Trosedd segura llonydd: crynodeb o’r ymatebion
Crynodeb o’r ymatebion i'r diwygiadau a gynhelir i reoledd i sefydlu ystod cosbau ar gyfer droseddau oedi sefydlog.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Yn ddiweddar, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r hysbysiad cosb benodedig sy’n gymwys i drosedd segura llonydd fel y’i diffinnir yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003.
Mae’r rheoliadau yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol yng Nghymru roi hysbysiadau cosb benodedig i yrwyr cerbydau lle mae cred resymol eu bod wedi cyflawni trosedd segura llonydd ac wedi methu â chydymffurfio â chais gan berson a awdurdodwyd gan yr awdurdod lleol i ddiffodd eu hinjan tra maen nhw'n llonydd ar briffordd gyhoeddus. Ar hyn o bryd, £20 yw’r gosb, ac os na chaiff ei thalu o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig, mae'r swm yn codi i £40. Os yw’r gyrrwr wedi cyflwyno hysbysiad yn gofyn am wrandawiad, nid yw’r gosb yn daladwy tan ar ôl y gwrandawiad.
Camau i'w cymryd
Mae'r ddogfen hon er gwybodaeth yn unig.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print bras, Braille ac iaith amgen o'r ddogfen hon ar gael ar gais.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Adran Diogelu Amgylcheddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: airqualityansawddyraer@gov.wales
Copïau Ychwanegol
Cyhoeddir y crynodeb hwn o'r ymateb a chopïau o'r holl ddogfennau ymgynghori ar ffurf electronig yn unig a gellir eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Linc i'r dogfennau ymgynghori: Trosedd segura llonydd
Cefndir
Mae segura llonydd, yr arfer o adael injan yn rhedeg pan nad yw cerbyd yn symud, yn cyfrannu’n ddiangen at lygredd aer a sŵn. Mae hefyd yn gwastraffu tanwydd ac yn cynyddu costau i yrwyr.
Mae segura llonydd yn gallu bod yn destun pryder arbennig mewn rhai lleoliadau, megis y tu allan i ysgolion lle mae perygl i blant ddod i gysylltiad anghymesur ag allyriadau cerbydau, ac i drigolion sy’n cael eu heffeithio’n rheolaidd gan sŵn.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflawni ystod o gamau gweithredu i hybu ymwybyddiaeth o niwed posibl segura llonydd ac i berswadio gyrwyr i ymatal rhag segura llonydd pan fydd cerbydau ar stop. Gall hyn gynnwys, er enghraifft, ymgyrchoedd cyfathrebu cenedlaethol a chanllawiau i awdurdodau lleol i ddatblygu strategaethau lleol i newid ymddygiad. Mae ein ffocws ni ar gefnogi ac annog gyrwyr, ac rydym yn ystyried cosbau ariannol fel y dewis olaf.
Rydym hefyd yn cydnabod bod angen adnoddau priodol ar awdurdodau lleol i gymryd camau gorfodi pan fydd angen gwneud hynny.
O dan Reoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”), gall gyrrwr y credir ei fod yn cyflawni trosedd segura llonydd ac sy’n gwrthod diffodd ei injan pan mae’n cael cais i wneud hynny gan berson sydd wedi’i awdurdodi gan yr awdurdod lleol, wedi collfarn ddiannod, fod yn atebol am ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol (h.y. dirwy nad yw’n fwy na £1000) neu gall gael hysbysiad cosb benodedig am swm o £20. Mae’r swm yn codi i £40 os nad yw’r arian yn cael ei dalu o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad. Pan fo’r sawl sy’n derbyn y gosb yn cyflwyno hysbysiad yn gofyn am wrandawiad, nid yw’r arian yn daladwy tan ar ôl y gwrandawiad.
Pennwyd y swm mewn deddfwriaeth fwy nag 20 mlynedd yn ôl ac nid yw wedi cynyddu gyda chwyddiant yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn credu nad yw’r swm o £20 yn adlewyrchu’n ddigonol ddifrifoldeb y risg bosibl o lygredd i iechyd y cyhoedd a’i fod yn rhy isel i weithredu fel ataliad digonol.
