Ariennir Trwyddedu Anifeiliaid Cymru gan Lywodraeth Cymru. Mae'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Fynwy ar ran Safonau Masnach Cymru.
Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn helpu Awdurdodau Lleol i orfodi deddfwriaeth ym maes lles anifeiliaid. Mae swyddogion arbenigol yn cydweithio ag Awdudodau Lleol. Maen nhw:
- cynnal arolygiadau
- ymchwilio i bryderon, a
- cymryd camau, os oes angen
Mae hyn yn sicrhau dull cyson ledled Cymru.
I gael gwybod mwy, gan gynnwys manylion cyswllt, ewch i Trwyddedu Anifeiliaid Cymru.
