Trosolwg o'r farchnad lafur: Awst 2026 (canlyniadau pennawd)
Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r pennawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, gan gynnwys ystadegau Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) ac o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS).
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Chyllid a Thollau EM (CThEM) yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru ar:
- gweithwyr cyflogedig
- cyflog cymedrig
- tâl cyfanredol
- amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol
Gweithwyr cyflogedig
Ffigur 1: gweithwyr Cyflogedig, Cymru, mis Gorffennaf 2021 i fis Gorffennaf 2026
Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos fod tuedd yn y nifer o weithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi lleihau dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dilyn cynnydd cyson ers 2021.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o PAYE RTI, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a CThEF.
Nodyn: nid yw’r echelin y yn dechrau ar sero.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Gorffennaf 2026 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 400 (0.0% i 1 lle degol) dros y mis i 1.31 miliwn.
Ar lefel y Deyrnas Unedig (DU), dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Gorffennaf 2026 ostyngiad misol o 12,900 (0.0% i 1 lle degol).
Mae dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y SYG.
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Mehefin 2026
Mae cyfyngau hyder ar gyfer y prif gyfraddau marchnad lafur ar gael ar wefan y SYG. Mae'r data diweddaraf yn dangos nad oedd unrhyw newidiadau ystadegol arwyddocaol ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur yn y tri mis hyd at fis Mehefin 2026. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r newidiadau chwarterol a blynyddol ar gyfer y dangosyddion hyn yn debygol o adlewyrchu newid gwirioneddol yn y data.
Byddem yn argymell defnyddio data’r LFS ochr yn ochr â’r tueddiadau mewn mesurau eraill yn y farchnad lafur, yn enwedig Swyddi’r Gweithlu (mesur chwarterol o swyddi), nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig â diweithdra) a’r data RTI gan CThEF (nifer y gweithwyr ar y gyflogres) i gael darlun cliriach o’r farchnad lafur yng Nghymru.
Cyfradd cyflogaeth
Ffigur 2: cyfradd cyflogaeth, y 3 mis hyd at fis Mehefin 2016 i’r 3 mis hyd at fis Mehefin 2026
Disgrifiad o ffigur 2: siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu
Nodyn: nid yw’r echelin y yn dechrau ar sero.
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.5%. Mae hyn i fyny 0.4 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 1.1 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.1%. Mae hyn i fyny 0.1 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Ffigur 3: cyfradd diweithdra, y 3 mis hyd at fis Mehefin 2016 i’r 3 mis hyd at fis Mehefin 2026
Disgrifiad o ffigur 3: siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd diweithdra wedi dilyn tuedd debyg yng Nghymru ac yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf er bod y gyfres ar gyfer Cymru yn fwy anwadal.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu
Nodyn: nid yw’r echelin y yn dechrau ar sero.
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.7%. Mae hyn i fyny 1.1 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd cyfradd diweithdra y DU yn 4.9%. Mae hyn i lawr 0.1 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Ffigur 4: cyfradd anweithgarwch economaidd, y 3 mis hyd at fis Mehefin 2016 i’r 3 mis hyd at fis Mehefin 2026
Disgrifiad o ffigur 4: siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyffredinol yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers y misoedd cynnar yn 2020. Yng Nghymru, mae'r gyfradd wedi amrywio dros y cyfnod hwn ond yn gyffredinol mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd y DU.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu
Nodyn: nid yw’r echelin y yn dechrau ar sero.
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.8%. Mae hyn i lawr 1.2 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 1.3 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.9%. Mae hyn heb newid ar y chwarter a heb newid ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
Gwybodaeth bellach
Yn dilyn nifer o ymyriadau y mae’r SYG wedi'u gwneud i wella ansawdd amcangyfrifon y farchnad lafur sy'n seiliedig ar yr arolwg o'r llafurlu, mae’r SYG ac OSR wedi cytuno y bydd yr arolwg o'r llafurlu yn cael ei ail-ddynodi fel ystadegau swyddogol.
Mae’r amcangyfrifon o fis Ionawr i fis Mawrth 2025 yn cynnwys effaith lawn y gwelliannau i ddulliau casglu data a samplu’r Arolwg o’r Llafurlu a gyflwynwyd gan yr SYG o fis Ionawr 2024 ymlaen. Mae’r SYG yn cynghori y dylid bod yn ofalus wrth lunio casgliadau o newidiadau tymor byr ac i ganolbwyntio ar dueddiadau hirdymor yn y data. Mae rhywfaint o anwadalrwydd yn parhau, yn enwedig ar gyfer amcangyfrifon canol 2023 a thrwy gydol 2024, ac ar gyfer dadansoddiadau manwl, lle mae meintiau sampl yn llai.
Mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon Arolwg o’r Llafurlu wedi'u hail-bwysoli ar gyfer Cymru ym mis Rhagfyr 2024 am y cyfnod o Ionawr i Fawrth 2019, sydd wedi achosi newid sylweddol yn y data.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymyriadau y mae'r SYG wedi'u gwneud i wella ansawdd amcangyfrifon y farchnad lafur LFS ac APS a'n cyngor ar ddefnyddio'r ystadegau hyn ar gyfer Cymru, gweler diweddariad Diweddariad y Prif Ystadegydd: mesur y farchnad lafur yng Nghymru.
Manylion cyswllt
Ystadegau’r Farchnad Lafur a Sgiliau
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
