Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn nigwyddiad y Brifysgol Agored, 22 Mai 2023.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Noswaith dda.

Diolch i’r Brifysgol Agored am drefnu’r digwyddiad heno ac am y gwahoddiad. Mae’n bleser bod yma, roedd hi’n wych gwrando ar Louise yn agor y gynhadledd.

Alla i ddim gadael i’r noson hon fynd heibio heb dalu teyrnged i chi Louise wrth i chi gamu i lawr fel Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i chi am eich holl flynyddoedd o wasanaeth parhaus i addysg uwch yng Nghymru. Byddwn yn colli eich gwybodaeth, eich barn a’ch arbenigedd sy’n deillio o ddyfnder eich profiad ar draws y sector.

Mae eich gwaith wedi arwain at gynnydd sydd i’w groesawu’n fawr iawn yn nifer y cofrestriadau blwyddyn gyntaf, rhan-amser ac ôl-radd. O ganlyniad, mae llawer mwy o fyfyrwyr yn profi effeithiau trawsnewidiol posibl addysg uwch. Rydych chi wedi cyflawni’r ymrwymiad rydym yn ei rannu o Gymru fel cenedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol i bob un ohonom a dweud y lleiaf. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr arweiniad a ddangoswyd gennych wrth gadeirio’r Adolygiad Annibynnol o Gyfres Arholiadau 2020.

Diolch Louise. Gallwch chi fod yn falch iawn o’ch llwyddiannau ac rwy’n dymuno’n dda i chi wrth i chi symud ymlaen i’r bennod nesaf.

Rwy’n credu ein bod ar ein gorau pan fyddwn ni’n cydweithio. Mae gwrando ar y panel yn trafod a’r amrywiaeth o leisiau sy’n cymryd rhan yn y sgwrs yn fy atgoffa pa mor bwysig yw hyn a pha mor ffodus ydyn ni yng Nghymru ein bod yn gallu clywed – a’n bod wedi ymrwymo i ddod ynghyd fel hyn – lleisiau’r sector trydyddol, dysgu gydol oes, busnes a’r rheini ohonoch sy’n gweithio yn ein cymunedau.

Dros y penwythnos, ailddarllenais y bennod ym mywgraffiad gwych Patricia Hollis ar fywyd Jennie Lee, sef, fel y gwyddoch chi, y Gweinidog a oedd yn gyfrifol am sefydlu Prifysgol yr Awyr. Mewn gwirionedd, roedd y profiad ymhell o fod yn un cydweithredol. Roedd CAG, y BBC, y Wasg Addysg, llawer o aelodau’r Cabinet, y Trysorlys, Swyddfa’r Post, Coleg Birkbeck, y rhan fwyaf o’r prifysgolion – i gyd yn amrywio o fod yn amheus o’r syniad i’w wrthwynebu’n gyhoeddus. 

Neges wleidyddol bwysig i’n hatgoffa, am wn i, nad yw popeth da yn ffrwyth consensws.

Mae consensws a chydweithio yn ddau beth gwahanol. Rwy’n credu ein bod ar ein gorau pan fyddwn ni’n cydweithio. Drwy weithio gyda’n gilydd, byddwn yn parhau i gyfoethogi addysg a chymdeithas yng Nghymru, gan sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bawb ac – yn bwysicach na hynny – bod dysgwyr yn gallu cefnogi a siapio’n cymunedau.

Hoffwn ddechrau drwy ystyried trafodaeth y panel. Mae’r syniad o ddinesydd fel myfyriwr wrth galon cenhadaeth y Brifysgol Agored, ond mae’r syniad o’r myfyriwr fel dinesydd yr un mor hanfodol. Nid fel ymgorfforiad yn unig o set o sgiliau, profiadau a chymwysterau a fydd yn gwella eu gallu i fwynhau bywoliaeth deilwng a bywyd boddhaus – er ei bod yn ddigon posibl y bydd yn gwneud hynny. Ond y ffordd orau y gallwn newid cymdeithas er gwell yw cael poblogaeth sydd wedi’u haddysgu’n dda. Mewn ffordd real iawn, addysg yw’r polisi economaidd gorau, ac addysg yw’r polisi cyfiawnder cymdeithasol gorau. 

