Trwyddedu Amgylcheddol: Ymgynghoriad ar Gyfraddau Ffioedd a Thaliadau Awdurdodau Lleol
Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer cynnydd chwyddiant i Gyfraddau Ffioedd a Thaliadau Awdurdodau Lleol ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2026
Yr hyn y mae angen ei wneud: Ymatebion erbyn 06 Mawrth 2026
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi ein cynnig i adolygu cyfraddau cynllun ffioedd a thaliadau trwyddedu amgylcheddol ar gyfer safleoedd diwydiannol yng Nghymru a reoleiddir gan awdurdodau lleol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (yr EPR). Mae'r cynnig yn diweddaru'r symiau a godir am drwyddedau amgylcheddol gan awdurdodau lleol, i adlewyrchu chwyddiant.
Rydym yn gofyn am eich barn i helpu i lywio diweddariad i'r cyfraddau cyfredol, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2016. Mae'r cynnig yn adlewyrchu'r gyfradd chwyddiant ers 2016, hyd at y flwyddyn ariannol 2026/27.
Sut i ymateb
Drwy'r post:
Polisi Atal Llygredd Cemegol, Ymbelydredd a Diwydiannol
Is-adran Diogelu'r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Mae fersiynau print bras a Braille o'r ddogfen hon ar gael ar gais ynghyd â chopïau mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt
Am ragor o wybodaeth:
Is-adran Diogelu'r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: IsadranDiogelurAmgylchedd@llyw.cymru
This document is also available in English
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion cyn cyhoeddi eich ymateb.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi yn rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hynny a gyhoeddir yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'i weld
- i ofyn inni gywiro unrhyw ddata anghywir
- i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
- i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- cludadwyedd y data (o dan rai amgylchiadau)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Crynodeb o’r cynigion
Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yw hwn ar ddiwygiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau Awdurdodau Lleol mewn perthynas â thrwyddedu amgylcheddol.
Y prif nod yw adolygu cyfraddau ffioedd a thaliadau Awdurdodau Lleol ar gyfer trwyddedu amgylcheddol, i adlewyrchu chwyddiant.
Mae trwyddedau yn helpu i reoleiddio gweithgareddau a allai niweidio'r amgylchedd ac iechyd pobl, megis allyriadau o weithfeydd diwydiannol, gwaredu gwastraff, a gollyngiadau dŵr. Maent yn gosod terfynau ar lygryddion ac yn gwneud mesurau i leihau'r effaith amgylcheddol yn ofynnol. O dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (yr EPR) mae gweithredwyr yn cyfrannu at gost rheoleiddio yn unol â'r egwyddor mai'r "llygrydd sy'n talu" - sy'n golygu mai'r rhai sy'n achosi llygredd sy'n gyfrifol am ysgwyddo costau ei reoli. Mae'r EPR yn ei gwneud yn ofynnol wrth adolygu cynllun, i'r graddau y bo'n ymarferol, fod y ffioedd a'r taliadau sy'n daladwy yn ddigonol i reoleiddiwr dalu am y gwariant.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn effeithio ar Awdurdodau Lleol a busnesau a reoleiddir fel cyfleuster wedi'i reoleiddio sydd yn y dosbarth 'Gosodiad' o dan yr EPR. Yn benodol, gosodiadau Rhan A(2) a Rhan B, peiriannau llosgi gwastraff bach (SWIPs), a gweithgareddau allyrru toddyddion. Y tro diwethaf i gynlluniau ffioedd a thaliadau Awdurdodau Lleol yng Nghymru gael eu diweddaru oedd 2016. Roedd hyn yn dilyn diweddariad mwy cynhwysfawr yn 2015 pan gyflwynwyd newidiadau sylweddol, yn benodol i'r rhestr o brosesau oedd yn elwa o ffioedd is. Cyn hyn, codwyd ffioedd a thaliadau yn 2010, er i adolygiadau gael eu cynnal yn flynyddol rhwng 2010 a 2015.
