Mae’r adroddiad ymchwil hwn yn cyflwyno canfyddiadau prosiect ar batrymau trosglwyddo iaith rhwng y cenedlaethau a defnydd o iaith ymhlith teuluoedd â phlant rhwng 0 a 4 oed.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Nod y prosiect oedd archwilio sut mae rhieni yn defnyddio’r Gymraeg â’u plant a sut mae gwahanol ffactorau yn dylanwadu ar y defnydd o’r Gymraeg yn y cartref. Yn benodol, nod y prosiect oedd ateb y cwestiynau ymchwil canlynol:
- Beth yw’r amodau sydd yn hwyluso trosglwyddo’r Gymraeg o fewn teuluoedd, a’r amodau sydd yn gwneud trosglwyddo’r Gymraeg yn llai tebygol?
- Pa amodau sydd yn dylanwadu ar batrymau defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd sydd â phlant 0-4 oed?
Mae’r adroddiad ymchwil yn cynnwys:
- adolygiad llenyddiaeth trylwyr ar gwaith rhyngwladol ar drosglwyddo iaith rhwng y cenedlaethau a gwaith ymchwil blaenorol ar drosglwyddo’r Gymraeg rhwng y cenedlaethau
- dadansoddiad ystadegol o ddata perthnasol i drosglwyddo’r Gymraeg o’r Cyfrifiad Cenedlaethol (2011)
- dadansoddiad dulliau cymysg (meintiol ac ansoddol) data gwreiddiol a gasglwyd gan 60 o deuluoedd trwy holiaduron ysgrifenedig a chyfweliadau lled-strwythuredig
- trafodaeth drylwyr o’r canfyddiadau meintiol ac ansoddol ac argymhellion ar gyfer ymchwil pellach a pholisi i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid.
