Neidio i'r prif gynnwy

Syr Gary Hickinbottom yw Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru.

Mae Syr Gary Hickinbottom yn gyfreithiwr a fu’n ymarfer ym maes cyfraith fasnachol a chyfraith gyhoeddus tan 2000, pan gafodd ei wneud yn farnwr llawn amser. Cafodd ei benodi i gyfres o benodiadau barnwrol yn systemau’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd cyn cael ei wneud yn Farnwr yn yr Uchel Lys ac yna’n Farnwr yn y Llys Apêl. Bu’n arweinydd barnwrol ar y rhaglen ddiwygio tribiwnlysoedd o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007. Fe'i penodwyd yn Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ym mis Mai 2023.