Credir nad yw'r cyfraddau ffioedd a thaliadau cyfredol, gan nad ydynt wedi eu diweddaru ers 2016, yn ddigonol i ganiatáu i Awdurdodau Lleol yng Nghymru adennill y costau sy'n gysylltiedig ag ymgymryd â'u cyfrifoldebau rheoleiddiol o dan yr EPR. Gall y diffyg mewn adennill costau (rhwng y gost i Awdurdodau Lleol a'r swm y gallant ei adennill) arwain at oedi wrth gyhoeddi trwyddedau a lleihau gweithgarwch cydymffurfio a gorfodi, gan arwain at effeithiau amgylcheddol negyddol a lefelau uwch o lygredd.
Er mwyn addasu ar gyfer chwyddiant, ers iddynt gael eu diweddaru ddiwethaf yn 2016, rydym yn cynnig bod angen cynnydd o 44.29% i'r ffioedd a nodir yng nghynlluniau cyfredol Cymru. Mae hyn yn datblygu ar y dull a gymerwyd yn y blynyddoedd blaenorol, sef bod rhaniad 25/75 o ran nwyddau/cost llafur yn gynrychioliadol o'r costau sy'n gysylltiedig â chyflawni swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â'r cyfleusterau perthnasol, lle mae'r gwariant mawr yn ymwneud ag amser staff (mwy am hyn isod).
Nod y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd yw adennill mwy o gostau i Awdurdodau Lleol, i gefnogi gwell adnoddau a thrwy hynny wneud penderfyniadau cyflymach ar drwyddedau ar gyfer diwydiant. Mae'r cynnydd mewn ffioedd yn parhau i fod yn gymedrol fesul trwydded ac yn angenrheidiol ar gyfer cynnal gwaith rheoleiddio amgylcheddol effeithiol.
Rydym yn ceisio eich barn ar y cynnig hwn.
Cefndir
Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (y cyfeirir atynt fel "yr EPR") yn darparu fframwaith integredig ar gyfer rheoleiddio gweithgareddau a allai niweidio'r amgylchedd neu iechyd pobl. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr rhai mathau o gyfleusterau rheoleiddiedig, gan gynnwys gosodiadau diwydiannol, gael trwyddedau sy'n gosod amodau y mae'n rhaid i ddeiliaid trwyddedau eu bodloni, gan gynnwys rheolaethau ar lygredd, a sicrhau bod rheoleiddwyr cyfleusterau a allai niweidio'r amgylchedd yn eu gorchwylio'n barhaus.
Mae rheolaethau yn gymwys i ystod o weithgareddau, gosodiadau, gweithrediadau, gweithfeydd, a phrosesau a ymgymerir gan fusnesau neu unigolion mewn deuddeg dosbarth o gyfleusterau. Maent yn cynnwys gosodiadau, gweithrediadau gwastraff a gollyngiadau dŵr, ymhlith eraill.