Mae gan Dysgu Oedolion ran bwysig iawn yn ein hanes fel cenedl yng Nghymru. Ni ellir ystyried ymdrech ar y cyd y gweithwyr i gynilo a buddsoddi mewn Sefydliadau Gweithwyr ac ystafelloedd darllen, i anfon y genhedlaeth nesaf i golegau Llafur ac yn y blaen, drwy lygaid cynnydd materol yn unig – yn y bôn, mae’n fudiad i greu cymdeithas well/ – “rôl addysg oedolion (fel y dywedodd Hywel Francis, yr addysgwr oedolion gwych hwnnw)....hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf caled a thruenus... fel adnodd ar gyfer goleuedigaeth a newid amgylchiadau - yn unigol ac ar y cyd, gan greu gofodau cymdeithasol ar gyfer gweithwyr”.

Mae’r economi a chymdeithas yn gyffredinol yn elwa’n fawr o ystyried addysg uwch a’i heffaith yn gyfannol yn hytrach na dim ond drwy lygaid datblygiad neu gyflawniad unigol. Roeddwn yn falch o glywed barn y panel am hyn, ac yn enwedig pwysigrwydd cydweithio ar draws sectorau os ydym am wireddu’r nod hwnnw.

Mae gwerth cymdeithasol i addysg, a gallwn wneud mwy i gynyddu ei gwerth. Yn hanesyddol, mae effaith lesol addysg uwch wedi canolbwyntio’n aml ar yr economi. Mae hynny’n sicr yn hollbwysig – ac mae bob amser modd gwneud yn well wrth drosi ymdrech mewn un yn effaith yn y llall – ond mae llawer o agweddau eraill hefyd. Cyfoethogi ein diwylliant, gwella ein democratiaeth, cryfhau ein cymunedau, meithrin ein sectorau gwirfoddol, a manteisio am byth ar amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas.

Nawr, rwy’n gwybod y gall hyn swnio’n llawn bwriadau da ac ychydig yn amwys. Rwy’n meddwl am yr hyn rydym wedi’i wneud mewn ysgolion gyda’n Cwricwlwm newydd i Gymru. Ceir disgrifiad bras o’r pedwar diben ond maent yn uchelgeisiol ac yn egnïol – ac yn sbarduno newid.  Sut gallwn ni wneud hynny yn ein sector addysg uwch? Drwy weithio gyda’n gilydd a mynd y tu hwnt i ymarfer confensiynol. 

Mewn araith flwyddyn yn ôl, dywedais:

Rwy’n credu y gallwn weithio gyda'n gilydd ar gyfer cynnig a chydnabyddiaeth 'myfyriwr fel dinesydd' cenedlaethol ledled Cymru lle mae Cymru'n gwarantu'r canlynol i chi: profiadau, gwybodaeth a sgiliau, a fydd yn eich helpu chi i fod yn ddinesydd ymroddedig a chyfrifol. Cyfrannu'n lleol, meithrin lles a gwydnwch, cyflogadwyedd a sgiliau, cael nerth o gymunedau amrywiol, a bod yn wir ddinasyddion o Gymru a’r byd. Rhaid i hyn fod yn rhan o'r contract cymdeithasol newydd rhwng myfyrwyr, prifysgolion a'r genedl.

Mae angen iddo gael ei sbarduno gan sefydliadau i adlewyrchu eu hamgylchiadau lleol – ac rwy’n edrych ymlaen at weld hynny’n cael ei wireddu.

Gwn fod llawer ohonoch eisoes wedi dechrau edrych ar addysg drwy’r llygaid hyn, felly dydyn ni ddim yn dechrau o’r dechrau. Ond mae angen i ni weld newid diwylliannol yn ein sefydliadau, ein busnesau a’n myfyrwyr er mwyn gallu gweld budd addysg uwch fel rhywbeth nad yw’n gorffen ar ôl cwblhau cwrs na’n gorffwys ar ysgwyddau un unigolyn.

