Neidio i'r prif gynnwy

Gall ceidwaid dofednod wneud cais am drwyddedau ar gyfer rhai symudiadau risg isel o unrhyw barth gwarchod neu barthau gwyliadwriaeth sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trwyddedau cyffredinol (ar gael ym Mhrydain)

Mae trwyddedau cyffredinol yn caniatáu symudiad neu weithgaredd a fyddai fel arall yn cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr. Mae angen i chi wirio eich bod yn bodloni amodau'r drwydded gyffredinol ac yn cydymffurfio â hwy. Os byddwch yn gwneud hynny, nid oes angen i chi wneud cais - gallwch ddibynnu ar y drwydded gyffredinol fel awdurdod ar gyfer y symudiad neu'r gweithgaredd.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyfyngiadau symud ar waith yn ymwneud â ffliw adar am nad oes unrhyw barthau clefyd ffliw adar ar waith. Mae’r holl drwyddedau cyffredinol ar gyfer ffliw adar wedi’u dirymu ac eithrio ar gyfer EXD 264.

Trwyddedau cyffredinol (ar gael yng Nghymru a Lloegr)

Cig o ddofednod tu fewn parth diogelu

Bydd rhai i fusnesau gweithredu bwyd dilyn rheolau penodol am unrhyw gig wedi’i chynhyrchu o

  • ddofednod
  • adar helwriaeth

sydd wedi’u ffermio, sydd wedi tarddu o fewn y parth diogelu.

Gall cig hyn cael ei symud neu werthu, yn amodol ag nifer o amodau. Mae'r rhain yn cynnwys angen i’r marc iechyd cael ei amnewid am farc penodol. Bydd rhaid i’r marc aros efo’r cynnyrch trwy unrhyw prosesi neu ail-pacio. 

O dan rhai amgylchiadau penodol - wedi’u cynnwys yn Drwydded Gyffredinol EXD264 - mae gan y derbynnydd o gig o ddofednod caniatâd i dynnu’r marc penodol dros dro wrth gynhyrchu ac mewn rhai amgylchiadau i beidio ei ail osod. 

Trwyddedau penodol

Mae trwyddedau cymharol yn caniatáu symudiad neu weithgaredd mewn parth rheoli clefyd pan nad ydy trwydded gyffredinol yn gweithredu. 

Os oes angen i chi symud rhywbeth sydd wedi'i gyfyngu mewn unrhyw Barth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth sydd mewn grym ar hyn o bryd, dylech wneud cais i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Rhaid i chi fod wedi cofrestru eich adar gydag APHA cyn cyflwyno cais am drwydded. Darganfyddwch sut i gofrestru eich adar (ar GOV.UK).

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â'r broses newydd gweler gwneud cais am eithriad rhag cyfyngiadau rheoli clefyd ffliw adar (ar GOV.UK).