Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2023

Mae'r penawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys data o'r Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EM.

Cyfradd cyflogaeth

Ffigwr 1: Cyfradd cyflogaeth, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2013 i y 3 mis hyd at fis Chwefror 2023

Image

Disgrifiad Ffigwr 1: Siart llinell sy'n dangos y gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg y Llafurlu

Cymru

Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.4%. Mae hyn i fyny ychydig ar y chwarter ac i lawr 1.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.8%. Mae hyn i fyny 0.2 pwynt canran ar y chwarter blaenorol ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Ffigwr 2: Cyfradd diweithdra, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2013 i y 3 mis hyd at fis Chwefror 2023

Image

Disgrifiad Ffigwr 2: Siart llinell sy'n dangos y gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg y Llafurlu

Cymru

Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.5%. Mae hyn i fyny ychydig ar y chwarter ac i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 3.8%. Mae hyn i fyny ychydig ar y chwarter ac i lawr ychydig ar yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Ffigwr 3: Cyfradd anweithgarwch economaidd, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2013 i y 3 mis hyd at fis Chwefror 2023

Image

Disgrifiad Ffigwr 3: Siart llinell sy'n dangos y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers diwedd 2020. Yng Nghymru, mae'r gyfradd wedi amrywio dros y cyfnod yma ond yn gyffredinol mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd y DU.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Arolwg y Llafurlu

Cymru

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 24.9%. Mae hyn i lawr 0.3 pwynt canran ar y chwarter blaenorol ac i fyny 1.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.1%. Mae hyn i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Ffigwr 4: Cyflogeion cyflogedig, Cymru, Mawrth 2018 i Mawrth 2023

Image

Disgrifiad Ffigwr 4: siart llinell sy'n dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf 2020.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Gyflog Wrth i Chi Ennill Gwybodaeth Amser Real, Swyddfa Ystadegau Gwladol a HMRC

Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Fe wnaeth nifer y gweithwyr cyflogedig dychwelyd nôl at lefelau cyn y pandemig ym mis Gorffennaf 2021, ac mae bellach wedi aros yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.

Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mawrth 2023 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 1,600 (0.1%) dros y mis i 1.31 miliwn.

Ar lefel y DU, dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mawrth 2023 gynnydd misol o 30,500 (0.1%).

Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Adroddiadau

Trosolwg o'r farchnad lafur: Ebrill 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 724 KB

PDF
Saesneg yn unig
724 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Alexandra Fitzpatrick

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.