Trwydded gyffredinol ar gyfer symud wyau bwrdd i mewn i, tu mewn i neu allan o barth gwarchod neu barth gwyliadwraeth yn Lloegr, yr Alban neu Gymru (EXD243(AI)(GB))
Trwydded gyffredinol: symudiadau lluosog o wyau bwrdd o safle mewn Ardal Rydd i Safle Prosesu Wyau mewn Parth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Mae’r drwydded hon yn caniatáu, yn amodol ar gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol a’r amodau a nodir yn y drwydded hon, i wyau bwrdd gael eu symud i mewn i, tu mewn i neu allan o barth gwarchod neu barth gwyliadwraeth yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban i’r safleoedd a ganlyn:
- canolfan pacio wyau a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr neu Weinidogion yr Alban yn yr Alban.
- safleoedd ar gyfer gwaredu yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.
Mae’r drwydded hon yn ddilys o 14:53 ar 09/11/2024 ac mae’n dirymu a disodli EXD243(AI)(GB), a ddaeth i rym am 10am ar 12 Rhagfyr 2022.
Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth yr Alban.
Llofnodwyd:
Alicia Roldan
Arolygydd Milfeddygol
Dyddiad: 9 Tachwedd 2024 Amser: 14:53
Penodwyd yr Arolygydd Milfeddygol gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban.
Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os nad ydych yn gallu cydymffurfio ag unrhyw un o’r telerau ac amodau sy’n berthnasol i’r defnydd o’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk).
Deddfwriaeth
Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd) a’r “Gorchymyn”, sy’n golygu:
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Yr Alban) 2006 (fel y'i diwygiwyd)
- Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
Cyflwynir y drwydded gyffredinol hon yn unol â:
- Paragraff 14 o Atodlen 4 a pharagraffau 11 a 15 o Atodlen 5 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr.
- Paragraff 15 o Atodlen 4 a pharagraffau 12 ac 16 o Atodlen 5 o’r Gorchymyn yn yr Alban.
Amodau’r drwydded
- Mae’r drwydded hon yn caniatáu symud wyau bwrdd yn uniongyrchol naill ai i ganolfan pacio wyau sydd â dynodiad wedi’i weithredu neu i safleoedd gwaredu er mwyn eu dinistrio.
- Nid yw’r drwydded hon yn awdurdodi symudiadau i unrhyw safleoedd sydd wedi derbyn hysbysiad gwahardd gan arolygydd milfeddygol nac allan o’r safleoedd hynny.
Mae amodau 3 i 5 yn berthnasol i symud wyau o safleoedd sydd wedi’u lleoli mewn Parth Gwarchod neu Barth Gwyliadwraeth
- Yn union cyn symud wyau, rhaid i’r trwyddedai archwilio’r dofednod ar y safle i wirio a ydynt yn dangos arwyddion clinigol a allai fod yn gysylltiedig â Ffliw Adar.
- Cyn mynd i mewn i’r safle lle y mae’r wyau’n cael eu llwytho neu fynd allan ohono:
- rhaid i du allan y cerbyd fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweledol gan laid, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
- rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl llwytho a chyn gadael y safle. Rhaid i hyn ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi gan blu, ysgarthion neu sarn dofednod, plisgyn wyau neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
- rhaid i’r wyau, y pecynnau, y paledi, y cynhwyswyr a’r trolïau fod yn rhydd o halogiad gweledol gan blu, ysgarthion neu sarn dofednod, plisgyn wyau sy’n deillio o wyau eraill neu unrhyw ddeunydd arall tebyg cyn eu hanfon
- Rhaid i’r cerbyd a ddefnyddir allu dal dŵr, fod wedi’i orchuddio a chario pecyn gorlif rhag ofn y bydd gorlifiad.
