Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r drwydded hon yn caniatáu, yn amodol ar gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol a’r amodau a nodir yn y drwydded hon, symudiad y mathau a ganlyn o gig dofednod o unrhyw safle gan gynnwys symud i mewn i, tu mewn i neu allan o barth gwarchod: 

  • cig dofednod a gynhyrchwyd o ddofednod sy’n tarddu o barth gwarchod
  • cig dofednod a gynhyrchwyd o ddofednod o ardal sy’n dod yn barth gwarchod ar ôl cynhyrchu cig o’r fath, ac nad yw’n bodloni gofynion erthygl 63(3)(b) y Gorchymyn. 

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 16:41 ar 09/11/2024 ac mae’n dirymu a disodli’r drwydded EXD249(HPAI)(EW) a ddaeth i rym am 10am ar 12 Rhagfyr 2022.

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr. 

Llofnodwyd: 

Alicia Roldan
Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad: 9 Tachwedd 2024.  Amser: 16:41   

Penodwyd yr Arolygydd Milfeddygol gan Weinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol.

Os nad yw'r drwydded hon yn berthnasol i'r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os nad ydych yn gallu cydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sy’n berthnasol i’r defnydd o’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk).

Deddfwriaeth

Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd) a’r “Gorchymyn”, sy’n golygu: 

  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)

Cyflwynir y drwydded gyffredinol hon yn unol ag:

  • Erthygl 63(2) a pharagraff 14 o Atodlen 4 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr 

Amodau’r drwydded

  1. Cyn gadael lladd-dy yn y parth gwarchod neu’r parth gwyliadwriaeth, rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod tu allan y cerbyd yn rhydd o unrhyw halogiad amlwg gan laid, ysgarthion anifeiliaid, carthion neu unrhyw ddeunydd tebyg.
     
  2. Rhaid i’r trwyddedai sicrhau bod olwynion a bwâu olwynion y cerbyd wedi’u glanhau a’u diheintio ar ôl llwytho a chyn gadael y lladd-dy. Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi gan blu, carthion, sarn neu blisgyn wyau dofednod neu unrhyw ddeunydd tebyg y tu hwnt iddo. Rhaid i’r gwaith diheintio gydymffurfio ag erthygl 66(5):
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  1. Pan fo cig heb ei becynnu, carcasau neu garcasau heb eu glanhau’n cael eu symud o dan y drwydded hon, rhaid glanhau a diheintio tu mewn y cerbyd a phob cynhwysydd a ddefnyddir i’w cludo yn drwyadl, yn unol ag erthygl 66(5) y Gorchymyn, ar ôl eu dadlwytho. Rhaid i’r gwaith diheintio gydymffurfio â’r Rheoliad hylendid EC 853/2004 perthnasol ar gyfer bwyd sy’n deillio o anifeiliaid. 

Nodiadau esboniadol

  1. At ddibenion y drwydded hon, mae “cig dofednod” yn golygu cig dofednod ac unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys cig dofednod nad yw wedi’i drin â gwres ar dymheredd isaf o 70°C, sy’n cyrraedd pob rhan o’r cig neu’r cynnyrch. Gellir symud cig dofednod neu gynhyrchion cig dofednod sydd wedi’u trin i isafswm tymheredd o 70°C sy’n cyrraedd pob rhan o’r cig neu’r cynnyrch heb drwydded. 
     
  2. Rhaid i gig dofednod o ddofednod sy’n tarddu o barth gwarchod a ddisgrifir o dan bwynt 1 neu 2 o’r drwydded hon (neu ei ddeunydd pecynnu) gynnwys y marc a gymeradwywyd gan yr awdurdod perthnasol o dan Erthygl 63(2) o’r Gorchymyn (a nodir isod). Ni ellir allforio’r cig hwn. 
     
