Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r drwydded hon, yn amodol ar gydymffurfio â’r amodau a nodir yn yr Atodlen o Amodau isod, yn caniatáu:

  • symud unrhyw ran o garcas aderyn o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i labordy neu filfeddygfa ar gyfer profion diagnostig neu archwilio
  • symud samplau o ddofednod byw neu adar caeth eraill, gan gynnwys samplau gwaed, a samplau o ysgarthion a swabiau, o safle mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth i labordy neu filfeddygfa ar gyfer profion diagnostig neu archwilio

Dim ond symudiadau sydd fel arall yn cael eu gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o H5NX sy’n cael eu caniatáu o dan y drwydded hon, lle mae H5NX yn unrhyw straen o feirws ffliw adar pathogenig iawn cytras 2.3.4.4b, er enghraifft H5N1, H5N5. Nid yw’n caniatáu symudiadau sydd wedi’u gwahardd gan ddatganiad a gyhoeddwyd mewn ymateb i achosion o unrhyw straen arall o HPAI.

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 5pm ar 5 Mawrth 2025 hyd nes y caiff ei hatal neu ei dirymu yn ysgrifenedig.

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Llofnodwyd: Sarah Lloyd Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad: 5 Mawrth 2025 Amser: 5pm

Arolygydd Milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol.

Deddfwriaeth

Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd) 

Gorchymyn Anifeiliaid (Darpariaethau Amrywiol) 1927 – Erthygl 2(1)

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) – Atodlen 4 paragraffau 11, 14 ac 16; Atodlen 5 paragraffau 8, 8A a 15

Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) – Atodlen 4 paragraffau 11, 14 ac 16; Atodlen 5 paragraffau 8, 8A a 15

Atodlen yr amodau

  1. Rhaid i garcasau neu samplau sy’n cael eu symud o dan y drwydded hon gael eu hanfon trwy ddosbarthiad a gofnodwyd, eu cludo gan wasanaeth negesydd neu eu danfon yn uniongyrchol o’r safle yn y parth gwarchod neu’r parth gwyliadwriaeth i’r safle derbyn i’w profi neu eu harchwilio.
  2. Ni chaiff carcasau a samplau eu symud o unrhyw safle sydd wedi derbyn hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol.
  3. Ni chaniateir symud carcasau a samplau o dan y drwydded hon at ddibenion profi am glefyd adar hysbysadwy.
  4. Yn union cyn casglu samplau neu garcasau, i’w symud o dan y drwydded hon, rhaid archwilio’r dofednod ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol. (https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu) a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar.
  5. Cyn i unrhyw symudiad arfaethedig o dan y drwydded hon ddigwydd, rhaid i’r person(au) sy’n gyfrifol am y labordy/filfeddygfa sy’n gyrchfan i’r symudiad:
  • fod wedi cael eu hysbysu am y symudiad arfaethedig
  • fod wedi cael eu hysbysu bod y samplau neu’r carcasau yn dod o barth amddiffyn neu barth gwyliadwriaeth ffliw adar (fel y bo’n briodol); a
  • fod yn ymwybodol o amodau’r drwydded hon, a rhaid iddynt fod wedi cytuno i dderbyn y samplau neu’r carcasau.
  1. Rhaid labelu deunydd pacio allanol a ffurflen cyflwyno’r samplau i ddangos y safle gwreiddiol a nodi’n glir bod y safle hwn wedi’i leoli mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth ffliw adar (fel y bo’n briodol).
  2. Rhaid pacio pob sampl yn unol â Rheoliadau Cludo Nwyddau Peryglus a Defnyddio Offer Gwasgedd Cludadwy 2009 (fel y’u diwygiwyd) a’r Cytundeb Ewropeaidd ar Gludo Nwyddau Peryglus ar y Ffordd (ADR) rhwng Gwledydd (gweler nodyn esboniadol 1, isod, am ddolen i ragor o wybodaeth).
  3. Rhaid i’r holl samplau neu garcasau gael eu pecynnu i fodloni gofynion pecynnu UN3373 – P650. Dylid marcio pob pecyn gyda’r geiriau “BIOLOGICAL SUBSTANCE CATEGORY B” (“SYLWEDD BIOLEGOL CATEGORI B”). Rhaid i’r geiriau hyn fod mewn llythrennau o leiaf 6mm o uchder ac wedi’u gosod ger y label diemwnt UN3373 (gweler nodyn esboniadol 1, isod, am ddolen i ragor o wybodaeth).
  4. Rhaid i bawb sy’n defnyddio’r drwydded gyffredinol hon:
  • pan yn y safle gwreiddiol, wisgo naill ai:
    i) dillad amddiffynnol tafladwy neu
    ii) oferôls nad ydynt yn dafladwy sy’n gallu amddiffyn dillad rhag halogiad ac y mae modd eu glanhau a’u diheintio’n llawn; a chyfarpar diogelu personol nad yw’n dafladwy
  • peidio â mynd i mewn i’r safle gwreiddiol neu adael y safle gwreiddiol yn gwisgo dillad neu esgidiau sydd wedi’u baeddu’n amlwg gan laid, ysgarthion dofednod neu adar neu unrhyw ddeunydd tebyg
  • glanhau a diheintio eu hesgidiau cyn mynd i mewn i’r safle gwreiddiol neu adael y safle gwreiddiol
  • tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael y safle gwreiddiol; ac ni ddylid eu hailddefnyddio mewn safleoedd eraill
  • sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael y safle gwreiddiol
  • cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth.
  1. Cyn mynd i mewn i’r safle neu adael y safle lle mae’r samplau neu garcasau i’w symud ohono:
    i) rhaid i du allan y cerbyd sy’n cludo’r samplau/carcasau fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy gan sarn, llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plisgyn wy, wyau wedi torri, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
    ii)rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwyn y cerbyd. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ar ôl llwytho ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi y tu hwnt i’r fan honno gan sarn, llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plisgyn wy, wyau wedi torri, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg.
  2. Ar ôl trin y samplau neu’r carcasau, rhaid glanhau a diheintio unrhyw arwyneb yn y safle gwreiddiol a ddaeth i gysylltiad â’r samplau neu’r carcasau, ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd wrth drin samplau neu garcasau o’r fath.
  3. Rhaid glanhau a diheintio yn unol ag Erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru neu Erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr.
  4. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod deunydd sy’n cael ei symud o dan y drwydded hon yn cael ei waredu mewn safle llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid cymeradwy drwy’r modd o waredu a bennir ar gyfer deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2 gan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 a gymathwyd. Rhaid i waredu carcasau ddigwydd trwy’r dull gwaredu a’r defnydd a ganiateir gan Reoliad (CE) Rhif 1069/2009 ar gyfer y categori perthnasol o ddeunydd. 

