Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am achosion mewn Llysoedd Ynadon, troseddau cyffuriau ac yfed a gyrru a phrofion anadl ar gyfer 2017.

Mae’r siart hon yn dangos nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd yng Nghymru rhwng 2011 a 2017. Yn 2017, roedd cynnydd o 5.3% mewn hysbysiadau ardystiadwy (cynnydd o 3,371) a gostyngiad o 28.3% mewn hysbysiadau anardystiadwy (gostyngiad o 3,072) o’i gymharu â 2016. Yn 2017, hysbysiadau ardystiadwy oedd 87.2% (66,811) o’r holl hysbysiadau, a hysbysiadau anardystiadwy oedd 12.8% ohonynt (9,815).

Hysbysiadau cosb benodedig

  • Yn 2017, rhoddodd yr heddlu a wardeiniaid traffig 76,600 o hysbysiadau cosb benodedig yng Nghymru, sef cynnydd o 0.4% o’i gymharu â 2016.
  • Troseddau terfynau cyflymder oedd 77.7% (59,500) o’r rhain.

Achosion llys

  • Bu 46,900 o droseddwyr moduro gerbron llysoedd ynadon yng Nghymru yn 2017. Mae hyn yn ostyngiad o 27.6% ers 2016; fodd bynnag nid yw hyn o reidrwydd yn golygu gostyngiad yn y troseddau erlynadwy a gyflawnwyd yng Nghymru.
  • Y grwpiau troseddau mwyaf cyffredin oedd 'troseddau terfynau cyflymder' (14,500) a 'troseddau yswiriant cerbydau' (10,500). 'Troseddau profion cerbydau' (15) oedd y grŵp troseddau lleiaf cyffredin.

Profion anadl

  • Yn 2017, cynhaliwyd 37,000 o brofion anadl yng Nghymru. Roedd canlyniad 4,500 o’r rhain (11%) yn bositif, sef gostyngiad o 2.2% o’i gymharu â 2016.

Adroddiadau

Troseddwyr moduro, 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 752 KB

PDF
Saesneg yn unig
752 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.