Drwy’r ymgynghoriad hwn, fe wnaethom groesawu barn ar gynigion i ddiwygio deddfwriaeth bresennol er mwyn helpu awdurdodau lleol yng Nghymru i bennu eu lefelau cosb eu hunain o ystod a bennwyd gan Weinidogion Cymru. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar ystod arfaethedig o £50-£100, a fyddai’n sicrhau bod cosbau am y drosedd hon yn debycach i gosbau am droseddau amgylcheddol eraill.
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella ansawdd aer ac iechyd y cyhoedd, yn enwedig ar gyfer grwpiau agored i niwed fel plant a'r henoed. Mae segura llonydd yn gyfrannwr cydnabyddedig at lygredd aer lleol, yn enwedig o amgylch ysgolion, ysbytai ac ardaloedd trefol prysur, lle mae segura'n gallu bod yn gyffredin.
Rhwng 5 Awst a 30 Medi 2025, buom yn ymgynghori ar gynigion i ddiweddaru'r drefn gosbau ar gyfer troseddau segura llonydd.
Gwnaethom ofyn am farn ar:
- y lefel briodol ar gyfer cosbau penodedig am droseddau segura;
- a ddylai awdurdodau lleol gael hyblygrwydd i osod cosbau;
- lefel cynnydd cosb pan na chaiff ei thalu o fewn cyfnod penodedig;
- lle y dylid cyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi awdurdodau lleol;
- y defnydd o incwm dros ben o gosbau;
- yr amserlen weithredu arfaethedig.
Cawsom 101 o ymatebion gan aelodau o'r cyhoedd, awdurdodau lleol, sefydliadau iechyd ac amgylcheddol, a phartïon eraill â diddordeb. Hefyd, cynhaliwyd gweithdy ymgynghori gydag awdurdodau lleol ar 10 Medi 2025.
Ymatebion cymysg a gafwyd i'r ymgynghoriad, gyda chefnogaeth gref gan rai i gosbau llymach a gwrthwynebiad cryf gan eraill sy'n gweld y cynigion yn annheg neu'n anorfodadwy. Roedd consensws eang bod gorfodi ac ymwybyddiaeth y cyhoedd yn bwysicach na swm y gosb ei hun.
Roedd llawer o ymatebwyr yn poeni am yr effaith ar yrwyr incwm isel a'r angen i gymhwyso’r drefn yn deg ac yn gyson. Hyd yn oed ymhlith ymatebwyr a oedd yn feirniadol o'r cynigion roedd rhywfaint o gydnabyddiaeth o'r angen i wella ansawdd aer, yn enwedig o amgylch ysgolion a phoblogaethau agored i niwed, ond hefyd o amgylch gorsafoedd bysiau a lleoliadau eraill lle gall cerbydau aros fel arfer gyda'r injan yn dal i redeg. Mae llawer o ymatebwyr eisiau gweld dull clir, canolog gyda chyfathrebu cadarn ac addysg gadarn, ac awgrymodd rhai y dylid cyflwyno newidiadau’n raddol neu mewn ffordd wedi'i thargedu.
Crynodeb o’r ymatebion
Cwestiwn 1
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y byddai isafswm cosb o £50 am drosedd segura llonydd yn ddigon i atal gyrwyr rhag gadael i’r injan redeg?
- Cytuno'n gryf: 13
- Cytuno: 19
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 13
- Anghytuno: 28
- Anghytuno'n gryf: 20
Dadansoddiad cryno
Roedd safbwyntiau'n rhanedig. Roedd llawer o ymatebwyr yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf bod £50 yn ddigonol i atal segura llonydd. Roedd lleiafrif sylweddol yn cytuno, yn enwedig y rhai a oedd yn teimlo ei fod yn gymesur ar gyfer trosedd gyntaf. Roedd rhai'n credu bod £50 yn rhy isel ac nad yw'n ataliad go iawn, gan awgrymu bod £100–£300 yn fwy effeithiol.
Dywedodd mynychwyr gweithdy'r awdurdodau lleol eu bod yn cefnogi cynnydd mewn cosbau gan fod dirwy bresennol Hysbysiad Cosb Benodedig yn rhy isel i fod yn hyfyw i'w gorfodi.