Mae amodau 6 i 12 yn berthnasol i symud wyau o bob safle
- Rhaid i wyau sy’n cael eu symud i safleoedd a ddynodwyd yn ganolfannau pacio wyau neu safleoedd gwaredu:
- gael eu pacio mewn pecynnau tafladwy neu mewn cynhwyswyr pacio sydd wedi’u glanhau a’u diheintio’n effeithiol ac wedi’u marcio felly gan y sawl sy’n gwneud y gwaith glanhau a diheintio
- bod mewn pecynnau ar baledi neu gynhwyswyr glân
- cael eu llwytho ar gerbyd o ardal sy’n rhydd o halogiad gweledol gan laid, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
- Rhaid i blisgyn wyau a rhannau eraill o wyau sy’n deillio o ffermydd sydd wedi’u lleoli yn y Parth Gwyliadwraeth neu Warchod presennol gael eu gwaredu mewn ffatri gymeradwy sy’n rendro sgil-gynhyrchion anifeiliaid fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid Categori 1 neu Gategori 2 fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid perthnasol. Rhaid trin deunydd o’r fath â gwres i ddinistrio unrhyw feirws ffliw adar a allai fod yn bresennol. Rhaid i blisgyn wyau nad ydynt wedi’u trin â gwres beidio â:
- chael eu rhoi’n uniongyrchol ar dir a ddefnyddir i fwydo anifeiliaid
- cael eu defnyddio mewn unrhyw gynhyrchion a roddir i anifeiliaid eu bwyta
- Rhaid i’r trwyddedai sicrhau, mewn perthynas ag unrhyw unigolion sy’n rhan o’r broses o symud wyau:
- nad ydynt yn mynd i mewn neu allan o unrhyw safleoedd ar gyfer dofednod neu adar caeth yn gwisgo dillad neu esgidiau sydd wedi’u maeddu’n amlwg gan laid, ysgarthion dofednod neu adar neu unrhyw ddeunydd tebyg
- eu bod yn glanhau ac yn diheintio eu hesgidiau cyn mynd i mewn neu allan o unrhyw safle neu fan lle’r oedd dofednod neu adar caeth yn bresennol
- eu bod yn tynnu unrhyw ddillad tafladwy cyn gadael safle ar gyfer dofednod neu adar caeth ac nad ydynt yn eu hailddefnyddio mewn safleoedd eraill
- eu bod yn sicrhau bod dillad na ellir eu taflu yn lân ac yn rhydd o halogiad gweledol cyn gadael safle ar gyfer dofednod neu adar caeth
- eu bod yn cymryd pob gofal rhesymol arall i osgoi trosglwyddo mwd, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd ar gyfer dofednod ac adar caeth
- Ar ôl dadlwytho yn y safle ar ben y daith:
- yn achos safleoedd a ddynodwyd yn ganolfannau pacio wyau, rhaid i’r rhannau o’r cerbyd ac unrhyw beth arall a ddefnyddiwyd i gludo’r wyau y gallant fod wedi’u halogi â phlu, ysgarthion, ysbwriel, plisgyn wy, wyau wedi torri neu ddeunydd tebyg gael eu glanhau a’u diheintio’n effeithiol cyn gynted â’i bod yn rhesymol ymarferol ar y safle
- yn achos safle ar gyfer gwaredu, rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio ddigwydd cyn gynted â’i bod yn rhesymol ymarferol ac, mewn unrhyw achos, cyn defnyddio’r cerbyd eto
- Rhaid i’r gwaith glanhau a diheintio gydymffurfio ag:
- Erthygl 66(5) o’r Gorchymyn yng Nghymru
- Erthygl 66(5) o’r Gorchymyn yn Lloegr
- Erthygl 65(4) o’r Gorchymyn yn yr Alban
- Rhaid gwneud cofnod o’r symudiad hefyd cyn gynted â’i bod yn rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad a’i gadw am o leiaf 6 wythnos ar ôl cwblhau’r daith, fel sy’n ofynnol gan:
- Erthygl 74 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr
- Erthygl 73 o’r Gorchymyn yn yr Alban
- Wrth symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon, rhaid i unigolyn gario nodyn cludo. Rhaid i’r nodyn cludo gynnwys:
- beth sy’n cael ei symud, gan gynnwys faint sy’n cael ei symud
- dyddiad y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle lle dechreuodd y symudiad
- enw’r traddodwr
- cyfeiriad y safle ar ben y daith
Nodiadau esboniadol
- Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon roi ei enw a’i gyfeiriad, dangos y nodyn cludo a chaniatáu i rywun wneud copi llawn neu gopi o ddarn o’r nodyn cludo, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd, neu un o swyddogion eraill Gweinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion yr Alban.
- Lle y bo angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, rhaid caniatáu cyfnod cyswllt digonol, a rhaid i’r diheintydd fod wedi’i gymeradwyo o dan:
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Lloegr) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Yr Alban) 2008 (fel y’i diwygiwyd) yn yr Alban
- Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru
- Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud am arwyddion o glefyd yn eu hadar a sicrhau bioddiogelwch da (ar gov.uk) ar bob achlysur. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch iechyd eich adar, gofynnwch i'ch milfeddyg am gyngor yn ddi-oed.
- I gael rhagor o fanylion ynghylch y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu ffliw adar yn:
- Cymru – ewch i wefan Llywodraeth Cymru
- Lloegr – ewch i’r canllawiau ffliw adar (ar gov.uk)
- Yr Alban – ewch i wefan Llywodraeth yr Alban
Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau sy’n ofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk).
Dylech gynnwys eich enw, eich cyfeiriad llawn a'ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau bod eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at yr arbenigwr cywir.