Neidio i'r prif gynnwy

Meysydd sy'n peri pryder

  • Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio.
  • Y gweithlu a datblygu sefydliadol.
  • Llywodraethiant a rheoli ariannol.
  • Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol.
  • Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch.
  • Cyflawni gweithredol.
  • Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau.
  • Gwasanaethau sy'n agored i niwed yn glinigol gan gynnwys meysydd clinigol fasgwlaidd, iechyd meddwl, wroleg ac eraill.

Egwyddorion arweiniol

  1. Cleifion yn gyntaf; dylai pawb sy'n defnyddio gwasanaethau ddisgwyl cael safonau uchel cyson o ofal a thriniaeth.
  2. Grymuso staff; sicrhau bod yr amodau gwaith a'r adnoddau iawn ganddynt i gefnogi eu llesiant eu hunain ac i ddarparu'r gofal a'r gwasanaethau gorau posibl a rhannu arferion gorau.
  3. Ethos o ansawdd a diogelwch wrth wraidd popeth.
  4. Darparu gwasanaethau sy'n gwella iechyd y boblogaeth ac sy’n gweithio i leihau anghydraddoldebau iechyd ar y cyd â phartneriaid ar sail ymddiriedaeth, parch a dysgu.
  5. Ag arweinyddiaeth gref a thosturiol wedi'i hategu gan systemau llywodraethiant cryf ac effeithiol.
  6. Yn darparu gwasanaethau gofal brys ac argyfwng a gofal a gynlluniwyd o ansawdd uchel.

Allbynnau

  • Cylch gorchwyl.
  • Adroddiadau chwarterol; gan gynnwys myfyrdodau a llwyddiannau.
  • Cylch gorchwyl ac adroddiadau cytunedig.
  • Adrodd yn rheolaidd i'r Bwrdd.

Cylch gorchwyl

  • Dysgu ac adeiladu ar ymyriadau a chymorth blaenorol.
  • Goruchwylio cynlluniau gwella: sefydlu trefniadau i geisio sicrwydd gweithredol a chadarn bod argymhellion cynlluniau gwella mesurau arbennig a'r rhai o adolygiadau eraill yn cael eu gweithredu; gosod cerrig milltir a thracio cynnydd yn eu herbyn. 
  • Cylch gorchwyl cytunedig ar gyfer pob ymyrraeth ac adolygiad sicrwydd.
  • Adolygiadau clinigol: cytuno ar broses i gynnal adolygiad i bryderon diogelwch cleifion ac adolygiadau clinigol priodol eraill; gweithredu ar unrhyw gamau a/neu ddysgu sy'n dod i'r amlwg.
  • Ymgysylltu â'r cyhoedd a chleifion: sicrhau cyfranogiad effeithiol y cyhoedd a chleifion, ac ymgysylltu â hwy’n effeithiol, ym mhob agwedd ar y gwelliannau sydd eu hangen ac i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd.
  • Uwchgyfeirio unrhyw faterion neu bryderon clinigol neu lywodraethol, pe baent yn dod i'r amlwg.
  • Cynghori gweinidogion ar unrhyw gamau pellach sydd eu hangen i gefnogi gwelliant drwy adroddiadau chwarterol a chyfarfodydd misol.

Gwerthoedd ac ymddygiad

  • Canolbwyntio ar y claf: caiff penderfyniadau, argymhellion a chamau gweithredu eu hysgogi'n bennaf gan ystyriaethau diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion.
  • Gwerthfawrogi pobl: mae gweithlu brwdfrydig, llawn cymhelliant, sy'n cael ei arwain yn dda, yn ofyniad sylfaenol ar gyfer darparu gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf.
  • Agored a thryloyw: yn amodol ar gyfyngiadau cyfrinachedd cleifion a diogelu data, bydd y gwaith a phenderfyniadau yn cael eu gwneud mewn modd agored a thryloyw.
  • Cynhwysol: ymgysylltu â staff, cleifion a rhanddeiliaid gan eu cynnwys yn y broses oruchwylio a gwella.
  • Cydweithredol: o fewn amgylchedd o graffu a herio cadarn, cydweithio â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wneud y gorau o'r broses wella ac osgoi biwrocratiaeth ddiangen, dyblygu ymdrech ac adnoddau.