Awgrymwyd dirwyon haenog ar gyfer cerbydau allyriadau uwch hefyd. Roedd eraill yn dadlau bod unrhyw gosb yn annheg neu'n ddiangen, gyda rhai yn galw am ddim dirwy o gwbl.
Tynnodd llawer sylw at yr angen am orfodi ymarferol ac ymwybyddiaeth y cyhoedd, nid dim ond dirwyon uwch. Thema gyffredin oedd bod yr effaith ataliol yn dibynnu mwy ar y tebygolrwydd o orfodi na swm y gosb ei hun. Nododd rhai mai gorfodi, nid swm y gosb, yw'r mater go iawn. Mynegwyd pryderon am gosbi gyrwyr incwm isel a'r angen am addysg yn hytrach na dirwyon. Roedd awgrym y dylid rhoi rhybuddion ychwanegol i yrwyr o gefndiroedd incwm is. Awgrymodd ymatebydd arall na ddylid rhoi unrhyw rybudd o gwbl cyn rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig pan fydd trosedd wedi'i chyflawni gan na fyddai hyn yn digwydd yn achos troseddau eraill fel gyrru trwy olau coch.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae'r ystod o safbwyntiau yn adlewyrchu'r ffaith bod gosod cosbau yn heriol. Roedd barn ar swm isaf priodol ar gyfer y gosb yn amrywio gyda sawl ymatebydd yn awgrymu cynyddu'r gosb arfaethedig o £50 gryn dipyn.
Bydd swm isaf y gosb yn cael ei adolygu yng nghyd-destun y sylwadau a godwyd, ac i adlewyrchu'r angen i osod cosbau ar lefel sy'n cynrychioli ataliad ond hefyd yn osgoi creu baich ariannol ar awdurdodau lleol i'w weinyddu. Rydym am i awdurdodau lleol allu gorfodi troseddau yn gosteffeithiol lle mae angen gwneud hynny, yn enwedig lle mae gyrwyr yn segura yn aml mewn ardaloedd sensitif.
Rydym yn deall pryderon ymatebwyr na ddylai cosbau gosbi gyrwyr o gefndiroedd incwm is yn annheg. Barn Llywodraeth Cymru yw bod pob gyrrwr yn cael y cyfle i gydymffurfio â'r gyfraith a diffodd yr injan pan ofynnir iddynt wneud hynny. Felly, mae gan yrwyr gyfleoedd i gydymffurfio â'r gyfraith ac osgoi Hysbysiad Cosb Benodedig yn gyfan gwbl.
Cwestiwn 2
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y byddai uchafswm cosb o £100 am drosedd segura llonydd yn ataliad cryfach ond yn osgoi cosbi gyrwyr yn annheg?
- Cytuno'n gryf: 21
- Cytuno: 22
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 11
- Anghytuno: 16
- Anghytuno'n gryf: 24
Dadansoddiad cryno
Unwaith eto, roedd y farn yn rhanedig. Roedd rhai yn cefnogi £100 fel ataliad cryfach, tra bod eraill yn dadlau dros gosbau uwch hyd yn oed, yn enwedig ger ysgolion. Awgrymodd rhai ymatebwyr hyd at £200–£500 fel terfyn uchaf mwy addas ar gyfer y gosb. Roedd lleiafrif yn teimlo bod £100 yn ormodol neu'n annheg. Codwyd pryderon am yr effaith bosibl ar yrwyr incwm isel. Nododd rhai y byddai lefelau'r gosb yn newid yn gyflym oherwydd chwyddiant a dylid eu hadolygu yn y dyfodol neu eu gosod yn uwch o'r cychwyn cyntaf.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru eisiau gosod ystod cosbau sy'n effeithiol wrth leihau achosion o segura llonydd heb gosbi gyrwyr yn annheg. Mae cael y cydbwysedd yn iawn yn her. Ar ben hynny, rhaid i'r ystod cosbau fod yn ddigon eang er mwyn rhoi cyfleoedd i awdurdodau lleol bennu symiau’r gosb mewn ffordd sy'n adlewyrchu amgylchiadau'r drosedd. Bydd yr ystod cosbau yn cael ei hadolygu yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed.
Cwestiwn 3
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai awdurdodau lleol allu pennu cosb briodol o fewn yr ystod a ragnodir i adlewyrchu amgylchiadau lleol a natur y troseddau?
