Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r drwydded hon yn caniatáu, yn amodol ar gydymffurfio â'r gyfraith berthnasol a'r amodau a nodir yn y drwydded hon, symud mamaliaid (ac eithrio buchod godro) o, neu i, safle yn y parth gwarchod neu’r parth gwyliadwriaeth, yng Nghymru a Lloegr, lle mae dofednod neu adar caeth eraill yn cael eu cadw.

Mae'r drwydded hon yn ddilys o 15:05 ar 14/11/2024 ac mae'n dirymu ac yn disodli trwydded EXD247(HPAI)(EW) a ddaeth i rym am 10am ar 12 Rhagfyr 2022.

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac mae'n berthnasol i Gymru a Lloegr.

Llofnodwyd: 

Radu Pancu 
Arolygydd Milfeddygol 

Dyddiad:      14/11/2024                                           Amser: 15:05

Penodwyd yr Arolygydd Milfeddygol gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol.

Os nad yw'r drwydded hon yn berthnasol i'r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os na allwch gydymffurfio ag unrhyw un o'r telerau ac amodau sy'n berthnasol i ddefnyddio'r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk).

Deddfwriaeth

Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y'i diwygiwyd) a'r "Gorchymyn" sy'n golygu:

  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd)

Cyhoeddir y drwydded gyffredinol hon yn unol â’r canlynol:

  • paragraff 8 o Atodlen 4 a pharagraff 6 o Atodlen 5 o'r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr 

Amodau'r drwydded

  1. Ni ddylai unrhyw famaliaid (ac eithrio buchod godro) sy'n cael eu symud o dan y drwydded hon gael mynediad at ddofednod ac unrhyw adar eraill am o leiaf 21 diwrnod, a rhaid cadw unrhyw famaliaid o'r fath i ffwrdd o ddofednod ac unrhyw adar eraill am y cyfnod hwn hefyd. 
  2. Bydd symud mamaliaid (ac eithrio buchod godro) a ganiateir gan y drwydded hon yn digwydd yn uniongyrchol i safle'r cyrchfan. 
  3. Nid yw'r drwydded hon yn berthnasol i symudiadau i, neu o, unrhyw safle sy'n destun hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol. 
  4. Cyn mynd i mewn i'r safle, neu cyn gadael y safle lle mae'r anifeiliaid yn cael eu llwytho, mae'n rhaid i'r trwyddedai sicrhau'r canlynol:
  • rhaid i'r sarn a ddefnyddir ar gyfer cludo anifeiliaid fod yn ffres, yn lân, yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy gan laid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall, a heb fod mewn cysylltiad ag adar caeth neu ddofednod
  • rhaid i du allan y cerbyd fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy gan laid, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall 
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion, bwâu olwynion, a fflapiau llaid y cerbyd ar ôl llwytho a chyn gadael y safle. Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio gael ei wneud mewn man lle nad oes modd i'r cerbyd gael ei halogi gan blu, carthion, sarn, neu blisgyn wyau dofednod, nac unrhyw ddeunydd tebyg 
  1. Ar ôl dadlwytho ar safle'r cyrchfan, rhaid i'r trwyddedai sicrhau'r canlynol: 
  • rhaid glanhau a diheintio'r rhannau o'r cerbyd ac unrhyw offer a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth a allai fod wedi'i halogi gan laid, slyri, tail, ysgarthion neu blu dofednod, neu gan unrhyw ddeunydd tebyg arall
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion y cerbyd ar ôl dadlwytho a chyn gadael safle'r cyrchfan 
  1. Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson/personau sy'n ymwneud â'r gwaith symud hwn yn gwneud y canlynol: 
  • peidio â mynd i mewn i unrhyw safle dofednod neu adar caeth, neu adael unrhyw safle o'r fath, os yw/ydynt yn gwisgo dillad neu esgidiau sy'n amlwg wedi'u baeddu gan laid, ysgarthion dofednod neu adar, neu unrhyw ddeunydd tebyg
  • yn glanhau ac yn diheintio ei esgidiau/eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu adael unrhyw safle neu fan lle’r oedd dofednod neu adar caeth yn bresennol
  • yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth a pheidio â'u hailddefnyddio ar safle arall
  • yn sicrhau bod dillad nad ydynt yn dafladwy yn lân ac yn rhydd o unrhyw halogiad gweladwy cyn gadael safle dofednod neu adar caeth
  • yn cymryd pob rhagofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo llaid, slyri, tail anifeiliaid, ysgarthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd dofednod ac adar caeth 
  1. Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag Erthygl 66 o'r Gorchymyn.

Nodiadau esboniadol

  1. Yn unol â gofyniad Erthygl 74 o'r Gorchymyn, rhaid cofnodi'r symudiad cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad, a chadw'r cofnod am o leiaf 6 wythnos ar ôl cwblhau'r symudiad.
     
  2. Wrth symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon, rhaid i berson sicrhau bod ganddo nodyn cludo. Rhaid i'r nodyn cludo gynnwys:
  • beth sy'n cael ei symud, gan gynnwys faint sy'n cael ei symud
  • dyddiad y symudiad
  • enw’r traddodwr
  • cyfeiriad y safle lle dechreuodd y symudiad
  • enw’r traddodai  
  • cyfeiriad safle'r cyrchfan
  1. Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a'i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ddarn o'r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.
     
  2. Rhaid i unrhyw symudiad a ganiateir o dan y drwydded hon gydymffurfio â'r canlynol:
  • Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Lloegr) (Rhif 3) 2003 (fel y'i diwygiwyd) Erthygl 3 yn Lloegr
  • Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru
  1. Pan fydd angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio'r crynodiad cywir, caniatáu amser cyswllt digonol, a rhaid i'r diheintydd gael ei gymeradwyo o dan y canlynol:
  • Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y'i diwygiwyd) yn Lloegr
  • Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y'i diwygiwyd) yng Nghymru 
  1. Nid yw'r drwydded yn berthnasol i symud anifeiliaid anwes nad ydynt yn dda byw yn y sefyllfaoedd canlynol:
  • dim ond at y rhan o'r safle lle mae pobl yn byw y mae ganddynt fynediad
  • nid oes ganddynt unrhyw gyswllt â dofednod neu adar caeth eraill ar y safle ac nid oes ganddynt fynediad at unrhyw gewyll neu fannau ar y safle lle mae dofednod neu adar caeth eraill yn cael eu cadw
  1. Nid yw'r drwydded gyffredinol hon yn berthnasol i symud buchod godro o, neu i, safle yn y parth gwarchod neu wyliadwriaeth
     
  2. Os ydych chi'n amau achos o glefyd hysbysadwy, rhaid i chi roi gwybod am hyn ar unwaith: 
  • Cymru - 0300 303 8268 
  • Lloegr - Llinell Gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra ar 03000 200 301 
  1. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefydau (https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading) a sicrhau bioddiogelwch da bob amser. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed.
     
  2. I gael rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â ffliw adar:

Mae methu â chydymffurfio â'r mesurau gofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy hyd at Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu'r ddau.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk).

Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a'ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.