Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2024

Mae'r pennawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys data o'r Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EM.

Cyfradd cyflogaeth

Ffigur 1: Cyfradd cyflogaeth, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2014 i’r 3 mis hyd at fis Ionawr 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu

Cymru

Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 70.3%. Mae hyn i lawr 2.1 pwynt canran ar y chwarter ac i lawr 1.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.0%. Mae hyn i lawr ychydig ar y chwarter ac i lawr 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Ffigur 2: Cyfradd diweithdra, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2014 i’r 3 mis hyd at fis Ionawr 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd diweithdra wedi gostwng ar y cyfan yng Nghymru ac yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu

Cymru

Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.8%. Mae hyn i fyny 0.7 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd cyfradd diweithdra y DU yn 3.9%. Mae hyn heb newid ar y chwarter ac i fyny ychydig ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Ffigur 3: Cyfradd anweithgarwch economaidd, y 3 mis hyd at fis Ionawr 2014 i’r 3 mis hyd at fis Ionawr 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyffredinol yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers y misoedd cynnar yn 2020. Yng Nghymru, mae'r gyfradd wedi amrywio dros y cyfnod yma ond yn gyffredinol mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd y DU.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu

Cymru

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 26.9%. Mae hyn i fyny 1.8 pwynt canran ar y chwarter ac i fyny 1.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.8%. Mae hyn i fyny ychydig ar y chwarter ac i fyny ychydig ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Ffigur 4: Cyflogeion cyflogedig, Cymru, Chwefror 2019 i Chwefror 2024

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell sy'n dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf er gwaethaf gostyngiad serth rhwng mis Mawrth 2020 a mis Gorffennaf 2020.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o PAYE RTI, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a CThEF

Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Chwefror 2024 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi gostwng 400 (0.0% i un lle degol) dros y mis i 1.32 miliwn. 

Ar lefel y DU, dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Chwefror 2024 gynnydd misol o 19,900 (0.1%).

Mae dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

Mae'r SYG wedi nodi bod heriau o ran cynnal cyfraddau ymateb ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu yn parhau i effeithio ar ansawdd data, er gwaethaf yr ail-bwysoliad o’r amcangyfrifon. Bydd ystadegau'r farchnad lafur sy'n seiliedig ar Arolwg o’r Llafurlu yn cael eu labelu fel ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) nes bydd adolygiad pellach ac rydym yn parhau i argymell gofal wrth ddehongli'r data hwn. 

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcangyfrifon Arolwg o’r Llafurlu wedi'u hail-bwysoli ar gyfer Cymru ym mis Chwefror 2024 ar ôl oedi'r amcangyfrifon sy'n seiliedig ar Arolwg o’r Llafurlu ym mis Medi 2023 yn dilyn gostyngiad yn ansawdd data. Mae'r data wedi'i ail-bwysoli o fis Gorffennaf i fis Medi 2022, gan arwain at newid sylweddol yn y data. Mae effaith lawn yr ail-bwysoliad hwn wedi’u manylu yn yr erthygl 'Effaith ail-bwysoli ar ddangosyddion allweddol Arolwg o’r Llafurlu yng Nghymru', sydd ar gael yn Nhrosolwg o’r Farchnad Lafur mis Chwefror 2024.

Adroddiadau

Trosolwg o'r Farchnad Lafur: Mawrth 2024 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 802 KB

PDF
Saesneg yn unig
802 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Joe Davies

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.