Yng Nghymru, o dan yr EPR, y rheoleiddiwr yw naill ai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) neu'r Awdurdod Lleol, yn dibynnu ar fath y cyfleuster, a'i faint . O ran cyfleusterau diwydiannol (ffocws yr ymgynghoriad hwn), mae CNC yn gyfrifol am reoleiddio gosodiadau diwydiannol mwy o faint (sy'n tueddu i fod yn fwy cymhleth a risg uwch), fel gorsafoedd pŵer a gweithfeydd cemegau mawr. Gelwir y rhain yn osodiadau Rhan A(1). Mae cyfrifoldeb gan awdurdodau lleol dros y canlynol:
- gosodiadau diwydiannol canolig eu maint (a elwir yn osodiadau Rhan A(2)) megis gweithgynhyrchwyr brics, gweithgynhyrchwyr gwydr, a phrosesau trin pren,
- gosodiadau diwydiannol bach (a elwir yn osodiadau 'Rhan B') megis sectorau prosesu anifeiliaid a llysiau, sychlanhawyr, a gorsafoedd petrol,
- peiriannau llosgi gwastraff bach (SWIP) - unrhyw fath o offer annibynnol, wedi'i gynllunio i losgi gwastraff, ond ar raddfa fach iawn, a
- gweithgareddau allyrru toddyddion – gweithgareddau masnachol/diwydiannol sy'n arwain at allyrru toddyddion organig.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud yn unig â gosodiadau Rhan A(2) a Rhan B uchod, peiriannau llosgi gwastraff bach a gweithgareddau allyrru toddyddion sy'n cael eu rheoleiddio gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, nodir y ffioedd sy'n daladwy i Awdurdodau Lleol gan fusnesau a reoleiddir mewn cynlluniau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan yr EPR. Yn unol â rheoliad 66 o'r EPR, mae'r cynlluniau yn nodi costau sy'n daladwy i Awdurdodau Lleol, megis ffioedd ymgeisio am drwydded a thâl cynhaliaeth blynyddol (ynghyd ag unrhyw ffioedd eithriadol eraill sydd wedi'u cynnwys yn y cynlluniau, megis ffi am amrywio neu drosglwyddo trwydded i weithredwr gwahanol).
Mae dau gynllun ar gyfer y ffioedd a'r taliadau yng Nghymru, sef Cynllun Rhan A(2) a Chynllun Rhan B.
Mae cynlluniau ffioedd a thaliadau cyfatebol ar gyfer Awdurdodau Lleol hefyd ar waith yn Lloegr, a wneir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) Llywodraeth y DU. Mae Defra yn bwriadu ymgynghori ar gynnydd chwyddiant i gynlluniau Lloegr yn ystod y misoedd nesaf.
Er bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar wahân, mae'r dull o gynyddu costau'r cynlluniau wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad agos â Defra i sicrhau cysondeb a thegwch rhwng Cymru a Lloegr.
Costau ac adennill
Mae rheoliad 66 o'r EPR yn caniatáu creu, ac adolygu cynllun sy'n rhagnodi ffioedd a thaliadau sy'n daladwy i Awdurdod Lleol neu CNC. Wrth wneud neu adolygu cynllun, rhaid i'r ffioedd a'r taliadau, i'r graddau y bo'n ymarferol, fod yn ddigonol i dalu costau'r Awdurdod Lleol neu CNC. Fel yr eglurwyd uchod, mae'r cynnydd arfaethedig mewn ffioedd a thaliadau yn ymwneud â'r rhai sy'n daladwy i Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn unig.
O dan y cynlluniau presennol, rhaid i weithredwyr cyfleusterau rheoleiddiedig dalu i gael trwydded amgylcheddol gan yr Awdurdod Lleol. Gwneir hyn trwy gyflwyno cais. Os dyfernir trwydded, rhaid i'r gweithredwr weithredu yn unol â'r amodau a nodir yn y drwydded i ddiogelu iechyd y cyhoedd a'r amgylchedd, gan gynnwys terfynau ar allyriadau a ganiateir a gofynion monitro parhaus. Mae ffi gynhaliaeth hefyd yn daladwy gan y gweithredwr am gostau sy'n gysylltiedig â gwaith rheoleiddio arferol safle y drwydded. Mae'r drwydded yn parhau hyd nes ei bod yn cael ei ildio neu ei dirymu.
Mae'n ofynnol i'r Awdurdod Lleol sicrhau bod amodau trwydded yn cael eu monitro'n rheolaidd, a bod gorfodaeth briodol yn cael ei roi ar waith yn erbyn gweithredwyr sy'n methu â chydymffurfio â'r gofyniad i gael trwydded, neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw rai o amodau'r drwydded.
