Mae rhaglen newydd yn cael ei datblygu sy'n helpu pobl i gael cymorth cynharach ar gyfer problemau iechyd sy'n gysylltiedig â chetamin.
Ymwelodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, â swyddfa Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Caerdydd a'r Fro (CAVDAS) yn y Barri i weld sut mae gwasanaethau iechyd lleol yn arwain y ffordd o ran ymyrraeth gynnar ac atal.
Mae'r defnydd o getamin wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda gwasanaethau Caerdydd a'r Fro wedi gweld cynnydd o 53% yn y rhai sy'n cyflwyno gyda phroblemau cysylltiedig â chetamin ers mis Medi 2024.
Mae Uned Ddibyniaeth Gymunedol Caerdydd a'r Fro hefyd wedi cael cyswllt â 73 o unigolion sy'n defnyddio cetamin fwy nag unwaith yr wythnos yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – cynnydd o 60% o'i gymharu â'r cyfnod cyn 2024.
Mae'r llwybr newydd, a ddatblygwyd gan weithgor aml-asiantaeth ers mis Chwefror 2025, eisoes yn gwneud gwahaniaeth.
Gall y cyffur achosi difrod difrifol ac anadferadwy i'r bledren a'r arennau, ond mae dulliau sgrinio bellach yn gallu adnabod problemau'r bledren yn gynnar ac mae staff wedi'u paratoi'n well i gefnogi pobl ag anghenion cymhleth.
Mae rhaglen newydd ar gyfer ysgolion a ddatblygwyd gan CAVDAS, ar y cyd â phobl sydd â phrofiad byw, hefyd yn cyrraedd disgyblion blynyddoedd 9 a 10 gan roi gwybodaeth hanfodol iddynt am risgiau a lleihau niwed.
Mae'r llwybr yn parhau i ddatblygu, gyda chynlluniau i gryfhau cysylltiadau ag arbenigwyr wroleg a chreu cefnogaeth bwrpasol i rai o dan 18 oed drwy wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS).
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid gan y Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAF) i gefnogi gwasanaethau triniaeth yng Nghaerdydd a'r Fro. Ar draws darpariaeth gymunedol, cleifion mewnol a phreswyl, mae gwerth oddeutu £3.2m o wasanaethau a ariennir gan SMAF yn cyfrannu at ddarparu'r llwybr gofal cetamin, ochr yn ochr â diwallu anghenion camddefnyddio sylweddau ehangach.
Mae'r Gronfa Weithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau hefyd yn cefnogi gwasanaethau CAVDAS ar gyfer sgrinio, ymyriadau lleihau niwed – gan gynnwys bagiau cydio penodol ar gyfer cetamin – ac ymgysylltu cynnar.
Mae Byrddau Cynllunio Ardal – sy'n cynnwys cynghorau, byrddau iechyd a'r heddlu – a sefydliadau camddefnyddio sylweddau trydydd sector ar draws Cymru yn cyflwyno mentrau tebyg i drin a chodi ymwybyddiaeth am beryglon defnyddio cetamin.
Yng Nghwm Taf Morgannwg mae grŵp wedi'i sefydlu i greu deunyddiau hyrwyddo i godi ymwybyddiaeth o getamin, hyfforddi staff ac adolygu'r llwybrau cyfredol.
Yng Ngwent, mae Barod wedi cydlynu cynhadledd a'r unig bwnc ar yr agenda yw Cetamin.
Yn y Gogledd, mae gwasanaethau plant a phobl ifanc wedi bod yn cynnig sesiynau ymwybyddiaeth cetamin cyffredinol i bob ysgol uwchradd ar draws y Gogledd. Mae Adferiad hefyd wedi cynhyrchu hyfforddiant byr ar gyfer adrannau brys, ac yn cynnig hyfforddiant hanner diwrnod am ddim i weithwyr proffesiynol ar draws y Gogledd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
Rydym yn gweld effeithiau dinistriol y defnydd parhaus o getamin ac mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o beryglon defnyddio'r cyffur hwn.
Rwy'n falch o weld yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Gaerdydd a'r Fro i ddarparu profion sgrinio cynnar, codi ymwybyddiaeth plant ysgol a rhoi triniaeth pan fo'i angen fel rhan o'u llwybr gofal cetamin.
Rydym yn gweithio gyda Byrddau Cynllunio Ardal ledled Cymru i sicrhau bod arferion gorau’n cael eu rhannu a bod ein hagenda camddefnyddio sylweddau yn cefnogi'r rhai sydd fwyaf mewn angen.
Ychwanegodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd y Bwrdd Cynllunio Ardal:
Roeddem yn falch iawn i groesawu'r Gweinidog a thynnu sylw at y gwaith gwerthfawr sy'n digwydd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg i gefnogi pobl lleol.
Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith amlasiantaeth hwn ar getamin trwy weithio mewn partneriaeth i nodi anghenion yn gynt, atal niwed, a gwella gwasanaethau cymorth.
Roedd yr ymweliad yn gyfle pwysig i ddangos ein ymrwymiad i ddatblygu a chryfhau dulliau ataliol a thriniaeth ar gyfer pob person sydd yn cael eu effeithio gan ddefnyddio sylweddau yn ein cymunedau.