Dysgu o ymyriadau eraill

Mae dysgu o ymyriadau blaenorol yn tynnu sylw at fanteision buddsoddi amser ar ddechrau unrhyw broses ymyrryd i sefydlu a chytuno ar seiliau cadarn ar y cyd. Mae hyn yn cynnwys:

  1. Mabwysiadu dull 'systemau cyfan' (hynny yw un sy'n ystyried methiannau gwasanaeth yng nghyd-destun arweinyddiaeth sefydliadol, llywodraethiant, diwylliant, capasiti ac adnoddau).
  2. Bod yn glir ynghylch achosion sylfaenol y broblem a mynd i'r afael â nhw yn hytrach na'r symptomau a arweiniodd at ymyrraeth.
  3. Diffinio'n glir y safonau sydd i'w bodloni a'r mecanwaith ar gyfer cyflwyno'r newid sy'n angenrheidiol i fodloni'r safonau hynny.
  4. Darparu'r rhinweddau, galluoedd a'r capasiti i gyflawni hafaliad newid.
  5. Sefydlu amserlenni clir, mesurau cynnydd a cherrig milltir.
  6. Datblygu strategaeth benodol ar gyfer uwchgyfeirio ac isgyfeirio.
  7. Gosod llinellau llywodraethiant ac atebolrwydd clir.

Cynghorwyr annibynnol

  • Cefnogi'r bwrdd i wneud penderfyniadau ar sail egwyddorion llywodraethiant cadarn ac asesu effaith y penderfyniadau ar ddiogelwch ac ansawdd.
  • Darparu her briodol wrth archwilio systemau iechyd presennol y bwrdd.
  • Darparu cyngor, yn amodol ar eu sgiliau, eu cefndiroedd a'u profiad unigol.
  • Mentora a chefnogi aelodau'r bwrdd drwy wrando, rhoi anogaeth a chynnig adborth yn weithredol.
  • Cynghori ar fecanweithiau amgen y gellid eu defnyddio ar sail strategol neu weithredol.
  • Darparu cymorth i helpu i wella perfformiad gweithredol a chyflawni'r newid trawsnewidiol cytunedig sydd ei angen.
  • Darparu cymorth arbenigol o ran AD, llywodraethiant ac arweinyddiaeth.

Rhanddeiliaid allweddol

  • Cleifion a staff.
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Llywodraeth Cymru.
  • Gweithrediaeth GIG Cymru.
  • Cynghorwyr annibynnol.
  • Llais.
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
  • Archwilio Cymru.
  • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
  • Gwelliant Cymru.
  • Awdurdodau Lleol.
  • Byrddau gwasanaethau rhanbarthol a chyhoeddus.
  • Aelodau o'r Senedd.
  • Aelodau Seneddol.
  • Undebau.
  • Addysg a Gwella Iechyd Cymru / Deoniaeth. 
  • Colegau brenhinol. 
  • Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
  • Y trydydd sector.
  • Crwner Ei Fawrhydi.
  • Byrddau iechyd lleol. 
  • Ymddiriedolaethau GIG Cymru.
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gweithio gyda rheoleiddwyr

  • Bydd gwaith arolygu ac adolygiadau annibynnol yn digwydd yn ystod cyfnod y mesurau arbennig.
  • Mae'n bwysig bod llif gwybodaeth dwy ffordd o fewn ffiniau moesegol a chyfansoddiadol y fframweithiau rheoleiddio perthnasol.  
  • Lle bo’n briodol, bydd rheoleiddwyr yn cael cyfle i wneud sylwadau a chyfrannu at yr adroddiadau cynnydd ffurfiol cyn eu cwblhau.

Monitro perfformiad ac asesu

  • Mae perfformiad yn cynnwys ansawdd, diogelwch, llywodraethiant a chynaliadwyedd.
  • Cytuno ar gerrig milltir, targedau a mesurau.
  • Optimeiddio prosesau adrodd.
  • Proses monitro a gwerthuso.
  • Meini prawf asesu.
  • Proses uwchgyfeirio ac isgyfeirio.
  • Methodoleg adrodd.