Nod yr EPR yw gosod dim mwy na'r baich rheoleiddiol priodol ar unrhyw weithgaredd, gan gadw costau trwyddedu i'r lleiafswm, tra'n sicrhau bod yr amgylchedd ac iechyd pobl yn cael eu diogelu'n briodol. Cyn belled ag y bo'n ymarferol, bwriedir i'r cynlluniau ffioedd a thaliadau ganiatáu i awdurdodau lleol adennill costau cyflawni eu swyddogaethau o dan yr EPR yn ddigonol.
Cynigion
Mae angen gweithredu oherwydd nad yw Awdurdodau Lleol yn gyffredinol yn gallu adennill y costau y maent yn eu hwynebu wrth gyflawni eu cyfrifoldeb rheoleiddiol yn ddigonol ar y cyfraddau presennol. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn sylwadau gan Awdurdodau Lleol ynglŷn â chostau uwch rheoleiddio allyriadau diwydiannol yn wyneb chwyddiant cynyddol.
Gall diffygion wrth adennill costau arwain at ddiffyg adnoddau a cholli sgiliau o fewn Awdurdodau Lleol, a all effeithio ar effeithlonrwydd wrth roi trwyddedau, er anfantais i weithredwyr. Gall hefyd arwain at groes-gymorthdaliadau o gyllidebau eraill Awdurdodau Lleol, sy'n golygu y gall staff ac adnoddau ariannol y mae eu hangen ar gyfer trwyddedu gael eu tynnu o feysydd eraill, a allai gyfaddawdu gwasanaethau eraill yr Awdurdod Lleol.
Er mwyn cydymffurfio â rheoliad 66 o'r EPR, dylai ffioedd a thaliadau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, adlewyrchu cost rheoleiddio gweithgaredd diwydiannol a chael u gosod ar gyfradd sy'n galluogi'r rheoleiddiwr i adennill costau.
Rydym yn cynnig codi'r cyfraddau ffioedd a thaliadau cyfredol i adlewyrchu'r gyfradd chwyddiant ers diweddaru'r cynlluniau ddiwethaf. Rydym wedi cyfrifo, ers y cynnydd diwethaf yn 2016, bod angen cynnydd o 44.29%.
Datblygwyd y dull hwn mewn cydweithrediad agos ag Adran yr Amgylchedd, Ffermio a Materion Gwledig (Defra) yn Llywodraeth y DU.
Rydym yn deall y gellid ystyried y cynnydd hwn fel un sylweddol, fodd bynnag, nid yw cynnydd chwyddiant wedi'i gymhwyso ers sawl blwyddyn ac mae hynny'n golygu bod y cyfraddau ffioedd a thaliadau cyfredol yn llawer is nag y dylent fod. Mae'r cynnydd hwn felly yn adlewyrchu chwyddiant sy'n cwmpasu naw mlynedd ariannol. Mewn cymhariaeth, mae CNC wedi parhau i adolygu a diweddaru ei ffioedd a'i daliadau ar gyfer gosodiadau Rhan A(1) yn rheolaidd.
Mae'r wybodaeth a gasglwyd fel rhan o'r asesiad effaith (gweler isod) yn awgrymu, er bod y gost uwch i weithredwyr unigol yn cael ei ystyried yn gymedrol, bydd y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd yn arwain at gynnydd sylweddol mewn incwm i Awdurdodau Lleol, a fydd yn golygu y bydd yn haws iddynt fodloni eu gwariant yn well. Byddai hyn yn cyfyngu'r angen am draws-gymhorthdal ac yn helpu i ddod â thrwyddedu Awdurdodau Lleol yn ôl yn unol â gofynion adennill costau o dan yr EPR.
