Neidio i'r prif gynnwy

Gall ceidwaid dofednod wneud cais am drwyddedau ar gyfer rhai symudiadau risg isel o unrhyw barth gwarchod neu barthau gwyliadwriaeth sydd mewn grym ar hyn o bryd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trwyddedau cyffredinol

Mae trwyddedau cyffredinol yn caniatáu symudiad neu weithgaredd a fyddai fel arall yn cael ei wahardd yng Nghymru a Lloegr. Mae angen i chi wirio eich bod yn bodloni amodau'r drwydded gyffredinol ac yn cydymffurfio â hwy. Os byddwch yn gwneud hynny, nid oes angen i chi wneud cais - gallwch ddibynnu ar y drwydded gyffredinol fel awdurdod ar gyfer y symudiad neu'r gweithgaredd.

Mae’r trwyddedau cyffredinol canlynol ar gael ar hyn o bryd

Trwydded gyffredinol: symudiadau lluosog o wyau bwrdd o safle mewn Ardal Rydd i Safle Prosesu Wyau mewn Parth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth

Trwydded gyffredinol am symud samplau i brofi am salmonela o safleoedd yn y parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth

Trwydded gyffredinol i symud sgerbydau dofednod am warediad o safle mewn Parth Garchod yn Lloegr, Cymru neu Yr Alban (EXD339(HPAI)(GB))

Trwydded gyffredinol i symud wyau bwrdd i mewn, tu fewn neu allan o Barth Gwarchod neu du mewn neu allan o Barth Gwyliadwriaeth mewn Lloegr, Yr Alban neu Gymru (EXD243(AI)(GB))

Trwydded Gyffredinol i symud sgerbydau, samplau, ymgarthion a samplau ymgarthol o ddofednod byw neu adar caeth arall o safle yn Barth Gwarchod neu Wyliadwriaeth i labordy neu feddygfa filfeddygol am ymchwiliad (EXD415(HPAI)(GB)) 

Trwydded gyffredinol am Symudiad o Wyau Deor o Safle mewn Parth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth i Safle wedi’i Dynodi am Bwrpasau Gwyddonol, Diagnostig neu Fferyllol (EXD539(HPAI)(GB))

Trwydded Gyffredinol i symud wyau bwrdd i, tu mewn neu allan o Barth Gwarchod neu du mewn neu allan o Barth Gwyliadwriaeth yng Nghymru, yr Alban a Lloegr

Trwydded Gyffredinol am Ledaenu ar Safle neu Symud Gwasarn Dofednod sydd wedi’i ddefnyddio, Gwrtaith Dofednod a Biswail Dofednod sydd yn Tarddu o Safle mewn Parth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth mewn Lloegr, Cymru neu y Alban

Mae’r trwyddedau cyffredinol canlynol ar gael yn Lloegr a Chymru:

Trwydded Gyffredinol i symud mamolion o, neu i, safle mewn Parth Gwarchod neu Wyliadwriaeth lle mae dofednod neu adar caeth eraill yn cael eu cadw (EXD247)(HPAI)(EW))

 

Trwyddedau penodol

Mae trwyddedau cymharol yn caniatáu symudiad neu weithgaredd mewn parth rheoli clefyd pan nad ydy trwydded gyffredinol yn gweithredu. 

Os oes angen i chi symud rhywbeth sydd wedi'i gyfyngu mewn unrhyw Barth Gwarchod neu Barth Gwyliadwriaeth sydd mewn grym ar hyn o bryd, dylech wneud cais i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). I gyflwyno cais am drwydded benodol, defnyddiwch y Gwasanaeth Trwyddedu Ffliw Adar (AILS) i gyflwyno eich cais ar-lein.

O ddydd Mawrth, 1 Mawrth 2022, bydd angen gwneud pob cais am drwydded ffliw adar drwy'r gwasanaeth ar-lein newydd. I wneud cais ar-lein bydd angen i chi gofrestru a chreu manylion mewngofnodi. Bydd dau gam i'w gwirio.  Ar ôl cofrestru, bydd gwneud cais ar-lein yn golygu y gallwch olrhain statws eich cais a chael eich trwydded yn electronig drwy'r system newydd.