Cylch gorchwyl ymyriadau

  • Esbonio rhesymeg.
  • Gosod nodau ac amcanion.
  • Canolbwyntio ar yr ateb.
  • Llinellau cyfrifoldeb ac atebolrwydd clir.
  • Amserlenni cytunedig.
  • Adborth ar unwaith.
  • Adroddiad terfynol.

Strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu

  • Datganiad o egwyddorion.
  • Eglurder cyfrifoldebau.
  • Dulliau ac offer ymgysylltu (wedi'u targedu at gynulleidfa).
  • Briffiau rheolaidd i randdeiliaid: ymgysylltu â staff a chyfathrebu mewnol.
  • Cyfathrebu cyhoeddus – meithrin ymddiriedaeth a hyder.
  • Sesiynau briffio gwleidyddol (pwy sy'n gwneud beth a phryd).
  • Trafod cyfryngau (pwy sy'n gwneud beth a phryd).
  • Cyfryngau cymdeithasol a/neu bresenoldeb ar y we.

Strategaeth ar gyfer adolygiadau clinigol

  • Cwmpas a chylch gorchwyl.
  • Trin data a rhannu gwybodaeth.
  • Ymgysylltu a chyfathrebu â chleifion a theuluoedd.
  • Ymgysylltu â staff ac adborth.
  • Dysgu o dystiolaeth ac arferion gorau.
  • Adnoddau.
  • Adolygu methodoleg.
  • Fformat a phroses adrodd (materion sy'n dod i'r amlwg).
  • Gwneud pethau'n iawn, unioni ac ymgyfreitha sifil.
  • Polisi cyfeirio (cyrff proffesiynol, crwneriaid, ac ati).

Cydweithio

  • Cyfle i gymryd rhan mewn llunio proses mesurau arbennig.
  • Cynghorwyr annibynnol i gefnogi a chynghori.
  • Cyfarfodydd goruchwylio misol.
  • Cyfarfod chwarterol i adolygu mesurau arbennig.
  • Cyfarfodydd misol wedi'u trefnu gyda'r cadeirydd a'r prif swyddog gweithredol.
  • Adroddiadau chwarterol.
  • Dim syrpreisys.

Y pum canlyniad

  • Bwrdd sy'n gweithredu'n dda.
  • Cynllun clir, cyflawnadwy ar gyfer 2023 i 2024.
  • Arweinyddiaeth ac ymgysylltu cryfach.
  • Gwella mynediad, canlyniadau a phrofiadau i ddinasyddion.
  • Sefydliad sy’n dysgu ac sy’n gwella ei hun.

Arweinyddiaeth a diwylliant tosturiol

  • Diagnosteg ddiwylliannol.
  • Datblygu arweinyddiaeth.
  • Gallu a chapasiti arweinyddiaeth.

Llywodraethiant a rheoli ariannol

  • Llywodraethiant ariannol.
  • Dyrannu a defnyddio adnoddau. 
  • Yr amgylchedd rheoli ariannol.
  • Aeddfedrwydd y swyddogaeth cyllid.
  • Adolygiadau interim a hepgoriadau tendro.

Cynllunio a thrawsnewid gwasanaethau

  • Sicrhau bod capasiti a gallu o ran cynllunio integredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn nhermau cynllunio strategol a gweithredol y Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI).
  • Asesu dull y sefydliad o ddatblygu eu CTCI a'r gweithdrefnau cysylltiedig ar gyfer gwneud penderfyniadau.
  • Sicrhau bod digon o gapasiti cynllunio a gallu ar gyfer cynllunio strategol.
  • Proses ddatblygu CTCI gan gynnwys triongli cynlluniau i fewnbynnau gweithredol, a rhai’r gweithlu ac ariannol.
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid a mewnbwn ganddynt wrth ddatblygu CTCI.
  • Proses gwneud penderfyniadau a llywodraethiant ar gyfer datblygu CTCI.

Llywodraethiant, effeithiolrwydd y bwrdd ac archwilio

  • Adolygu atebolrwydd a llywodraethiant.
  • Camau gweithredu Archwilio Cymru a Chronfa’r Brenin.
  • Proses cynnal Pwyllgorau a Llywodraethiant Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd.
  • Asesiad aeddfedrwydd digidol.
  • Sicrhau bod mesurau llywodraethu priodol ar waith, yn benodol o ran craffu’n briodol ar risg, perfformiad, dull arwain ac arferion.