Mae rheoliad 66 o'r EPR yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i ffioedd a thaliadau allu talu costau rheoleiddio, lle bo hynny'n ymarfer. Mae'r egwyddor 'llygrydd yn talu' yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n gyfrifol am lygredd dalu'r costau, yn hytrach nag unigolion yr effeithir arnynt, neu'r gymuned ehangach. Bydd gweithredwyr wedi elwa o ddiffyg cynnydd mewn ffioedd dros y blynyddoedd. Yn ogystal, mae proses drwyddedu wedi'i hariannu'n dda yn darparu manteision diriaethol, megis:
- annog arferion gorau sy'n gwella effeithlonrwydd, arbed adnoddau, a rheoli costau'n well;
- lleihau beichiau gweinyddol a gwella diogelwch, gan leihau costau yswiriant a lliniaru risgiau cyfreithiol;
- gwella enw da busnesau, a allai roi hwb i hyder a phroffidioldeb cwsmeriaid.
Nod y cynnydd arfaethedig mewn ffioedd yw adennill mwy o gostau i Awdurdodau Lleol i gefnogi gwell adnoddau, gan arwain at well cydymffurfiaeth a monitro, gan roi mwy o sicrwydd i fusnesau. Gallai gwneud penderfyniadau cyflymach ar geisiadau am drwyddedau hefyd arwain at lai o oedi i fusnesau, gan roi mwy o sicrwydd iddynt ac o bosibl arwain at allu agor cyfleusterau yn gyflymach.
Wrth gynnal yr ymgynghoriad hwn, hoffem ddeall a fyddai'r cynnydd yn creu heriau i weithrediad parhaus gosodiadau ac a allai'r cynnydd mewn costau blynyddol sy'n cael eu hadennill wella'r gwasanaeth a ddarperir gan Awdurdodau Lleol.
Dim ond ar y cynnydd chwyddiant arfaethedig i gynlluniau ffioedd a thaliadau cyfredol (2016) yng Nghymru y mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn. Nid yw'n ystyried yr ymagwedd bresennol at y cynnwys, y strwythur na'r gweithgareddau a ddiffinnir yn y cynlluniau, ac nid yw'n ceisio gwneud unrhyw newidiadau gweithredol, newidiadau polisi na newidiadau ymarferol.
Fodd bynnag, yn y tymor hwy mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithio gydag Awdurdodau Lleol, diwydiant, Defra a CNC i adolygu'r model presennol ar gyfer pennu ffioedd a thaliadau yn llawn. Mae hon yn debygol o fod yn broses hir a chymhleth. Felly, yn y tymor byr, cynigir cynnydd i'r ffioedd a'r taliadau presennol i gyd-fynd â chwyddiant i leddfu'r pwysau ar Awdurdodau Lleol a'u helpu i adennill costau sy'n gysylltiedig â chyhoeddi a rheoleiddio trwyddedau. Mae hyn yn gyson â gofynion rheoliad 66 o'r EPR, mewn perthynas ag adennill costau gan reoleiddwyr.
Sut mae’r cyfraddau newydd wedi'u cyfrifo?
Yn ein barn ni mae'r cynnydd arfaethedig o 44.29% yn cynrychioli'r cynnydd cronnol mewn chwyddiant ers 2016. Mae'r union ddull gweithredu, gan gynnwys ein dull o gyfrifo chwyddiant ar gyfer pob blwyddyn ariannol, wedi'i nodi yn ATODIAD 1.
O ran dull gweithredu, rydym wedi amcangyfrif bod mwyafrif y gwariant yn gysylltiedig ag adnoddau staff ac felly rydym wedi cymhwyso rhaniad parhaus o 75% o lafur, sydd wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio data o'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) a 25% o nwyddau sydd wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio data o'r Cynnyrch Domestig Gros (GDP). Mae hyn yn gyson â'n dull yn y blynyddoedd blaenorol.
