Neidio i'r prif gynnwy

Bydd modd i bobl Cymru yn y dyfodol gael diagnosis cyflymach a thriniaethau sydd wedi’u teilwra’n fwy penodol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi lansio’r Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl, sydd wedi’i chynllunio i sicrhau bod modd i bobl trwy Gymru gael mynediad at ddiagnosis cyflymach a chywirach. Gwneir hynny trwy alluogi clinigwyr i ddeall clefyd unigol claf trwy ddadansoddi ei enynnau. Bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu triniaethau sydd wedi’u teilwra ar gyfer unigolion, yn hytrach na thriniaeth a gynlluniwyd ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol.

Mae’r strategaeth hefyd yn amlinellu cynlluniau i ddefnyddio’r technegau diweddaraf ar gyfer gwella dulliau o ragfynegi clefydau a meithrin gwell dealltwriaeth o ddigwyddiadau pan geir nifer o achosion o glefyd.   

Yn ogystal, bydd y strategaeth yn datblygu gwaith ymchwil mewn geneteg a genomeg, yn hybu gwybodaeth a sgiliau’r gweithlu oddi mewn ac oddi allan i’r GIG ac yn creu partneriaethau strategol mewn genomeg ar gyfer meddygaeth fanwl. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Mae technolegau genetig a genomig yn caniatáu inni feithrin dealltwriaeth lawer manylach o’r cysylltiad rhwng ein genynnau a’n hiechyd.

“Mae gan y strategaeth rwy’n ei lansio heddiw botensial i chwyldroi meddygaeth ac iechyd y cyhoedd; mae’n nodi proses o droi oddi wrth leihadaeth (reductionism) a symud tuag at gyfnod newydd o feddygaeth fanwl.

“Bydd yn galluogi cleifion trwy Gymru i fanteisio ar y dechnoleg hon ac i gwtogi eu ‘siwrnai ddiagnostig’. Mae mwy i’n strategaeth na dim ond darparu canlyniadau profion newydd; mae’n ymwneud hefyd â’r gofal a’r cymorth sydd eu hangen ar gleifion er mwyn cael gafael ar y gwasanaethau hyn, ac mae’n ymwneud â darparu’r wybodaeth angenrheidiol fel y gallant wneud y penderfyniad cywir iddyn nhw’u hunain a’u cyflwr, a hynny ar sail yr wybodaeth fwyaf cywir, cyfredol a chytbwys sydd ar gael.

“Er enghraifft, mae ein dealltwriaeth o sail enynnol canser bellach yn helpu i ddarparu therapïau sydd wedi’u teilwra ar gyfer cleifion. Yn achos canser yr ysgyfaint, mae pedwar dangosydd genynnol wedi’u dynodi, sy’n caniatáu i glinigwyr roi’r triniaethau sydd fwyaf tebygol o rwystro tiwmorau rhag tyfu,  lleihau eu maint ac ymestyn ansawdd a hyd bywyd y claf.”

Cefnogir y Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl gan £6.8m o arian gan Lywodraeth Cymru a chafodd ei datblygu gan y tasglu genomeg, sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, y Trydydd Sector a sefydliadau addysg uwch.