Rhaid inni gydnabod hefyd nad yw newid diwylliant yn rhywbeth y gellir ei gyflawni dros nos, a gweithio i ysgogi’r agenda dros amser.

Bydd gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) newydd rôl i’w chwarae hefyd, gan ganolbwyntio ar ei ddyletswyddau strategol. Bydd y Comisiwn yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros ariannu a chyfeiriad strategol cyffredinol dysgu oedolion, yn ogystal ag addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau a chweched dosbarth mewn ysgolion.

Bydd yn darparu’r cyllid i awdurdodau lleol, colegau, ac Addysg Oedolion Cymru sydd mor hanfodol i wireddu cenhadaeth dysgu oedolion.

Ond bydd yn gwneud hyn gyda ffocws strategol newydd – galluogi a sicrhau dysgu gydol oes i bobl o bob cefndir.

Bydd y Comisiwn yn cael ei rymuso i sicrhau bod ein sector addysg drydyddol ac ymchwil yn cael ei drefnu mewn ffordd sy’n diwallu anghenion dysgwyr, yr economi, cyflogwyr a’r genedl gyfan, a bydd yn hanfodol er mwyn gwireddu ein gweledigaeth strategol ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru.

Yn wir, un o brif swyddogaethau’r Comisiwn newydd fydd cefnogi sefydliadau i adeiladu ar eu cryfderau a’u cenadaethau eu hunain fel eu bod yn ategu ei gilydd fel rhan o ddull gweithredu sector cyfan.

Bydd yn cefnogi cryfderau, cenhadaeth a darpariaeth sefydliadol, gan gydnabod bod pob un ohonom yn elwa o system o sefydliadau ategol cryf. Gosodais yr her hon i’r sector addysg uwch yn yr araith honno flwyddyn yn ôl; byddwch yn glir a chanolbwyntiwch ar y rôl unigryw y mae eich sefydliad yn ei chwarae yn y system drydyddol yng Nghymru.  Flwyddyn yn ddiweddarach, rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy gan y sector am hyn.

Mae pob sefydliad yn rhannu’r cyfrifoldeb o ddarparu ar gyfer ystod ehangach o ddysgwyr, ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd a’u bywydau, ond bydd sut y gwneir hynny – i ba raddau, ar ba adegau, gan bwy – yn amrywio o un sefydliad i’r llall. Ond bydd gweithio gyda’n gilydd yn dod â ffyniant cenedlaethol a chymunedau llewyrchus.

Mae angen inni wneud yn siŵr nad yw’r ffordd rydym yn ariannu ac yn darparu addysg uwch yn creu rhwystrau diangen rhag cyfranogiad. Mewn cyfnod heriol iawn o ran cyllid cyhoeddus a chyllid personol, mae hynny’n hynod o bwysig ac yn arbennig o anodd.  Ond rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod y rheini mewn addysg rhan amser yn parhau i elwa o gael mynediad at y cymorth cyllid myfyrwyr mwyaf blaengar yn y DU. Felly, byddwn yn ystyried beth arall allwn ei wneud i sicrhau bod y cap ar fenthyciadau rhan-amser yng Nghymru yn cefnogi ein nod o ehangu mynediad at yr ystod ehangaf o gyrsiau rhan-amser. Byddwn yn dechrau gweithio ar hynny cyn bo hir.

Hoffwn orffen heno drwy ddiolch hefyd i bawb yn yr ystafell hon am eich gwaith caled a’ch ymroddiad i wneud y sector addysg yng Nghymru mor llwyddiannus ag y mae heddiw.

Oes, mae mwy i’w wneud, ond rhaid inni hefyd bwyso a mesur yr hyn a gyflawnwyd, wrth inni gymryd saib, a dod yn ôl at ein gilydd ar gyfer y cam nesaf. Pan fyddaf yn mynychu digwyddiadau fel hyn, mae’n amlwg i mi fod ymdeimlad cyffrous o ymrwymiad ac ymroddiad i sicrhau bod addysg uwch yng Nghymru yn cynnig dysgu o’r safon uchaf a’i fod ar gael i bawb.

Mae Cymru’n genedl o ail gyfleoedd, lle nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.

Diolch.

Thank you.