Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r drwydded hon yn caniatáu, yn amodol ar gydymffurfio â’r gyfraith berthnasol a’r amodau a nodir yn y drwydded hon, i wyau bwrdd gael eu symud yn uniongyrchol o safle mewn ardal sy’n rhydd o glefyd i safle prosesu wyau mewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban.

Mae’r drwydded hon yn ddilys o 14:55 ar 09/11/2024 ac mae’n dirymu a disodli EXD541(HPAI)(GB) a ddaeth i rym am 10am ar 12 Rhagfyr 2022.

Cyhoeddwyd y drwydded hon gan Lywodraeth Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Llywodraeth yr Alban ac mae’n berthnasol i Gymru, Lloegr a’r Alban. 

Llofnodwyd: 

Alicia Roldan
Arolygydd Milfeddygol

Dyddiad:    9 Tachwedd 2024                      Amser: 14:55

Penodwyd yr Arolygydd Milfeddygol gan Weinidogion Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol a Gweinidogion yr Alban.

Os nad yw’r drwydded hon yn berthnasol i’r gweithgaredd rydych yn dymuno ymgymryd ag ef, neu os nad ydych yn gallu cydymffurfio ag unrhyw delerau ac amodau sy’n berthnasol i’r defnydd o’r drwydded hon, yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded benodol (ar gov.uk).

Deddfwriaeth

Gwneir y drwydded hon o dan y pwerau yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (fel y’i diwygiwyd) a’r “Gorchymyn”, sy’n golygu: 

  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Yr Alban) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)

Cyflwynir y drwydded gyffredinol hon yn unol ag:

  • erthyglau 4, 65, 74, 82 ac Atodlen 3 o’r Gorchymyn yng Nghymru a Lloegr 
  • erthyglau 4, 64, 73, 82 ac Atodlen 3 o’r Gorchymyn yn yr Alban

Amodau’r drwydded

  1. Nid yw’r drwydded hon yn berthnasol i symudiadau i unrhyw safle y cyflwynwyd hysbysiad cyfyngu iddo gan arolygydd milfeddygol neu oddi yno. Nid yw chwaith yn berthnasol i symud wyau bwrdd o’r parth gwyliadwraeth neu’r parth gwarchod. Mae angen gwneud cais am drwydded ar wahân ar gyfer symudiadau o’r fath. 
     
  2. Rhaid symud wyau bwrdd yn uniongyrchol i’r safle prosesu wyau i’w prosesu. 
     
  3. Rhaid i safle’r cyrchfan fod yn lleoliad a gymeradwywyd ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion wyau fel y nodir ym Mhennod II o Adran X o Atodiad III o Reoliad (EC) Rhif 853/2004.
     
  4. Yn union cyn symud wyau, rhaid i’r trwyddedai archwilio’r dofednod ar y safle i sicrhau nad ydynt yn dangos unrhyw arwyddion clinigol (ar gov.uk) a allai fod yn gysylltiedig â ffliw adar. 
     
  5. Rhaid i’r cerbyd a ddefnyddir allu dal dŵr, fod wedi’i orchuddio a dylai gario pecyn gorlif rhag ofn y bydd gorlifiad yn digwydd ar y ffordd. 
     
  6. Cyn y bydd yr wyau’n cael eu symud o’r safle cychwynnol: 
  • rhaid i du allan y cerbyd fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweledol gan laid, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall 
  • rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl llwytho a chyn gadael y safle. Rhaid i hyn ddigwydd mewn man lle nad oes modd i’r cerbyd gael ei halogi gan blu, ysgarthion neu sarn dofednod, plisgyn wyau neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
  • rhaid i’r wyau, y pecynnau, y paledi, y cynhwyswyr a’r trolïau fod yn rhydd o halogiad gweledol gan blu, ysgarthion neu sarn dofednod, plisgyn wyau sy’n deillio o wyau eraill neu unrhyw ddeunydd arall tebyg cyn eu hanfon 
  • rhaid pacio’r wyau naill ai mewn cynhwyswyr pacio tafladwy newydd neu mewn cynhwyswyr pacio sydd wedi’u glanhau a’u diheintio’n effeithiol a’u marcio felly gan y sawl a wnaeth y gwaith glanhau a diheintio. Rhaid glanhau a diheintio trolïau ac unrhyw gyfarpar arall yn effeithiol hefyd
  1. Ar ôl dadlwytho’r wyau yn safle’r cyrchfan:  
  • rhaid i’r rhannau o’r cerbyd a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw beth y gellid bod wedi’i heintio gan laid, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall gael eu glanhau a’u diheintio ar y safle (cyn ei ddefnyddio eto).
  • rhaid i du allan y cerbyd fod yn rhydd o unrhyw halogiad gweledol gan laid, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion neu unrhyw ddeunydd tebyg arall
  • rhaid i’r pecynnau (cynhwyswyr, trolïau ac unrhyw gyfarpar arall) gael eu glanhau a’u diheintio’n effeithiol cyn eu hailddefnyddio neu mae'n rhaid eu dinistrio
  1. Rhaid glanhau a diheintio olwynion a bwâu olwynion ar ôl dadlwytho a chyn gadael safle’r cyrchfan. 
     
  2. Rhaid i’r trwyddedai a enwir yn Rhan 1 sicrhau, mewn perthynas â’r unigolion sy’n dibynnu ar y drwydded hon: 
  • nad ydynt yn mynd i mewn i’r safle neu’n ei adael yn gwisgo dillad neu esgidiau sydd wedi’u maeddu’n amlwg gan laid, ysgarthion anifeiliaid neu adar neu unrhyw ddeunydd tebyg 
  • eu bod yn gwisgo dillad tafladwy neu’n glanhau a diheintio unrhyw ddillad ac esgidiau cyn mynd i mewn i safle neu ei adael 
  • eu bod yn cymryd pob gofal rhesymol i osgoi trosglwyddo unrhyw beth a allai fod wedi’i halogi gan laid, slyri, ysgarthion anifeiliaid, carthion, plu neu unrhyw ddeunydd tebyg arall rhwng safleoedd
  1. Rhaid i’r gwaith diheintio gydymffurfio â’r erthygl briodol:
  • erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) 
  • erthygl 66 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  • erthygl 65 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Yr Alban) 2006 (fel y’i diwygiwyd)
  1. Pan fo angen defnyddio diheintydd y tu mewn i gerbyd, cyfrifoldeb y gweithredwr yw sicrhau bod unrhyw ddefnydd o ddiheintydd yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a’i fod yn rhoi ystyriaeth lawn i iechyd a diogelwch y gweithredwr a defnyddwyr y cerbyd yn y dyfodol. 
     
  2. Rhaid i ddeiliad y safle cychwynnol gadw cofnod o symudiadau, gan gynnwys rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir, cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol ar ôl y symudiad a dylid cadw’r cofnod am o leiaf chwe wythnos ar ôl cwblhau’r symudiad, yn unol â gofyniad Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru neu Erthygl 74 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Lloegr) (Rhif 2) 2006 (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr. Rhaid i unrhyw berson sy’n symud dofednod o safle yn yr Alban o dan y drwydded hon gadw cofnod o’r wybodaeth ganlynol: 
  • beth sy’n cael ei symud, gan gynnwys faint sy’n cael ei symud
  • dyddiad y symudiad
  • enw’r traddodwr
  • cyfeiriad y safle lle dechreuodd y symudiad
  • rhif cofrestru unrhyw gerbyd a ddefnyddir
  • enw’r traddodai
  • cyfeiriad y safle ar ben y daith

Nodiadau esboniadol

  1. Mae’r drwydded hon yn peidio â bod yn ddilys os yw’r statws clefyd yn newid (er enghraifft, cyfyngiadau newydd neu ddiwygiedig) naill ai ar y safle y mae’r symudiad yn digwydd ohono neu safle’r cyrchfan.
     
  2. Dylai archwiliad o’r adar gan y trwyddedai, fel sy’n ofynnol ym mhwynt 4 yr amodau, ystyried unrhyw ostyngiad yn y cymeriant bwyd neu ddŵr ac unrhyw ostyngiad yn nifer y wyau a gynhyrchir. 
     
  3. Pan fo angen defnyddio diheintydd o dan y drwydded hon, rhaid defnyddio’r crynodiad cywir, caniatáu cyfnod cyswllt digonol, a rhaid i’r diheintydd fod wedi’i gymeradwyo o dan:   

a. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 2007 (Lloegr) (fel y’i diwygiwyd) yn Lloegr

b. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Yr Alban) 2008 (fel y’i diwygiwyd) yn yr Alban

c. Gorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) (Cymru) 2007 (fel y’i diwygiwyd) yng Nghymru

  1. Rhaid i unrhyw unigolyn y mae unrhyw ofyniad mewn datganiad, trwydded neu hysbysiad o dan y Gorchymyn yn berthnasol iddo: a) cydymffurfio â’r gofyniad (oni bai bod ganddo awdurdod fel arall drwy drwydded ddilys) a b) cydymffurfio ag unrhyw geisiadau rhesymol y gallai arolygydd eu gwneud i sicrhau y bodlonir y gofyniad. 
     
  2. Rhaid i unrhyw gostau a ysgwyddir gan unrhyw unigolyn wrth gymryd unrhyw gamau sy’n ofynnol neu wrth ymatal rhag cymryd camau a waherddir gan y Gorchymyn (neu unrhyw ddatganiad, trwydded neu hysbysiad oddi tano) gael eu talu gan yr unigolyn hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr neu Weinidogion yr Alban yn yr Alban, fel sy’n briodol, yn rhoi cyfarwyddiadau fel arall yn ysgrifenedig.
     
  3. Rhaid i unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan awdurdod y drwydded hon gadw’r drwydded neu gopi ohoni ar ei berson drwy gydol y symudiad trwyddedig. Ar gais arolygydd milfeddygol neu swyddog arall Gweinidogion Cymru yng Nghymru, yr Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr neu Weinidogion yr Alban yn yr Alban, fel sy’n briodol, rhaid i’r unigolyn sy’n symud unrhyw beth o dan y drwydded hon ddangos y drwydded neu gopi ohoni a chaniatáu i gopi neu ran ohoni gael ei chymryd; ac ar gais o’r fath roi ei enw a’i gyfeiriad. 
     
  4. Rhaid i systemau cadw cofnodion fod ar waith i sicrhau y gellir olrhain pob symudiad o’r safle cychwynnol i safle’r cyrchfan. 
     
  5. Os ydych yn amau bod clefyd hysbysadwy yn bresennol, rhaid i chi adrodd hyn yn syth: 

a. Cymru, 0300 303 8268 
b. Lloegr – Llinell Gymorth Gwasanaethau Gwledig DEFRA ar 03000 200 301 
c. Yr Alban, cysylltwch â’ch Swyddfa Gwasanaethau Maes lleol (ar gov.uk)

  1. Rhaid cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol arall. Yn benodol, rhaid cydymffurfio â holl ofynion y ddeddfwriaeth sgil-gynhyrchion anifeiliaid.  
     
  2. Rhaid i bawb sy’n cadw adar gadw llygad barcud ar eu hadar am arwyddion o glefyd a [sicrhau bioddiogelwch da](https://www.gov.uk/guidance/bird-flu-avian-influenza-how-to-prevent-it-and-stop-it-spreading) ar bob achlysur. Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd eich adar, gofynnwch am gyngor gan eich milfeddyg yn ddi-oed. 
     
  3. I gael rhagor o fanylion am y ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu ffliw adar yn:
    1. Cymru – ewch i wefan Llywodraeth Cymru
    2. Lloegr – ewch i’n canllawiau ffliw adar (ar gov.uk)
    3. Yr Alban – ewch i wefan Llywodraeth yr Alban

Mae methu â chydymffurfio â’r mesurau sy’n ofynnol yn y drwydded hon yn drosedd o dan Adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981. Os yw rhywun yn euog o gyflawni trosedd o dan yr adran hon, y gosb yw uchafswm o chwe mis yn y carchar neu ddirwy nad yw’n uwch na Lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau. 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y drwydded gyffredinol hon, cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (ar gov.uk)

Nodwch eich enw, eich cyfeiriad llawn a’ch rhif ffôn fel y gallwn sicrhau y bydd eich ymholiad yn cael ei anfon i’r arbenigwr yn y maes cywir.