Neidio i'r prif gynnwy

Data am hysbysiadau cosb benodedig, achosion llys, troseddau cyffuriau ac yfed a gyrru, a phrofion anadl ar gyfer 2022.

Mae'r rhan fwyaf o ystadegau yn y datganiad hwn yn cyfeirio at 2022, gyda rhai yn cyfeirio at 2021. Cafodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) effaith sylweddol ar draffig ffyrdd a chofnododd yr heddlu ddamweiniau ac anafusion ar y ffyrdd yng Nghymru yn 2020 a 2021 wrth i gyfyngiadau gael eu rhoi ar waith ynghylch sut, ble a pham y gallai unigolion deithio sy'n debygol o fod wedi effeithio ar yr ystadegau a gyflwynir yn y datganiad hwn. Lle bo'n bosibl, rydym wedi cymharu data â'r flwyddyn flaenorol yn ogystal â 2019 i roi syniad o dueddiadau cyn y pandemig.

Hysbysiadau cosb benodedig

  • Yn 2022 dyfarnwyd cyfanswm o 69,200 o hysbysiadau cosb benodedig yng Nghymru. Mae hyn yn ostyngiad o 7% o’i gymharu â 2019 a 2021.
  • Troseddau yn ymwneud â therfynau cyflymder oedd yn gyfrifol am 83% o’r hysbysiadau cosb benodedig a ddyfarnwyd yn 2022.
  • Ers 2012, mae nifer yr hysbysiadau cosb benodedig sydd wedi’u rhoi yng Nghymru wedi gostwng ar y cyfan o nifer uchel o 112,400.

Achosion llys

  • Erlynwyd 59,688 o droseddwyr moduro yng Nghymru yn 2022, sy’n gynnydd o 9% o’i gymharu â 2021 ac sy’n 37% yn uwch na’r nifer yn 2019.

Damweiniau’n gysylltiedig ag yfed a gyrru (data 2021)

  • Yn 2021 amcangyfrifwyd bod 7% o’r holl ddamweiniau a gafodd eu cofnodi yn cynnwys o leiaf un gyrrwr yr amharwyd arno gan alcohol. 
  • Amcangyfrifwyd bod 23% o’r holl anafusion angheuol yn 2021 o ganlyniad i ddamweiniau yn gysylltiedig ag alcohol.
  • Cafwyd bod gan 13% o yrwyr cerbyd modur a laddwyd yng Nghymru lefel o alcohol yn eu gwaed a oedd dros y terfyn cyfreithiol.

Profion anadl sgrinio

  • Yn 2022, cynhaliwyd 25,011 o brofion anadl yng Nghymru.
  • Yn 2022, cafodd 174 o yrwyr a oedd wedi cael damwain ganlyniad prawf anadl positif.

Adroddiadau

Troseddau moduro: 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 620 KB

PDF
Saesneg yn unig
620 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Oscar Carrel

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.