Trosolwg o'r Farchnad Lafur: Hydref 2024 (canlyniadau pennawd)
Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r pennawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EF (CThEF) ac o'r Arolwg o'r Llafurlu (LFS).
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
Ffigur 1: Cyflogeion cyflogedig, Cymru, mis Medi 2019 i fis Medi 2024
Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf er gwaethaf gostyngiad serth rhwng mis Mawrth 2020 a mis Gorffennaf 2020.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o PAYE RTI, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a CThEF.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Medi 2024 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi gostwng 400 (0.0% i un lle degol) dros y mis i 1.32 miliwn.
Ar lefel y Deyrnas Unedig (DU), dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Medi 2024 ostyngiad misol o 15,200 (0.0% i un lle degol).
Mae dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y SYG.
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Awst 2024
Mae cyfyngau hyder ar gyfer y prif gyfraddau marchnad lafur ar gael ar wefan y SYG. Mae'r data diweddaraf yn dangos nad oedd unrhyw newidiadau ystadegol arwyddocaol ar gyfer prif ddangosyddion y farchnad lafur yn y tri mis hyd at fis Awst 2024. Mae hyn yn awgrymu nad yw'r newidiadau chwarterol a blynyddol ar gyfer y dangosyddion hyn yn debygol o adlewyrchu newid gwirioneddol yn y data.
Cyfradd cyflogaeth
Ffigur 2: Cyfradd cyflogaeth, y 3 mis hyd at fis Awst 2014 i’r 3 mis hyd at fis Awst 2024
Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r LFS
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 69.8%. Mae hyn i fyny 1.1 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 3.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.0%. Mae hyn i fyny 0.6 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Ffigur 3: Cyfradd diweithdra, y 3 mis hyd at fis Awst 2014 i’r 3 mis hyd at fis Awst 2024
Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd diweithdra wedi gostwng ar y cyfan yng Nghymru ac yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r LFS
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.8%. Mae hyn i fyny 1.3 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd cyfradd diweithdra y DU yn 4.0%. Mae hyn i lawr 0.4 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Ffigur 4: Cyfradd anweithgarwch economaidd, y 3 mis hyd at fis Awst 2014 i’r 3 mis hyd at fis Awst 2024
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyffredinol yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers y misoedd cynnar yn 2020. Yng Nghymru, mae'r gyfradd wedi amrywio dros y cyfnod hwn ond yn gyffredinol mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd y DU.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r LFS
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 26.5%. Mae hyn i lawr 2.3 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 2.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.8%. Mae hyn i lawr 0.3 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr ychydig ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Gwybodaeth bellach
Mae'r SYG wedi nodi bod heriau o ran cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd data, er gwaethaf yr ail-bwysoliad o’r amcangyfrifon ym mis Chwefror 2024. Bydd ystadegau'r farchnad lafur sy'n seiliedig ar Arolwg o’r Llafurlu yn cael eu labelu fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) nes bydd adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell gofal wrth ddehongli'r data hwn.
Byddem yn argymell defnyddio data’r LFS ochr yn ochr â’r tueddiadau mewn mesurau eraill yn y farchnad lafur, yn enwedig Swyddi’r Gweithlu (mesur chwarterol o swyddi), nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau sy’n gysylltiedig â diweithdra) a’r data RTI gan CThEF (nifer y gweithwyr ar y gyflogres) i gael darlun cliriach o’r farchnad lafur yng Nghymru.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099