Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2021

Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y pennawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.

Caiff ymatebion yr LFS eu pwysoli i amcanestyniadau poblogaeth swyddogol. Gan fod yr amcanestyniadau presennol yn seiliedig ar 2018 maent ar sail tueddiadau demograffig cyn y pandemig COVID-19. Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dadansoddi cyfansymiau'r boblogaeth a ddefnyddir yn y broses bwysoli ac efallai yn gwneud addasiadau os yw'n briodol. Mae'r cyfraddau a gyhoeddir o'r LFS yn parhau i fod yn gadarn; fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio lefelau a newidiadau mewn lefelau

Cyfradd cyflogaeth

Image
Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.

Cymru

Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 73.2%, i fyny 0.8 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.1%, i lawr 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gostyngiad blynyddol mwyaf yn y gyfradd gyflogaeth ers mis Rhagfyr i fis Chwefror 2010.

Cyfradd diweithdra

Image
Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf, ond mae wedi cynyddu dros yr ychydig fisoedd diwethaf

Cymru

Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.8%, y gyfradd ddiweithdra uchaf ers Hydref i Ragfyr 2017. I fyny 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 4.9%, i lawr 0.1 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.9 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Roedd ffigyrau Hydref i Ragfyr yn dangos y cynnydd blynyddol mwyaf yn y gyfradd diweithdra (1.3 pwynt canran) ers mis Hydref i fis Rhagfyr 2009.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Image
Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.0%, i lawr 1.0 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.1 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gostyngiad blynyddol cyntaf ers Ebrill i Fehefin 2019.

DU

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 20.9%, i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Hyn yw’r cynnydd blynyddol mwyaf ers mis Chwefror a Ebrill 2010.

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Image
Mae’r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf.

Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu yn gyffredinol yn ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig.

Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mawrth 2021 yn dangos bod 1.23 miliwn o weithwyr cyflogedig yng Nghymru. Roedd hyn yn ostyngiad o 29,000 (2.3%) o gymharu â mis Chwefror 2020, ond yn gynnydd bach o 6,000 (0.5%) o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Tachwedd 2020.

Adroddiadau

Trosolwg o'r farchnad lafur: Ebrill 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.