Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Gorffennaf 2021

Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y pennawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.

Cyfradd cyflogaeth

Image
Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.

Cymru

Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 74.6%, y gyfradd uchaf ers Medi i Dachwedd 2019. Mae hyn i fyny 0.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.2%, i fyny 0.5 pwynt canran ers y chwarter  blaenorol ac i lawr 0.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Image
Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf, ond mae wedi cynyddu dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

Cymru

Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.2%, mae hyn yr un fath â’r chwarter blaenorol ac i fyny 1.0 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 4.6%, i lawr 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Image
Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers diwedd 2020. Mae'r gyfradd amrywio yng Nghymru.

Cymru

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 22.0%, y gyfradd isaf ers Ebrill i Fehefin 2019. Mae hyn i lawr 0.8 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.1%, i lawr 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Nodyn

Mae cymariaethau â'r flwyddyn flaenorol yn cwmpasu cyfnod cynnar y pandemig coronafeirws (Mai i Orffennaf 2020).

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Image
Mae’r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf. Ers diwedd 2020, mae nifer y cyflogeion cyflogedig wedi bod yn cynyddu ar y cyfan.

Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ar ddiwedd 2020 ac mae bellach yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.

Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Awst 2021 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 8,700 (0.7%) dros y mis i 1.27 miliwn. Mae hyn yn uwch na’r amcangyfrifon cyn y pandemig (Chwefror 2020) a chynnydd o 46,000 o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Tachwedd 2020.

Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Awst 2021 ar lefel y DU hefyd y cynnydd misol mwyaf ers dechrau’r gyfres yn 2014.

Mae data ar lefel awdurdod lleol yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf heddiw.

Adroddiadau

Trosolwg o'r farchnad lafur, Medi 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.