- Cytuno'n gryf: 24
- Cytuno: 20
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 12
- Anghytuno: 14
- Anghytuno'n gryf: 24
Dadansoddiad cryno
Roedd y farn wedi'i rhannu. Roedd rhai yn cefnogi caniatáu i awdurdodau lleol osod cosbau i adlewyrchu amgylchiadau lleol, tra bod yn well gan eraill weld dull safonol Cymru gyfan i osgoi anghysondeb a dryswch a lleihau biwrocratiaeth. Roedd yr awgrymiadau yn cynnwys gosod strwythur dirwyon, gydag un lefel ar gyfer segura y tu allan i ysgolion, lefel arall ar gyfer segura ar strydoedd preswyl, ac ati. Hefyd, awgrymwyd y dylai dirwyon fod yn uwch yn y nos.
Nodwyd bod angen i'r gyfraith fod yn glir ac yn gyson, a bod yn ataliad gwirioneddol. Roedd safbwyntiau eraill yn cynnwys bod risg o greu "loteri cod post" sy'n deillio o hyblygrwydd lleol. Mae rhai ymatebwyr yn ofni y byddai cynghorau yn defnyddio hyblygrwydd i godi refeniw.
Gwnaed awgrym y dylid gosod dwy lefel gosb genedlaethol: un ar gyfer ardaloedd safonol ac un ar gyfer ardaloedd bregus. Roedd rhywfaint o ddiddordeb mewn dirwyon uwch i ad-droseddwyr. Mynegwyd pryder am y defnydd posibl o gwmnïau gorfodi trydydd parti a allai arwain at ymlid dirwyon.
Hefyd, codwyd pryder ynghylch a fyddai gan awdurdodau lleol yr arbenigedd a'r cymhwysedd angenrheidiol i osod lefelau dirwyon yn gywir.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Roedd llawer o'r ymatebion yn adlewyrchu gwerth gosod cosbau i adlewyrchu difrifoldeb cymharol y drosedd, a gwnaed nifer o awgrymiadau ynghylch sut y gellid cymhwyso hyn.
Credwn y gallai rhoi hyblygrwydd i awdurdodau lleol fod yn fanteisiol o gymharu â gosod symiau cosb benodedig, er enghraifft drwy alluogi awdurdodau i addasu cosbau i adlewyrchu heriau lleol a sicrhau bod modd gorfodi mewn ffordd sy'n gosteffeithiol i awdurdodau lleol.
Byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i sut y gellir gweinyddu'r drefn orfodi mewn ffordd sy'n cefnogi anghenion lleol wrth leihau'r posibilrwydd o ddryswch ac anghydraddoldebau ledled Cymru.
Cwestiwn 4
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai swm y gosb gynyddu 50% os nad yw’n cael ei thalu o fewn cyfnod penodol?
- Cytuno'n gryf: 36
- Cytuno: 23
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 10
- Anghytuno: 6
- Anghytuno'n gryf: 19
Dadansoddiad cryno
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cytuno â chynnydd o 50% ar gyfer taliadau hwyr, gan ei weld fel arfer safonol ac yn angenrheidiol i annog pobl i dalu'n brydlon. Codwyd pryderon am yr effaith ar yrwyr incwm isel a'r potensial i gosbi'r rhai a allai gael trafferth talu. Roedd galwadau am ymateb yn drugarog i rai sydd mewn caledi ariannol neu gynnig cynlluniau talu iddyn nhw. Cyfeiriwyd at yr angen am broses apelio annibynnol yn unol â throseddau eraill, megis torri rheolau parcio. Fel y nodwyd mewn mannau eraill yn sylwadau'r ymatebwyr, roedd yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth o'r drosedd yn bwysig.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno ymgyrch gyfathrebu genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o drosedd segura llonydd, a rhybuddio gyrwyr am y posibilrwydd o gosbau uwch yn y dyfodol. Mae'r cynnydd arfaethedig am beidio â thalu cosbau yn 50% yn unig, sy'n is na'r cynnydd o 100% sy'n berthnasol i lawer o droseddau Hysbysiad Cosb Benodedig. Byddwn yn ystyried hyn yng ngoleuni'r sylwadau a dderbyniwyd ynghylch yr angen i osgoi creu baich ariannol ar yrwyr incwm is. Rydym am sicrhau ein bod ni'n mabwysiadu dull sy'n mynd i'r afael ag achosion o beidio â thalu ar yr un llaw ac yn osgoi creu anawsterau ariannol i yrwyr ar y llaw arall, lle bo modd.
