Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Mehefin 2023
Mae'r pennawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys data o'r Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EM.
Cyfradd cyflogaeth
Ffigwr 1: Cyfradd cyflogaeth, y 3 mis hyd at fis Mehefin 2013 i’r 3 mis hyd at fis Mehefin 2023
Disgrifiad Ffigwr 1: Siart llinell sy'n dangos y gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg y Llafurlu
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.7%. Mae hyn i fyny 1.2 pwynt canran ar y chwarter ac does dim newid ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.7%. Mae hyn i lawr ychydig ar y chwarter ac i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Ffigwr 2: Cyfradd diweithdra, y 3 mis hyd at fis Mehefin 2013 i’r 3 mis hyd at fis Mehefin 2023
Disgrifiad Ffigwr 2: Siart llinell sy'n dangos y gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg y Llafurlu
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.8%. Mae hyn i fyny 0.3 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 1.0 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 4.2%. Mae hyn i fyny 0.3 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Ffigwr 3: Cyfradd anweithgarwch economaidd, y 3 mis hyd at fis Mehefin 2013 i’r 3 mis hyd at fis Mehefin 2023
Disgrifiad Ffigwr 3: Siart llinell sy'n dangos y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers y misoedd cynnar yn 2020. Yng Nghymru, mae'r gyfradd wedi amrywio dros y cyfnod yma ond yn gyffredinol mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd y DU.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg y Llafurlu
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.6%. Mae hyn i lawr 1.3 pwynt canran ar y chwarter blaenorol ac i lawr 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.9%. Mae hyn i lawr ychydig ar y chwarter ac i lawr 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
Ffigwr 4: Cyflogeion cyflogedig, Cymru, Gorffennaf 2018 i Orffennaf 2023
Disgrifiad Ffigwr 4: Siart llinell sy'n dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf 2020.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Gyflog Wrth i Chi Ennill Gwybodaeth Amser Real, Swyddfa Ystadegau Gwladol a HMRC
Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Fe wnaeth nifer y gweithwyr cyflogedig dychwelyd nôl at lefelau cyn y pandemig ym mis Gorffennaf 2021, ac mae bellach wedi aros yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Gorffennaf 2023 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu gan 4,000 (0.3%) dros y mis i 1.32 miliwn.
Ar lefel y DU, dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Gorffennaf 2023 gynnydd misol o 97,200 (0.03%).
Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
Trosolwg o'r farchnad lafur: Awst 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 815 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.