Llywodraethiant clinigol, profiad cleifion a diogelwch

  • Arweinyddiaeth glinigol.
  • Gwasanaethau clinigol: fasgwlaidd, wroleg, iechyd meddwl a dermatoleg.
  • Ymddygiad ac ymarfer clinigol.
  • Modelau cyflawni rhanbarthol.
  • Trefniadau rhwydwaith clinigol.
  • Cynllunio swyddi clinigol.
  • Systemau rheoli ansawdd ac asesu dyletswydd gonestrwydd.
  • Adolygu pryderon am ddiogelwch cleifion.
  • Goruchwylio'r broses 'Gweithio i Wella'.
  • Adolygu sut mae profiad cleifion yn cael ei ddefnyddio.
  • Ysbyty Glan Clwyd – gofal brys a gofal mewn argyfwng.
  • Adolygu llywodraethiant clinigol.

Y gweithlu a datblygu sefydliadol

  • Diwylliant, gwerthoedd ac ymddygiadau.
  • Adolygu ac adnewyddu ‘Mewn Undod mae Nerth’ .
  • Adolygu strwythur gweithredol a phortffolios.
  • Cefnogi a sefydlogi Tîm AD.
  • Trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiad Ernst and Young.
  • Ymateb i gwynion a materion cysylltiedig.
  • Cymorth a llesiant staff.
  • Recriwtio prif swyddog gweithredol.
  • Ymgysylltu â staff a chyfathrebu.
  • Cysylltiadau ochr staff.
  • Datblygu ac integreiddio’r gweithlu.

Cyflawni gweithredol

  • Gwella perfformiad gofal a gynlluniwyd.
  • Gwell darpariaeth iechyd meddwl i oedolion, y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc, a gwasanaethau niwroddatblygu.
  • Canolfannau triniaeth rhanbarthol.
  • Cysondeb ym maes gofal brys a gofal mewn argyfwng dros y chwe mis nesaf.
  • Tystiolaeth o gamau gweithredu a roddir ar waith o fewn yr adolygiadau arbenigol.
  • Cynlluniau clir i leihau ôl-groniad a chynyddu effeithlonrwydd.
  • Strategaethau ar gyfer y meysydd orthopedeg, llawdriniaeth gyffredinol ac offthalmoleg gan gynnwys cynlluniau busnes ar gyfer y maes orthopodeg.

Gwasanaethau clinigol

  • Gweledigaeth strategol wedi'i datblygu, strategaeth a chynllun gweithredu cryf a chredadwy ar gyfer gwasanaethau sy’n agored i niwed megis gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau fasgwlaidd ac wroleg.
  • Y gwasanaethau hyn i integreiddio â swyddogaethau corfforaethol.
  • Materion ac argymhellion sydd heb eu cwblhau a'u hymgorffori fel busnes fel arfer.
  • Llywodraethiant corfforaethol a goruchwylio a chraffu effeithiol.
  • Gwersi a ddysgir yn cael eu nodi a’u rhannu yn rheolaidd i ysgogi gwelliannau mewn gofal.
  • Arweinyddiaeth gweithredol, arweinyddiaeth y bwrdd ac arweinyddiaeth feddygol gweladwy.
  • Tystiolaeth o newidiadau cadarnhaol mewn diwylliant.
  • Gwella perfformiad yn unol â'r gofynion a'r safonau disgwyliedig.

Gweledigaeth strategol

Cynllun Clinigol a Chynllun Blynyddol wedi eu datblygu, cytunwyd arnynt ac maent wedi eu rhannu â'r cyhoedd; camau gweithredu cynnar wedi eu cyflawni gan ddarparu hyder bod modd sicrhau gwelliant parhaus cynaliadwy yn y tymor hwy.

Hyder ac ymddiriedaeth yn y sefydliad yn gwella.

Perfformiad ac ansawdd integredig

Sicrhau bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn sefydliad sy'n cael ei lywio gan ddata sy'n sicrhau bod data'n cael eu deall a’u defnyddio wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel. Dangos cysylltiad cryf rhwng sicrhau ansawdd a gwella perfformiad. Ansawdd a diogelwch yn rhan annatod o bopeth a wneir gan y sefydliad.

