Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Mae'r datganiad hwn wedi'i ganslo
Mae'r pennawd ystadegol "Trosolwg o'r farchnad lafur: Hydref 2023 (canlyniadau pennawd)" a oedd i fod i gael ei gyhoeddi ar 24 Hydref 2023 wedi'i ohirio. Mae cyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) y seilir y pennawd ystadegol hwn arno dim bellach yn cynnwys data lefel Cymru.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon dangosol o gyfraddau marchnad lafur pennawd y DU o ffynonellau data ychwanegol, sy'n cwmpasu'r ddau gyfnod 3 misol diweddaraf (Mai i Orffennaf 2023 a Mehefin i Awst 2023). Mae'r amcangyfrifon dangosol hyn ar gyfer y DU yn unig ac ni fyddant yn cael eu cyhoeddi ar lefel Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am yr addasiadau sy'n cael eu gwneud i gyhoeddi ystadegau'r farchnad lafur ar gael yn y datganiad hwn a ryddhawyd gan y SYG.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol. Cyhoeddwyd y data diweddaraf ar gyfer enillion a chyflogaeth o wybodaeth amser real Talu Wrth Ennill, Hydref 2023 gan y SYG ar 17 Hydref 2023.