Mae dŵr gwastraff trefol yn cynnwys dŵr o safleoedd domestig a diwydiannol a llygredd trefol o ddŵr ffo ar yr wyneb.
Cynnwys
Crynodeb
Heb ei drin, mae dŵr gwastraff trefol yn cael effaith andwyol sylweddol ar ein hamgylchedd dŵr. Mae hyn oherwydd ei fod yn:
- cynnwys maethynnau sydd, pan fyddant yn ormodol, yn gallu cyflymu twf rhai planhigion, gan amharu ar brosesau naturiol a niweidio bywyd gwyllt
- gallu cael ei halogi â chemegau a bacteria niweidiol sy'n cyflwyno risgiau i iechyd pobl ac ecoleg ehangach ein cyrff dŵr
Nod Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol (Cymru a Lloegr) 1994 yw diogelu'r amgylchedd rhag effeithiau andwyol dŵr gwastraff trefol heb ei drin. Prif ofynion y rheoliadau yw:
- sefydlu systemau i gasglu dŵr gwastraff o ‘grynodrefi’ trefol (trefi a dinasoedd)
- triniaeth eilaidd ar gyfer dŵr gwastraff
- adnabod ardaloedd sensitif (er enghraifft, ardaloedd sy'n agored i ewtroffigeidd)
- triniaeth fwy llym ar gyfer dŵr gwastraff sy'n cael ei ollwng i ardaloedd sensitif
Mae'r rheoliadau'n gweithredu Cyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol yr Undeb Ewropeaidd (91/271/EEC). Mae'r cyhoeddiad hwn yn bodloni'r gofyniad o dan adran 12A o'r rheoliadau i gyhoeddi adroddiad sefyllfa yn rheolaidd ar drin dŵr gwastraff trefol, gwaredu slwtsh yng Nghymru, y rhesymau dros beidio â chydymffurfio a'r mesurau arfaethedig i sicrhau cydymffurfedd.
Adroddiad sefyllfa 2022 ar gyfer Cymru
Trin dŵr gwastraff trefol
Yn 2022, roedd 99.6% o lwyth a gynhyrchir yng Nghymru o weithfeydd trin dŵr gwastraff yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol.
Roedd 113 o grynodrefi yn cynhyrchu mwy na 2,000 cyfwerth â'r boblogaeth (PE) o ddŵr gwastraff:
- Roedd 109 o grynodrefi, yn cynhyrchu 3,519,711 PE o ddŵr gwastraff, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau
- Nid oedd 2 grynodref, yn cynhyrchu 15,054 PE o ddŵr gwastraff, yn cydymffurfio â gofynion y rheoliadau
Ar gyfer y 113 o grynodrefi a oedd yn cynhyrchu mwy na 2,000 PE o ddŵr gwastraff, roedd 113 o weithfeydd trin dŵr gwastraff trefol gyda chyfanswm capasiti dylunio o 3,534,765 PE:
- Roedd 113 o weithfeydd yn meddu ar y dechnoleg ar gyfer triniaeth sylfaenol ac eilaidd
- Roedd 41 o weithfeydd yn meddu ar y dechnoleg ar gyfer triniaeth fwy llym na thriniaeth eilaidd
- Roedd 99.6% o'r llwyth dŵr gwastraff a gasglwyd yn cydymffurfio â gofynion trin eilaidd
- Roedd 99.1% o'r llwyth dŵr gwastraff a gasglwyd yn cydymffurfio â gofynion trin fwy llym
Cadarnhawyd bod 100% o'r llwyth dŵr gwastraff wedi'i gysylltu â system gasglu neu â systemau unigol a phriodol.
Gwaredu slwtsh
Yn 2022, cynhyrchodd cwmnïau dŵr 37,084 tunnell o slwtsh. Ailddefnyddiwyd 100% o'r slwtsh ar gyfer pridd ac amaethyddiaeth yng Nghymru.
Y rhesymau dros beidio â chydymffurfio a mesurau arfaethedig i sicrhau cydymffurfedd
Yn 2022, nid oedd 2 waith trin dŵr gwastraff yn cydymffurfio. Roedd gan waith trin dŵr gwastraff Rhuddlan ddiffygion o ran samplu galw ocsigen biocemegol (BOD) a therfyn galw cemegol am ocsigen (COD) haen uchaf Rheoliadau Trin Dŵr Gwastraff Trefol nad oedd yn cydymffurfio. Cafodd y rhaglen fonitro ei hadolygu a'i diwygio i sicrhau gwaith samplu BOD cyfartal drwy gydol y flwyddyn. Ceg pibell ar siâp cloch wedi'i blocio wnaeth achosi'r methiant o ran COD. Gwnaeth larwm telemetreg tyrfedd uchel sbarduno presenoldeb gweithredwr. Mae Amroth yn fwy na 2000 PE yn gyson ond ni wnaed cais am amodau trwydded trin dŵr gwastraff trefol ac ni ddarparwyd unrhyw samplau trin dŵr gwastraff trefol. Gwnaeth y ddau waith trin dŵr gwastraff hyn gydymffurfio yn 2023.
Rhestr termau
Cyfwerth â'r boblogaeth
Yr uned fesur a ddefnyddir yn y Gyfarwyddeb Trin Dŵr Gwastraff Trefol ar gyfer asesu potensial llygredd gollyngiadau dŵr gwastraff. Ystyr 1 cyfwerth â'r boblogaeth (PE) yw'r llwyth bioddiraddadwy organig sydd â galw biocemegol am ocsigen 5 diwrnod (BOD5) o 60g o ocsigen y dydd. Mae hyn yn golygu'r ocsigen a ddefnyddir, yn bennaf gan organeddau bacteriol, i ddadelfennu'r deunydd organig mewn dŵr gwastraff.
Crynodrefi
Mae crynodref yn ardal lle mae'r boblogaeth a/neu weithgareddau economaidd wedi'u crynhoi'n ddigonol er mwyn i'w dŵr gwastraff gael ei gasglu a'i ddanfon i waith trin dŵr gwastraff neu i bwynt gollwng terfynol.
Ewtroffigedd
Ystyr ewtroffigedd yw cyfoethogi dŵr gan faethynnau, yn enwedig cyfansoddion nitrogen a/neu ffosfforws, gan achosi twf cyflym o algâu a mathau uwch o blanhigion i gynhyrchu aflonyddwch annymunol i gydbwysedd yr organeddau sy'n bresennol yn y dŵr ac i ansawdd y dŵr dan sylw.
