yn gymwys ar gyfer rhyddhad gwerthu ac adlesu. Mae hyn oherwydd bod gwerthwr y rhydd-ddaliad (‘A’), fel y trafodwyd yn y canllawiau uchod, yn cynnwys 4 o bobl, ond dim ond i 3 o bobl y rhoddir y les. Felly nid yw’r lesddalwyr yr un fath ag ‘A’.