Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Gorffennaf 2022
Mae'r penawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru, ac mae'n cynnwys data o'r Arolwg o'r Llafurlu ac ystadegau arbrofol Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill gan adran Gyllid a Thollau EM.
Cyfradd cyflogaeth
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 72.0%. Mae hyn i lawr 1.9 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 2.4 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gostyngiad blynyddol mwyaf ers Medi i Tachwedd 2020 a’r gostyngiad chwarterol mwyaf ar y ers Gorffennaf i Medi 2020.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.4%. Mae hyn i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.2%. Mae hyn i lawr 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.0 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 3.6%. Mae hyn i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.0 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 25.6%. Mae hyn i fyny 2.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 3.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r cynnydd blynyddol a’r cynnydd chwarterol mwyaf ers dechrau cofnodion yn 1992.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.7%. Mae hyn i fyny 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.5 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ar ddiwedd 2020 ac mae bellach yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Awst 2022 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 1,400 (0.1%) dros y mis i 1.30 miliwn. Mae hyn yn uwch na’r amcangyfrifon cyn y pandemig (ar gyfer Chwefror 2020) a chynnydd o 73,200 o gymharu â’r pwynt isaf yn ystod y pandemig ym mis Tachwedd 2020.
Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Awst 2022 ar lefel y DU gynnydd misol o 71,100 (0.2%).
Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
Trosolwg o'r farchnad lafur: Medi 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.