Mae'r OBR yn gorff annibynnol sy'n dadansoddi cyllid cyhoeddus y DU ac yn darparu rhagolygon economaidd a chyllidol, gan gynnwys effaith chwyddiant ar gyflogau cyhoeddus. Y GDP yw cyfanswm gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir yn y DU. Mae datchwyddydd y GDP yn olrhain mesur chwyddiant yn y DU a newidiadau mewn GDP bob chwarter, a dyma'r mesur ehangaf o symudiadau prisiau domestig, gan ei fod yn cynnwys prisiau'r holl nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yn ddomestig yn yr economi. Rydym wedi defnyddio'r gyfradd OBR a chyfartaledd pwysedig o'r datchwyddydd GDP oherwydd nad yw cyflogau yn y sector cyhoeddus wedi codi'n gymesur â'r sector preifat.
Y fformiwla a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r cynnydd chwyddiant canrannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol yw:
(0.75*Cyfradd OBR%) + (0.25*DatchwyddyddGDP%) = Cyfanswm y Cynnydd (%)
Beth fydd y cyfraddau ffioedd a thaliadau newydd?
Rydym yn cynnig y dylid cynyddu'r cyfraddau presennol (a gyhoeddwyd yn 2016) i 44.29% (wedi'u talgrynnu i fyny neu i lawr i'r bunt agosaf). Mae Tabl 1 isod yn rhoi enghraifft o ystod yr hen gyfraddau, ac ystod arfaethedig y cyfraddau newydd ar gyfer pob cynllun. Bydd yr union ffi neu'r tâl o fewn yr ystod newydd arfaethedig yn cael ei bennu gan faint a chymhlethdod y gosodiad, fel y'i aseswyd gan reoleiddiwr yr Awdurdod Lleol, a bydd yn ddarostyngedig i rai eithriadau a fanylir yn y cynlluniau ac mewn trwyddedau unigol.
| Cynlluniau Cymru | Blwyddyn y Cynllun | Ffi ymgeisio | Cynhaliaeth flynyddol | Ffi amrywio | Ffi drosglwyddo* | Ffi ildio |
| Rhan B, Offer/Peiriannu Symudol a SEA | 2016 | £152 - £1,629 | £76 - £1,723 | £101 - £1,037 | £46- £491 | Amherthnasol |
| Cyfraddau Arfaethedig | £219 - £2,351 | £110 –£2,486 | £146 - £1,496 | £66 -£708 | Amherthnasol | |
| Rhan A(2) a SWIP | 2016 | £3,318 | £1,324 - £2,202 | £1,350 | £233 - £689 | £689 |
| Y Gyfradd Arfaethedig | £4,788 | £1,910 - £3,177 | £1,948 | £336- £994 | £994 |
* Mae'r ffi drosglwyddo yn amrywio yn dibynnu ar lefel risg y drwydded ac a yw'n drosglwyddiad llawn neu'n drosglwyddiad rhannol, nodir manylion llawn yn y cynlluniau drafft a gyhoeddwyd gyda'r ymgynghoriad hwn (Atodiad 2 ac Atodiad 3).
Gall ffioedd a thaliadau eraill, a restrir yn y cynlluniau, fod yn berthnasol a byddant hefyd yn ddarostyngedig i'r cynnydd chwyddiant arfaethedig.
Pryd fyddai’r cyfraddau newydd yn dod i rym?
Y cynnig yw y bydd y cyfraddau newydd yn dod i rym o'r dyddiad y mae'r cynlluniau newydd yn cael eu cyhoeddi. Pan fo anfonebau ar gyfer taliadau cynhaliaeth blynyddol eisoes wedi'u cyhoeddi gan Awdurdodau Lleol:
- dylid codi tâl ar unrhyw geisiadau am drwyddedau, amrywiadau neu drosglwyddiadau newydd a dderbynnir ar y dyddiad y cyhoeddir y cynlluniau newydd neu ar ôl y dyddiad hwnnw, ar y gyfradd newydd. Dylid codi tâl ar y ceisiadau hynny a dderbyniwyd cyn y dyddiad hwn ar y cyfraddau blaenorol;
- dylid cymhwyso'r gyfradd uwch o ffioedd cynhaliaeth blynyddol i flwyddyn ariannol lawn 2026/27. Pan fo gweithredwyr eisoes wedi talu ffioedd cynhaliaeth ar gyfer blwyddyn ariannol 2026/27, dylai Awdurdodau Lleol agregu'r ffioedd ychwanegol a'u cymhwyso i'r anfoneb ar gyfer blwyddyn 2027/28 y cynllun i adennill y ffioedd sy'n ddyledus o dan y cyfraddau newydd.