Cwestiwn 5
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y byddai canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru yn ddefnyddiol i gefnogi awdurdodau lleol i bennu cosbau priodol o fewn yr ystod a ragnodir?
- Cytuno'n gryf: 31
- Cytuno: 26
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 7
- Anghytuno: 7
- Anghytuno'n gryf: 20
Dadansoddiad cryno
Roedd cefnogaeth gref i ganllawiau clir a chyson gan Lywodraeth Cymru i sicrhau tegwch ac eglurder, er bod rhai'n teimlo y gallai hyn ychwanegu biwrocratiaeth neu leihau ymreolaeth leol. Rhoddwyd pwysigrwydd ar ddiffiniadau clir a hyfforddiant ar gyfer awdurdodau lleol.
Roedd rhai yn teimlo y byddai canllawiau yn helpu i sicrhau bod cosbau yn deg ac nid yn rhy gosbol. Roedd rhai ymatebwyr am i ganllawiau fod yn gynghorol, ac nid yn orfodol. Nododd y rhai a ddaeth i’r gweithdy awdurdodau lleol y dylai canllawiau gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am wrth-segura a rhoi eglurder ar osod symiau cosbau.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Cytunodd mwyafrif yr ymatebwyr y byddai canllawiau statudol i awdurdodau lleol yn werthfawr. Mae'r ystod o sylwadau i'r ymgynghoriad yn pwysleisio y bydd canllawiau yn hollbwysig wrth gefnogi awdurdodau lleol yn eu dyletswyddau gorfodi ac wrth gyflwyno mentrau gwrth-segura yn ehangach. Mae'n amlwg bod gan ganllawiau rôl i'w chwarae wrth helpu i sicrhau bod gwaith i fynd i'r afael â segura ledled Cymru yn cael ei gyflawni mewn ffordd gydlynol sy'n osgoi dryswch ac amrywiadau polisi mawr ledled y wlad.
Cwestiwn 6
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai rheoliadau nodi y dylai unrhyw incwm dros ben gan awdurdodau lleol sy’n deillio o gosbau segura llonydd gael ei ddefnyddio ar gyfer mesurau i wella ansawdd aer yn unig?
- Cytuno'n gryf: 45
- Cytuno: 20
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 10
- Anghytuno: 5
- Anghytuno'n gryf: 14
Dadansoddiad cryno
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn cefnogi clustnodi incwm dros ben o gosbau ar gyfer mesurau gwella ansawdd aer. Awgrymodd rhai gylch gwaith ehangach ar gyfer gwasanaethau amgylcheddol neu leol, neu hyd yn oed i ddarparu cyllid i staff y GIG. Fe wnaeth eraill awgrymu defnyddio'r arian ar gyfer ymgyrchoedd addysg a chodi ymwybyddiaeth. Os nad oedd cyllid yn cael ei glustnodi, yna roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y byddai hyn yn fwy deniadol i awdurdodau lleol, a fyddai'n fwy tebygol o orfodi cosbau. Nodwyd tryloywder ac ymddiriedaeth y cyhoedd fel pryderon pwysig i ymatebwyr.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae'r ymatebion i'r cwestiwn hwn yn dangos bod pobl yn croesawu'r defnydd posibl o incwm dros ben ar gyfer mesurau a all fynd i'r afael â llygredd aer ymhellach er budd iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd naturiol. Credwn y byddai hwn yn ddull synhwyrol, ac y byddai'n osgoi defnyddio arian dros ben ar gyfer mesurau nad ydynt yn ddefnyddiol i gyflawni'r nod polisi o leihau achosion o ddod i gysylltiad ag allyriadau cerbydau llygredig. Yn absenoldeb clustnodi cyllid, gallai awdurdodau lleol ddefnyddio arian dros ben ar gyfer unrhyw eitemau gwariant lleol - a gallai awdurdodau gael eu beirniadu bod gorfodi cosbau segura yn cael ei drin fel ffynhonnell refeniw ar gyfer uchelgeisiau ehangach.
Byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i'r diffiniad o fesurau y gellir eu hariannu drwy unrhyw incwm dros ben sy'n deillio o gosbau segur.
Cwestiwn 7
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â mis Awst 2026 fel dyddiad arfaethedig i’r rheoliadau ddod i rym er mwyn rhoi digon o amser i gynnal ymgyrch hybu ymwybyddiaeth?
- Cytuno'n gryf: 20
- Cytuno: 29
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 10
- Anghytuno: 15
- Anghytuno'n gryf: 19
Dadansoddiad cryno
Roedd llawer yn cytuno bod hyn yn caniatáu amser i godi ymwybyddiaeth. Roedd rhai eisiau gweld y cynllun yn cael ei gyflwyno'n gyflymach, gan nodi bod yr amser cyflwyno yn ymddangos yn rhy hir. Roedd rhai yn gwrthwynebu'r polisi yn gyfan gwbl. Cyfeiriwyd at bwysigrwydd cyfathrebu ac ymgysylltu cadarn, a'r angen i ddysgu gwersi o gyflwyno polisïau blaenorol (e.e. terfyn cyflymder 20mya).
Ymateb Llywodraeth Cymru
Roedd yr ymatebion yn eithaf rhanedig ar y cwestiwn hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r pryder na ddylai fod unrhyw oedi diangen cyn cychwyn unrhyw reoliadau newydd. Yn yr un modd, rydym yn deall yr angen i sicrhau bod ymgyrch gyfathrebu ddigonol wedi'i chynnal cyn unrhyw newidiadau i gosbau.
Byddwn yn adolygu'r dyddiad dod i rym arfaethedig wrth ddatblygu a chyflwyno ein hymgyrch gyfathrebu.
Cwestiwn 8
A oes gennych unrhyw sylwadau ar yr arfarniad a nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft?
Dadansoddiad cryno
Mae rhai yn credu bod yr asesiad yn tanamcangyfrif yr effaith o ran adnoddau ar awdurdodau lleol. Cafwyd galwadau am fwy o dystiolaeth ar effeithiolrwydd a chostau a manteision.
Gwnaed awgrymiadau i ystyried ymyriadau ehangach (e.e. trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol).
Ymateb Llywodraeth Cymru
Rydym yn cydnabod y sylwadau a gafwyd ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft a byddwn yn adolygu'r ddogfen wrth ddatblygu ein cynigion rheoleiddio.
Cwestiwn 9
I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y bydd y rheoliadau arfaethedig yn cael effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â’r Saesneg?
- Cytuno'n gryf: 5
- Cytuno: 3
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno: 59
- Anghytuno: 4
- Anghytuno'n gryf: 18
Dadansoddiad cryno
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn niwtral, gyda rhai o’r farn bod hyn yn amherthnasol, ond roedd rhai yn tynnu sylw at yr angen am orfodi a chyfathrebu dwyieithog. Roedd rhai yn anghytuno'n gryf, gan ddweud ei fod yn ddiangen neu â chymhelliant gwleidyddol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Byddwn yn sicrhau bod yr holl negeseuon yn cael eu cyflwyno'n Gymraeg a Saesneg.
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau eisoes, o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, i sicrhau bod busnes cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn ffordd sy'n trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.
Cwestiwn 10
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau perthnasol eraill ar ein cynigion i bennu ystod gosbau trwy reoliadau i helpu i fynd i’r afael â segura llonydd, nodwch nhw yma.
Dadansoddiad cryno
Roedd cefnogaeth gref dros weithredu i ddiogelu ansawdd aer, yn enwedig o amgylch ysgolion a grwpiau agored i niwed. Roedd rhai ymatebwyr yn amheus o'r polisi, gan ei weld fel ffordd o fachu arian neu ymyrraeth ddiangen gan y Llywodraeth. Codwyd pryder am gosbi gyrwyr cerbydau annibynadwy sy'n segura, am eu bod ofn na fyddai'r cerbyd yn ailgychwyn ar ôl ei ddiffodd, e.e. pan fo'r batri’n fflat. Roedd ychydig iawn o ymatebwyr yn gwrthwynebu'r cysyniad o unrhyw gosb am segura. Roedd gorfodi yn bryder mawr, gyda rhai ymatebwyr yn mynegi amheuaeth y bydd y gyfraith yn cael ei gorfodi'n effeithiol. Dadleuodd sawl ymatebydd y byddai modd gwario adnoddau'n well ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, neu fynd i'r afael â ffynonellau llygredd eraill (e.e. safleoedd diwydiannol, traul teiars neu gerbydau wedi'u cynnal yn wael).
