Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Trosolwg o'r farchnad lafur
Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Medi 2021
Mae’r prif ddangosyddion llafurlu sydd wedi’u hamcangyfrif o’r Arolwg o’r Llafurlu yn rhoi arwydd o sut mae’r pandemig coronafeirws (COVID-19) yn effeithio’r llafurlu. Gellir hefyd defnyddio’r ffynonellau data eraill, megis nifer y gweithwyr cyflogedig a gyflwynir yn nes ymlaen yn y pennawd hwn, i roi darlun mwy amserol a chyflawn.
Cyfradd cyflogaeth
![Mae'r gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf.](/sites/default/files/2021-11/cyfradd-cyflogaeth-tachwedd-2021.png)
Cymru
Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn 73.8%. Mae hyn i lawr 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i fyny 1.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma'r cynnydd blynyddol mwyaf ers mis Chwefror i fis Ebrill 2019.
DU
Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y DU yn 75.4%. Mae hyn i fyny 0.4 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd diweithdra
![Mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf. Cynyddodd y gyfradd yn dilyn dechrau'r pandemig coronafeirws, ond mae wedi dechrau gostwng dros yr ychydig fisoedd diwethaf.](/sites/default/files/2021-11/cyfradd-diweithdra-tachwedd-2021.png)
Cymru
Roedd y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn 3.8%, i lawr 0.3 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.8 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt. Dyma’r gyfradd diweithdra isaf ers Mai i Orffennaf 2020.
DU
Roedd cyfradd diweithdra’r DU yn 4.3%, i lawr 0.5 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 0.6 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Cyfradd anweithgarwch economaidd
![Mae’r gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn y DU dros y 4 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers diwedd 2020. Mae'r gyfradd amrywio yng Nghymru.](/sites/default/files/2021-11/cyfradd-anweithgarwch-economaidd-tachwedd-2021.png)
Cymru
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 23.2%. Mae hyn i fyny 0.7 pwynt canran ers y chwarter blaenorol ac i lawr 1.3 pwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.
DU
Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd ar gyfer y DU yn 21.1%, heb newid ers y chwarter blaenorol ac ychydig yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt.
Noder
Mae cymariaethau â'r flwyddyn flaenorol yn cwmpasu cyfnod cynnar y pandemig coronafeirws (Gorffennaf i Fedi 2020).
Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.
Gweithwyr cyflogedig
![Mae’r siart yn dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf. Ers diwedd 2020, mae nifer y cyflogeion cyflogedig wedi bod yn cynyddu ar y cyfan.](/sites/default/files/2021-11/cyflogeion-cyflogedig-tachwedd-2021.png)
Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Dechreuodd nifer y gweithwyr cyflogedig gynyddu eto ar ddiwedd 2020 ac mae bellach yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.
Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer Hydref 2021 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 6,300 (0.5%) dros y mis i 1.28 miliwn. Mae hyn yn uwch na’r amcangyfrifon cyn y pandemig (Chwefror 2020) a chynnydd o 52,000 o gymharu â’r pwynt isaf ym mis Tachwedd 2020.
Dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer Hydref 2021 ar lefel y DU gynnydd misol o 160,000, y seithfed mis yn olynol i ddangos cynnydd o fwy na 120,000.
Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol ac yn ôl oedran gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Trosolwg_o_r_farchnad_lafur__Tachwedd_2021.jpg?itok=GxDA9Tyi)
Trosolwg o'r farchnad lafur, Tachwedd 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.