    1. Lle ceir: 

      i. “UK” “GB” ac “United Kingdom” – llythrennau 8 mm o uchder 
      ii. XXXX – rhifau 11 mm o uchder (lle bo XXXX yn dynodi rhif cymeradwyo’r safle, fel y cyfeirir ato ym mhwynt 7 Rhan B neu Adran I o Atodiad II o Reoliad (EC) Rhif 853/2004) 
      iii. diamedr (i ymyl allanol yr ymyl) – dim llai na 30 mm 
      iv. trwch yr ymyl - 3mm 

Image
Packaging example

*Pan gaiff ei ddefnyddio ar becynnau manwerthu, mae’n bosibl y bydd maint y marc yn amrywio ar sail maint y pecyn; fodd bynnag, rhaid iddo fod yn ddarllenadwy â’r llygad noeth, yn annileadwy a rhaid gallu dehongli’r symbolau’n hawdd.  

  1. Mae Erthygl 63(3)(b) o’r Gorchymyn yn pennu y gall cig a gynhyrchwyd o ddofednod o ardal sy’n dod yn barth gwarchod ar ôl cynhyrchu cig o’r fath gael ei symud heb drwydded:  
  • os cafodd ei gynhyrchu o leiaf 21 diwrnod cyn y dyddiad y mae arolygydd milfeddygol yn amcangyfrif yw dyddiad yr haint cynharaf ar safle yn y parth gwarchod (dyddiad yr haint cynharaf yw [cyhoeddwyd ar GOV.UK](https://www.gov.uk/animal-disease-cases-england))
     
  • os yw wedi’i gael, ei dorri, ei gludo a’i storio ar wahân i’r cig a gynhyrchwyd ar ôl y dyddiad hwnnw 
  1. Rhaid peidio â chaniatáu i gig dofednod o dan y drwydded hon adael y lladd-dy oni bai bod gofynion Erthygl 63(2) o’r Gorchymyn wedi’u bodloni, sef ei fod wedi’i gael, ei dorri, ei gludo a’i storio ar wahân i gig dofednod o du allan i’r parth, a bod y marc a gymeradwywyd arno, sydd wedi’i osod yn unol â’r rheolau hylendid arferol.  
     
  2. Mae cig dofednod sydd â’r marc arbennig arno, gan gynnwys cig a symudwyd o dan y drwydded hon, wedi’i gyfyngu i’r farchnad ddomestig ac ni ellir ei gyflwyno i fasnach rhyng-gymunedol neu ryngwladol.  
     
  3. Rhaid i’r holl gig dofednod o dan y drwydded hon fodloni’r gofynion gwahanu yn y Gorchymyn – gweler Erthygl 63(2) o’r Gorchymyn. 
     
  4. Rhaid gwneud cofnod o’r symudiad fel sy’n ofynnol o dan Erthygl 74 o’r Gorchymyn hefyd cyn gynted â’i bod yn rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad a’i gadw am o leiaf 6 wythnos ar ôl cwblhau’r daith.  
     
  5. Wrth symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon, rhaid i unigolyn gario nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys: 
     
    1. beth sy'n cael ei symud, gan gynnwys faint sy'n cael ei symud
    2. dyddiad y symudiad
    3. enw’r traddodwr
    4. cyfeiriad y safle lle y dechreuodd y symudiad
    5. enw’r traddodai
    6. cyfeiriad y safle ar ben y daith
       
  6. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i gopïau neu rannau gael eu cymryd., os bydd arolygydd, neu unrhyw swyddog arall perthnasol, yn gofyn iddo wneud hynny.
     
  7. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am [arwyddion o glefyd] (https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading) a [sicrhau bioddiogelwch da bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
     
  8. I gael rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu ffliw adar yn:

    a. Cymru – ewch i wefan Llywodraeth Cymru
    b. Lloegr – ewch i’n canllawiau ffliw adar (ar gov.uk) 

Mae methu â chydymffurfio â'r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk)

Nodwch eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau y bydd eich ymholiad yn cael ei anfon i’r arbenigwr yn y maes cywir.