Cafwyd galwadau am addysg ac ymwybyddiaeth, yn enwedig o amgylch ysgolion. Roedd rhai eisiau eithriadau ar gyfer cerbydau hŷn neu'r rhai heb dechnoleg stopio/cychwyn. Codwyd pryderon am degwch, yn enwedig ar gyfer gyrwyr incwm isel a gwledig. Roedd rhai ymatebwyr yn chwyrn yn erbyn unrhyw gosbau newydd, gan eu gweld fel polisïau 'nanny state'.
Codwyd y mater o orfodi ar dir preifat, gydag ymatebwyr yn nodi bod llawer o leoliadau sensitif wedi'u lleoli i ffwrdd o ffyrdd cyhoeddus. Codwyd y mater hwn hefyd yn y gweithdy awdurdodau lleol, lle tynnwyd sylw at fwytai gyrru drwodd, safleoedd tacsi, a chanolfannau siopa fel lleoliadau lle mae segura yn gyffredin iawn. Yn y gweithdy hwn, nodwyd hefyd bod llawlyfrau gyrwyr/polisïau fflyd awdurdodau lleol yn cynnwys bylchau o ran atal segura llonydd. Roedd mynychwyr y gweithdy yn cefnogi ymgyrch gyfathrebu genedlaethol gyda negeseuon cyson.
Codwyd cwestiwn am gerbydau sy’n segura heb yrrwr yn bresennol, e.e. mae'r gyrrwr wedi picied i siop heb ddiffodd injan ei gerbyd. Nodwyd pryder am lygredd rheilffyrdd a morol hefyd, ac a ddylai'r drefn wrth-segura ymestyn i'r meysydd hyn hefyd, ac nid cerbydau ffyrdd yn unig.
Roedd nifer fach o ymatebwyr hefyd yn teimlo y dylid gofyn i yrwyr cerbydau trydan ddiffodd eu cerbydau pan fyddant yn llonydd.
Pa bynnag ddull gaiff ei gymryd trwy reoliadau, awgrymwyd y dylid ei adolygu gydag awdurdodau lleol ar ôl tair i bum mlynedd.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Fe wnaeth y cwestiwn hwn arwain at ystod amrywiol o ymatebion, a chodwyd rhai pwyntiau pwysig iawn.
Rydym yn cytuno y dylai gorfodi flaenoriaethu'r ardaloedd hynny lle mae grwpiau mwy agored i niwed yn debygol o ddod i gysylltiad ag allyriadau cerbydau diangen, a lle mae segura yn tueddu i fod yn gyffredin.
O ran cerbydau nad ydynt yn gweithio'n iawn, er enghraifft oherwydd batri fflat, nid ydym yn gweld bod angen gwneud eithriad yn y rheoliadau ar hyn o bryd. Mae hyn hefyd yn wir am gerbydau heb dechnoleg stopio-cychwyn gan fod pob gyrrwr yn gyfrifol am sicrhau eu bod nhw'n diffodd yr injan pan mae'r cerbyd yn llonydd. Er mwyn osgoi dryswch, dylid nodi nad yw hyn yn berthnasol lle mae cerbydau'n segura oherwydd amodau traffig.
Rydym yn cydnabod y sylwadau a gafwyd am bwysigrwydd gorfodi os yw cosbau am gael unrhyw effaith ataliol. Mae hwn yn fater y byddwn yn ei ystyried ymhellach wrth i ni ddatblygu ein polisi yn y maes hwn.
Beth sy’n digwydd nesaf
Diolch i bawb am roi o'u hamser i ymateb. Bydd yr adborth yn helpu i lunio ein dull polisi o fynd i'r afael â segura llonydd, gan gynnwys rheoliadau posibl.
