Trosolwg o'r farchnad lafur: Ebrill 2026 (canlyniadau pennawd)
Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r pennawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, gan gynnwys ystadegau Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) ac o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS).
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Chyllid a Thollau EM (CThEM) yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru ar:
- gweithwyr cyflogedig
- cyflog cymedrig
- tâl cyfanredol
- amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol
Gweithwyr cyflogedig
Ffigur 1: gweithwyr cyflogedig, Cymru, mis Mawrth 2021 i fis Mawrth 2026
Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos fod tuedd yn y nifer o weithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi lleihau dros y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn cynnydd cyson ers 2021.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o PAYE RTI, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a CThEF.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Mawrth 2026 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi gostwng o 500 (0.0% i 1 lle degol) dros y mis i 1.31 miliwn.
Ar lefel y Deyrnas Unedig (DU), dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Mawrth 2026 ostyngiad misol o 11,000 (0.0% i 1 lle degol).
Mae dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y SYG.
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2026
Mae cyfyngau hyder ar gyfer y prif gyfraddau marchnad lafur ar gael ar wefan y SYG. Mae'r data diweddaraf yn dangos nad oedd unrhyw newidiadau ystadegol arwyddocaol ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur yn y tri mis hyd at fis Chwefror 2026. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r newidiadau chwarterol a blynyddol ar gyfer y dangosyddion hyn yn debygol o adlewyrchu newid gwirioneddol yn y data.
Cyfradd cyflogaeth
Ffigur 2: cyfradd cyflogaeth, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2016 i’r 3 mis hyd at fis Chwefror 2026
Disgrifiad o ffigur 2: siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 71.9%. Mae hyn i fyny 0.6 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 1.6 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.0%. Mae hyn i lawr 0.1 pwynt canran ar y chwarter a heb newid ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Ffigur 3: cyfradd diweithdra, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2016 i’r 3 mis hyd at fis Chwefror 2026
Disgrifiad o ffigur 3: siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd diweithdra wedi dilyn tuedd debyg yng Nghymru ac yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf er bod y gyfres ar gyfer Cymru yn fwy anwadal.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.9%. Mae hyn i lawr 1.6 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 0.9 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd cyfradd diweithdra y DU yn 4.9%. Mae hyn i lawr 0.2 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Ffigur 4: cyfradd anweithgarwch economaidd, y 3 mis hyd at fis Chwefror 2016 i’r 3 mis hyd at fis Chwefror 2026
Disgrifiad o ffigur 4: siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyffredinol yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers y misoedd cynnar yn 2020. Yng Nghymru, mae'r gyfradd wedi amrywio dros y cyfnod hwn ond yn gyffredinol mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd y DU.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 25.1%. Mae hyn i fyny 0.5 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 0.9 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.0%. Mae hyn i fyny 0.2 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod y flwyddyn ynghynt.
Gwybodaeth bellach
Mae'r SYG wedi cyhoeddi amcangyfrifon Arolwg o’r Llafurlu wedi'u hail-bwysoli ar gyfer Cymru ym mis Rhagfyr 2024 am y cyfnod o Ionawr i Fawrth 2019, sydd wedi achosi newid sylweddol yn y data.
Mae'r SYG wedi nodi bod heriau o ran cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd data, er gwaethaf yr ail-bwysoliad o’r amcangyfrifon ym mis Rhagfyr 2024 (SYG). Bydd ystadegau'r farchnad lafur sy'n seiliedig ar Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i gael eu labelu fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) nes bydd adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell gofal wrth ddehongli'r data hwn.
Byddem yn argymell defnyddio data’r LFS ochr yn ochr â’r tueddiadau mewn mesurau eraill yn y farchnad lafur, yn enwedig Swyddi’r Gweithlu (mesur chwarterol o swyddi), nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig â diweithdra) a’r data RTI gan CThEF (nifer y gweithwyr ar y gyflogres) i gael darlun cliriach o’r farchnad lafur yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymyriadau y mae'r SYG wedi'u gwneud i wella ansawdd amcangyfrifon y farchnad lafur LFS ac APS a'n cyngor ar ddefnyddio'r ystadegau hyn ar gyfer Cymru, gweler diweddariad Diweddariad y Prif Ystadegydd: mesur y farchnad lafur yng Nghymru (Blog Digidol a Data).
Manylion cyswllt
Ystadegau’r Farchnad Lafur a Sgiliau
E-bost: Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