Newid diwylliant

Mae tystiolaeth o newidiadau cadarnhaol mewn diwylliant mewn meysydd allweddol megis gweithio amlddisgyblaethol a mynd i'r afael â diwylliant o fwrw bai.

Strwythurau a chyflawni

Sicrhau bod pob rhan o'r sefydliad yn glir ynghylch atebolrwydd a disgwyliadau ar bob lefel er mwyn sicrhau cyflawni lwyddiannus. Grymuso prosesau effeithiol ar gyfer gwneud penderfyniadau a ffocws cyson ar wella perfformiad.

Bwrdd sy'n effeithiol ac sy'n gweithredu

Pob aelod annibynnol wedi cwblhau cyfnod sefydlu a phwyllgorau wrthi'n gweithredu yn ôl amserlen y cytunwyd arno, gyda phwyntiau gwneud penderfyniadau clir wedi eu hategu gan Swyddfa Ysgrifennydd y Bwrdd sydd wedi'i rheoli'n dda. Y Bwrdd a'r Pwyllgor priodol yn goruchwylio'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau ac yn craffu arnynt mewn modd effeithiol yn gyson.

Ymatebol

Sicrhau bod holl argymhellion y colegau brenhinol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac adolygiadau eraill yn cael eu cyflawni a naill ai eu dilysu neu eu darparu neu y trefnir i'w darparu yng Nghynllun Gwella Tymor Hwy y Bwrdd Iechyd.

Dysgu a gwella

Ymchwiliadau effeithiol yn cael eu cynnal ar sail 'busnes fel arfer'; yr holl wersi a ddysgir yn cael eu nodi a'u rhannu fel mater o drefn ac mae tystiolaeth bod hyn yn ysgogi gwelliannau mewn gofal. Mae diwylliant o wrando, dysgu a gwella wedi ymwreiddio drwy'r sefydliad ar sail gwaith triongli cynnar a chyflym a datrys materion ar sail amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys adborth gan gleifion, defnyddwyr a staff.

Arweinyddiaeth ac ymgysylltu cryfach

Sgiliau arwain a rheoli yn cael eu datblygu’n barhaus ar bob lefel/ym mhob proffesiwn er mwyn cryfhau aeddfedrwydd yr arferion rheoli. Mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar bob agwedd ar gynllunio strategol ar gyfer y gweithlu a gwneud y defnydd gorau posibl o sgiliau ei staff presennol. Mae gwerthoedd bywyd ac ymddygiadau yn parhau i gael eu hymwreiddio/eu dangos ym mhob rhan o’r sefydliad. Dangos rhagor o bwyslais ar ymgysylltu.

Rheoli rhaglenni

Strwythur rheoli rhaglenni effeithiol ar waith, sy'n pennu amcanion ar gyfer y gwaith gwella, gyda chynlluniau sy'n dangos sut mae'r gwaith yn cael ei gyflawni a pha rwystrau a allai effeithio ar sicrhau canlyniadau; strwythurau gyda threfniadau effeithiol, agored a thryloyw ar gyfer adrodd, gyda goruchwyliaeth effeithiol y Bwrdd.

Arweinyddiaeth glinigol

Mae’n amlwg ac yn effeithiol; mae cymorth datblygu arweinyddiaeth ar waith ac mae'r meddygon ymgynghorol at ei gilydd yn cymryd rhan weithgar yn y gwaith o hybu gwelliant mewn gwasanaethau.

Gwasanaethau clinigol cryfach

Gwasanaethau megis gwasanaethau fasgwlaidd, iechyd meddwl, wroleg, oncoleg ac offthalmoleg yn cael eu cefnogi gan arweinyddiaeth glinigol gref, cynllun gwella integredig effeithiol, strwythur rheoli prosiectau a chymorth trawsnewid effeithiol.

Mynediad, canlyniadau a phrofiadau gwell

Yn amlwg o adborth gan gleifion, amseroedd trosglwyddo ambiwlansys, amseroedd aros gofal brys ac argyfwng a mynediad at ofal wedi’i gynllunio a gwasanaethau iechyd meddwl.