Nodiadau esboniadol

  1. Am ragor o wybodaeth ynghylch Amodau 7 a 8, uchod, gweler ein canllawiau ar y broses Cludo Nwyddau Peryglus.
  2. Yn y drwydded hon:

    1. mae “carcas” yn golygu unrhyw garcas aderyn ac mae’n cynnwys unrhyw ran o garcas aderyn.
    2. ystyr “aderyn caeth arall” yw aderyn nad yw’n perthyn i deulu’r dofednod sy’n cael ei gadw’n gaeth, ac mae hynny’n cynnwys aderyn anwes ac aderyn sy’n cael ei gadw ar gyfer sioeau, rasys, arddangosfeydd, cystadlaethau, bridio neu i’w werthu. 

    Rhaid i unrhyw berson sy’n symud carcasau/samplau o dan y drwydded hon wneud cofnod o’r symudiad gan gynnwys (ymhlith pethau eraill) manylion cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad. Rhaid cadw’r manylion hyn am o leiaf chwe wythnos o ddyddiad cwblhau’r symudiad, fel sy’n ofynnol gan Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru neu Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr. 

  3. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
    1. faint o ddeunyddiau sy’n cael eu symud
    2. dyddiad y symudiad
    3. enw’r traddodwr
    4. cyfeiriad y safle lle symudwyd deunyddiau ohono
    5. rhif cofrestru’r cerbyd sy’n casglu
    6. enw’r traddodai
    7. cyfeiriad y safle gwaredu.
  4. Rhaid i berson sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ran o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol.
  5. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau a sicrhau bioddiogelwch da bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
  6. Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o’r amodau sy’n berthnasol i ddefnyddio’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol.

Am ragor o fanylion ynghylch deddfwriaeth sy’n ymwneud â ffliw adar yng Nghymru – gweler gwefan Llywodraeth Cymru  neu yn Lloegr – gweler [canllawiau ffliw adar] (https://www.gov.uk/government/news/bird-flu-avian-influenza-latest-situation-in-england#law)

Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.