Asesiad Effaith Economaidd ar gyfer cynnydd chwyddiant
Mae Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gyfrifol am reoleiddio mwy na 850 o weithgareddau. Yn hanesyddol, mae nifer y ceisiadau newydd yn isel iawn, felly disgwylir mai ar lefel ffioedd cynhaliaeth y bydd unrhyw gynnydd yn effeithio'n bennaf.
Cynhaliwyd asesiad effaith economaidd i asesu effaith ariannol cynnydd chwyddiant ffioedd cynhaliaeth blynyddol EPR i Gymru gan ddefnyddio data a gyflwynwyd gan 20 allan o 22 Awdurdod Lleol. Dyma'r data diweddaraf sydd ar gael ar 31 Mawrth 2024, felly efallai bod ychydig amrywiadau bach wedi digwydd ers hynny. Er nad yw'n set ddata gyflawn gan na chafwyd ffurflenni gan rai Awdurdodau Lleol, ystyrir bod y data yn gynrychioladol.
Mae'r goblygiadau cost lefel uchel amcangyfrifedig i fusnesau a chynnydd incwm ar gyfer Awdurdodau Lleol wedi'u manylu yn Nhabl 2 ac yn cael hategu gan destun esboniadol isod.
| Cyfleuster / Math o Osodiad | Nifer y Gweithgareddau a Ganiateir | Cynnydd fesul Gweithgaredd | Amcangyfrif o Gyfanswm y Gost i Fusnesau | Amcangyfrif o Gynnydd mewn Incwm i Awdurdodau Lleol |
| Rhan B, Offer/Peiriannu Symudol a SEA | 853 | £34 - £763 | £126,959 - £305,473 | £6,348 - £15,274 |
| Rhan A(2) a SWIP | 44 | £586 - £975 | £25,803 – £42,914 | £1,290 - £2,146 |
| Cyfanswm | £152,762 - £348,387 | £7,638 - £17,419 | ||
Bydd y cynnydd blynyddol fesul gweithgaredd yn cael ei bennu yn ôl y math o osodiad a'r sgôr risg (isel, canolig ac uchel) fel y'i diffinnir yn y Dulliau Risg cyhoeddedig. Bydd hefyd yn disgyn o fewn yr ystod o £34 i £975; bydd y cynnydd isaf yn berthnasol i osodiadau bach syml/SEAs, a bydd y costau uwch yn berthnasol i osodiadau canolig-gymhleth a SWIPs. Er enghraifft, bydd y gyfradd gynhaliaeth flynyddol ar gyfer gweithgareddau syml Rhan B fel gweithredu PVR Cam I risg isel (Adfer Anwedd Petrol) yn gweld cynnydd bach o £34 y flwyddyn, o £76 i £110. Byddai'r tâl cynhaliaeth blynyddol ar gyfer gweithgaredd Rhan A(2) risg uchel yn cynyddu £975 o £2,202 i £3,177.
Amcangyfrifir mai ystod yr effaith bosibl ar gyfanswm y gost i fusnesau yng Nghymru yw £152,762 (gweithgareddau risg isel) - £348,387 (gweithgareddau risg uchel). Mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o osodiadau a reoleiddir gan Awdurdodau Lleol naill ai'n risg isel neu risg canolig, a dim ond nifer fach sy'n dod o fewn yr ystod risg uchel. Bydd y cynnydd posibl mewn incwm blynyddol fesul Awdurdod Lleol yn amrywio rhwng awdurdodau, yn dibynnu ar nifer y gweithgareddau y maent yn eu rheoleiddio, a'u maint.
