Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych yn berchen, yn gapten neu yn llogi llong bysgota, bydd angen trwydded llong bysgota arnoch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw trwydded llong bysgota

Mae trwydded llong bysgota yn nodi'r amodau y mae'n rhaid i berchennog/capten/person sy’n llogi eu dilyn wrth bysgota. Mae'n awdurdodi:

  • yr ardaloedd môr lle gall llong weithredu
  • y rhywogaethau o bysgod y gellir eu targedu a'u cadw ar y bwrdd

Mae'n galluogi Gweinyddiaethau Pysgodfeydd y DU i reoleiddio pysgota. Rydym yn rhoi trwyddedau llongau pysgota ar ran Gweinidogion. Rhoddir y trwyddedau i longau sydd wedi'u cofrestru ym mhorthladdoedd Cymru. 

Rhennir trwyddedau yn gategori hyd:

  • llongau o dan 10m
  • llongau dros 10m

O fewn y grwpiau hyd mae gwahanol gategorïau o drwyddedau. Mae'r rhain yn nodi pa stociau o bysgod y gallwch eu dal.

Amrywiadau i'ch trwydded

Mae amrywiadau i drwyddedau yn digwydd i adlewyrchu newidiadau yn ystod oes trwydded, o ran:

  • terfynau cwotâu, a
  • cau neu agor ardaloedd môr ar gyfer y gwahanol bysgodfeydd

Trwyddedau llongau pysgota: mae amrywiadau yn manylu ar yr amrywiadau presennol i drwyddedau Cymru.

Trwyddedau llongau pysgota: amrywiadau

Mae Trwyddedau llongau pysgota: amrywiadau yn manylu ar yr amrywiadau presennol i drwyddedau Cymru.