Neidio i'r prif gynnwy

Data misol ar gyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd.

Prif ddangosyddion y farchnad lafur, y 3 mis hyd at fis Medi 2023

Mae'r pennawd hwn yn rhoi crynodeb o'r ystadegau allweddol diweddaraf sy'n ymwneud â marchnad lafur Cymru. Mae'n cynnwys data seiliedig ar ystadegau arbrofol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol gan ddefnyddio'r Arolwg o'r Llafurlu, Gwybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill (PAYE RTI) CThEF, a data ar nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau.

Oherwydd bod mwy o ansicrwydd ynghylch amcangyfrifon Arolwg y Llafurlu, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi cyfres amgen o amcangyfrifon cyflogaeth, diweithdra ac anweithgarwch economaidd fel ystadegau arbrofol. Cyfrifwyd y ffigurau arbrofol gan ddefnyddio cyfraddau twf PAYE RTI a nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau am y cyfnodau o fis Mai i fis Gorffennaf 2023 ymlaen. Mae hyn er mwyn rhoi darlun mwy cyfannol o gyflwr y farchnad lafur tra bod amcangyfrifon yr Arolwg o’r Llafurlu yn ansicr.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ystadegau arbrofol ar gael yn yr adroddiad methodoleg a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi amlinellu'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r heriau presennol gyda’r Arolwg o’r Llafurlu yn eu cynllun gwella, gyda'r nod o ailgyflwyno amcangyfrifon yr Arolwg o’r Llafurlu ym mis Rhagfyr 2023.

Cyfradd cyflogaeth

Ffigur 1: Cyfradd cyflogaeth, y 3 mis hyd at fis Medi 2013 i’r 3 mis hyd at fis Medi 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd cyflogaeth yn y DU yn gyffredinol yn uwch nag yng Nghymru dros y 10 blynedd diwethaf. Mae’r data o fis Mai i fis Gorffennaf 2023 yn seiliedig ar ystadegau arbrofol o’r farchnad lafar, wedi’u haddasu. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu, PAYE RTI CThEF, a data ar nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau.

Cymru

Roedd y gyfradd gyflogaeth arbrofol wedi’i haddasu yng Nghymru yn 72.5%. Mae hyn i lawr 0.2 bwynt canran ar y chwarter ac i fyny 0.2 bwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd gyflogaeth arbrofol wedi’i haddasu ar gyfer y DU yn 75.7%. Mae hyn i lawr ychydig ar y chwarter ac i fyny 0.2 bwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd diweithdra

Ffigur 2: Cyfradd diweithdra, y 3 mis hyd at fis Medi 2013 i’r 3 mis hyd at fis Medi 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart llinell sy'n dangos bod y gyfradd diweithdra wedi gostwng yng Nghymru ac yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf. Mae’r data o fis Mai i fis Gorffennaf 2023 yn seiliedig ar ystadegau arbrofol o’r farchnad lafar, wedi’u haddasu. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu, PAYE RTI CThEF, a data ar nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau.

Cymru

Roedd y gyfradd diweithdra arbrofol wedi’i haddasu yng Nghymru yn 4.8%. Mae hyn i lawr ychydig ar y chwarter ac i fyny 1.1 phwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd cyfradd diweithdra arbrofol wedi’i haddasu y DU yn 4.2%. Mae hyn heb newid ar y chwarter ac i fyny 0.6 phwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Cyfradd anweithgarwch economaidd

Ffigur 3: Cyfradd anweithgarwch economaidd, y 3 mis hyd at fis Medi 2013 i’r 3 mis hyd at fis Medi 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart llinell sy'n dangos y gyfradd anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn y DU dros y 10 blynedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ar y cyfan ers y misoedd cynnar yn 2020. Yng Nghymru, mae'r gyfradd wedi amrywio dros y cyfnod yma ond yn gyffredinol mae'n parhau i fod yn uwch na chyfradd y DU. Mae’r data o fis Mai i fis Gorffennaf 2023 yn seiliedig ar ystadegau arbrofol o’r farchnad lafar, wedi’u haddasu. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg o'r Llafurlu, PAYE RTI CThEF, a data ar nifer y rhai sy’n hawlio budd-daliadau.

Cymru

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd arbrofol wedi’i haddasu yng Nghymru yn 23.8%. Mae hyn i fyny 0.3 pwynt canran ar y chwarter blaenorol ac i lawr 1.1 phwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

DU

Roedd y gyfradd anweithgarwch economaidd arbrofol wedi’i haddasu ar gyfer y DU yn 20.9%. Mae hyn heb newid ar y chwarter ac i lawr 0.7 bwynt canran ers yr un cyfnod flwyddyn ynghynt.

Enillion misol gweithwyr cyflogedig o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cyhoeddi data ar gyfer Cymru am weithwyr sydd ar gyflogres, tâl cymedrig, tâl yn ei grynswth ac amcangyfrifon un mis ar gyfer tâl canolrifol.

Gweithwyr cyflogedig

Ffigur 4: Cyflogeion cyflogedig, Cymru, Hydref 2018 i Hydref 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: siart llinell sy'n dangos tuedd gyffredinol ar i fyny o weithwyr cyflogedig dros y blynyddoedd diwethaf ac yna gostyngiad serth o fis Mawrth 2020 tan fis Gorffennaf 2020.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o PAYE RTI, y Swyddfa Ystadegau Gwladol a CThEF.

Mae nifer y gweithwyr cyflogedig wedi cynyddu ar y cyfan yn y blynyddoedd ddiweddar, ond wedi gostwng yn ystod y pandemig. Fe wnaeth nifer y gweithwyr cyflogedig dychwelyd nôl at lefelau cyn y pandemig ym mis Gorffennaf 2021, ac mae bellach wedi aros yn uwch na’r lefel cyn y pandemig.

Mae amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Hydref 2023 yn dangos bod nifer y gweithwyr cyflogedig yng Nghymru wedi cynyddu 600 (0.0% i un lle degol) dros y mis i 1.31 miliwn. 

Ar lefel y DU, dangosodd amcangyfrifon cynnar ar gyfer mis Hydref 2023 cynnydd misol o 32,600 (0.1%).

Cyhoeddir dadansoddiadau manwl eraill o weithwyr cyflogedig gan gynnwys yn ôl awdurdod lleol, yn ôl oedran ac yn ôl sector gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Gwybodaeth bellach

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn nodi bod her gynyddol i gynnal cyfraddau ymateb ar gyfer Arolwg o’r Llafurlu a bod y prif niferoedd ar gyfer cyflogaeth yn dechrau amrywio o ffynonellau data eraill y farchnad lafur. Yn ogystal â blog y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig) ar y pwnc hwn, gweler diweddariad diweddaraf y Prif Ystadegydd ar ddeall a rheoli effaith yr heriau hyn ar ddata'r farchnad lafur yng Nghymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Alexandra Fitzpatrick

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.