Ymgysylltu ar ffioedd a thaliadau yn y dyfodol
Fel y nodwyd yn gynharach yn yr ymgynghoriad hwn, mae adborth gan Awdurdodau Lleol wedi awgrymu ei bod yn bosibl nad yw'r cynlluniau presennol bob amser yn glir neu'n hawdd i'w cymhwyso, ac y gallai adolygiad mwy sylfaenol o'r ffordd y mae ffioedd a thaliadau yn cael eu strwythuro fod yn fuddiol. Rydym yn bwriadu ymgysylltu â rhanddeiliaid o awdurdodau lleol a sectorau rheoleiddiedig pan fyddwn yn adolygu'r broses EPR a reoleiddir gan Awdurdodau Lleol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn un o'r paneli hyn, anfonwch e-bost atom yn EnvironmentalProtectionDivision@llyw.cymru, gan gynnwys eich enw, eich manylion cyswllt, gan gadarnhau p'un a ydych chi'n weithredwr neu'n rheoleiddiwr. Byddwn yn anelu at ymgysylltu â chymaint o bobl â phosibl, ond efallai na fydd yn bosibl cynnwys pawb sy'n cofrestru diddordeb. Er mwyn ein helpu i gynnwys trawstoriad da o randdeiliaid ar gyfer ymgysylltu, byddai'n ddefnyddiol pe gallai gweithredwyr hefyd gynnwys crynodeb byr o'r cyfleuster a weithredir, a phe gallai awdurdodau lleol grynhoi eu profiad a'u rôl yn EPR a nodi enw'r Awdurdod Lleol penodol.
Cwestiynau ffurflen ymateb ymgynghori
Eich enw:
Sefydliad (os yw’n berthnasol):
E-bost / Rhif ffôn:
Eich cyfeiriad:
Cwestiwn 1
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno bod angen codi ffioedd a thaliadau EPR Awdurdodau Lleol o dan reoliad 66 o'r EPR? Os ydych chi'n anghytuno, eglurwch pam.
- cytuno’n gryf
- cytuno
- ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- anghytuno
- anghytuno’n gryf
Blwch testun rhydd
Cwestiwn 2
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'n cynnig i gymhwyso cynnydd yn unol â chwyddiant? Os ydych chi'n anghytuno, eglurwch pam.
- cytuno’n gryf
- cytuno
- ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- anghytuno
- anghytuno’n gryf
- ansicr
Blwch testun rhydd
Cwestiwn 3
Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r dull a ddefnyddir i gyfrifo'r cynnydd i ffioedd a thaliadau, yn seiliedig ar newidiadau chwyddiant? Os ydych chi'n anghytuno, eglurwch pam.
- cytuno’n gryf
- cytuno
- ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- anghytuno
- anghytuno’n gryf
- ansicr
Blwch testun rhydd
Cwestiwn 4 (gweithredwyr yn unig)
Ydych chi'n credu y bydd y cynnydd chwyddiant arfaethedig yn cael effaith ar eich gallu i weithredu eich cyfleuster a ganiateir?
- cytuno’n gryf
- cytuno
- ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- anghytuno
- anghytuno’n gryf
- ansicr
Cwestiwn 5 (Awdurdodau Lleol yn unig)
Ydych chi'n credu y bydd y cynnydd chwyddiant arfaethedig yn cael effaith ar eich gallu i reoleiddio cyfleusterau a ganiateir?
Blwch testun rhydd
Cwestiwn 6
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynnig ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- A ydych credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- A oes unrhyw gyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol, yn eich barn chi?
Cwestiwn 7
Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynnig er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Cwestiwn 8
Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.
Nodwch yma:
Mae ymatebion i ymgyngoriadau'n debygol o gael eu cyhoeddi, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os yw'n well gennych bod eich ymateb yn ddienw, ticiwch yma:
