Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Ebrill 2021

Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu (LFS) yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y pennawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.

Caiff ymatebion yr LFS eu pwysoli i amcanestyniadau poblogaeth swyddogol. Gan fod yr amcanestyniadau presennol yn seiliedig ar 2018 maent ar sail tueddiadau demograffig cyn y pandemig COVID-19. Mae'r cyfraddau a gyhoeddir o'r LFS yn parhau i fod yn gadarn; fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio lefelau a newidiadau mewn lefelau. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi papur methodoleg yn amlinellu eu bod yn bwriadu ail-bwysoli’r Arolwg o'r Llafurlu gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth o wybodaeth amser real cyflog wrth i chi ennill (PAYE). Caiff hyn ei gymhwyso i ganlyniadau’r Arolwg o’r Llafurlu o fis Gorffennaf 2021.

Cyfradd cyflogaeth

Image
Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.

Cymru

Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 73.9%. Mae hyn  1.8 pwynt canran i fyny ers y chwarter blaenorol ond i lawr ychydig ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.2%, i fyny 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.9 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Image
Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf, ond mae wedi cynyddu dros yr ychydig fisoedd diwethaf

Cymru

Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 4.3%, i lawr 0.2 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.2 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd diweithdra’r DU yn 4.7%, i lawr 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.7 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Image
Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gyson yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi amrywio yng Nghymru.

Cymru

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 22.7%, i lawr 1.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.9 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma un o’r gostyngiadau chwarterol mwyaf ers dechrau cofnodion yn 1992.

DU

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.0%, heb newid ers y chwarter blaenorol ac i fyny 0.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Hyn yw’r ail gynnydd blynyddol ar y cyd mwyaf ers mis Chwefror i Ebrill 2010.

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Image
Mae’r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf.

Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu yn gyffredinol yn ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig.

Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mai 2021 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 11,300 (0.9%) dros y mis i 1.25 miliwn. Hwn oedd y cynnydd misol mwyaf ers dechrau’r gyfres yn 2014. Mae hwn yn gynnydd o 20,400 o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Tachwedd 2020 ond yn parhau islaw ffigwr Chwefror 2020 o 1.26 miliwn.

Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Mai 2021 ar lefel y DU hefyd y cynnydd misol mwyaf ers dechrau’r gyfres yn 2014.

Adroddiadau

Trosolwg o'r farchnad lafur: Mehefin 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.