Derbynnir ceisiadau drwy'r system ar-lein a chânt eu hadolygu, ac os yw'n briodol, caiff trwyddedau eu rhoi'n gywir er mwyn caniatáu i weithgareddau hanfodol barhau heb gynyddu'r risg o ledaenu ffliw adar.

Mynediad at y Gwasanaeth Trwyddedu Ffliw Adar newydd ar Gov.UK.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynglŷn â'r broses newydd gweler gwneud cais am eithriad rhag cyfyngiadau rheoli clefyd ffliw adar ar Gov.UK neu cysylltwch ag APHA ar 03000 200 301 a dewiswch yr opsiynau perthnasol.

Gall ceidwaid wirio ble mae parthau rheoli clefydau wedi'u lleoli ym Mhrydain Fawr ac os ydynt mewn parth ar fap rhyngweithiol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Ddylai ceisiai cael eu cwblhau yn llawn a chynnwys manylion o gofrestriad eich safle. Mae rhaid i chi gofrestri eich adar efo APHA cyn cyflwyno eich cais am drwydded. Gwelwch sut i gofrestri eich adar.

Yn y sefyllfa gyfredol ac i ddilyn “triage” effeithiol a blaenoriaethu gan dimoedd trwyddedi, rydym yn ofyn i chi rhoi 5 diwrnod o leiaf i'ch cais trwydded cael ei brosesi, yn nodi symudiadau cymhleth a risg uchel, sydd angen mwy o amser i brosesi.  Nodwch, os gwelwch yn dda, bydd ceisiai drwydded sydd sy’n cael eu derbyn ar ôl 5pm yn dechrau cael eu prosesi ar y diwrnod nesaf.

Byddwn wastad yn ymdrechu i glirio ceisiadau brys ond dylech wneud cynlluniau cyfwng rhag ofn na fydd hyn yn bosib.

Os bydd y safle tarddiad neu ben taith eich symudiad wedi dymuno, cael ei gosod mewn parth rheoli clefyd arall (er enghraifft, os mae digwyddiad clefyd yn cael ei datgan yn lleol), falle bydd y broses asesiad cael ei ail-ddechrau, yn arwain i oediad pellach. Eto, ddylai eich cynlluniau cyfwng cymryd cyfrif o’r posibilrwydd hwn.

Os rhoddir trwydded, bydd fel arfer yn caniatáu symudiad untro a bydd yn destun i amodau penodol yn seiliedig ar risg rheoli clefydau.

Cig o ddofednod tu fewn parth diogelu

Bydd rhai i fusnesau gweithredu bwyd dilyn rheolau penodol am unrhyw gig wedi’i chynhyrchu o

  • ddofednod
  • adar helwriaeth

sydd wedi’u ffermio, sydd wedi tarddu o fewn y parth diogelu.

Gall cig hyn cael ei symud neu werthu, yn amodol ag nifer o amodau. Mae'r rhain yn cynnwys angen i’r marc iechyd cael ei amnewid am farc penodol. Bydd rhaid i’r marc aros efo’r cynnyrch trwy unrhyw prosesi neu ail-pacio. Mae’r amodau yma wedi’u cynnwys yn y Drwydded Gyffredinol EXD249.

O dan rhai amgylchiadau penodol - wedi’u cynnwys yn Drwydded Gyffredinol EXD264 - mae gan y derbynnydd o gig o ddofednod caniatâd i dynnu’r marc penodol dros dro wrth gynhyrchu ac mewn rhai amgylchiadau i beidio ei ail osod. 

Mae’r trwyddedau canlynol ar gael ar wefan GOV.UK:

Trwydded gyffredinol i symud cig dofednod sy’n tarddu o Barth Gwarchod neu sy’n tarddu o ardal sy’n dod yn Barth Gwarchod yn ddilynol (EXD249 (HPAI)(EW))

Trwydded gyffredinol am ddiddymu’r marc gig wedi’i osod ar cig dofednod penodol (EXD264(HPAI)(EW))

Rheolau am gig wedi’i gynhyrchu o ddofednod ac adar gêm wedi’u ffermio sy’n tarddu o Barth Gwarchod

Cymeradwyaeth o’r marc sy’n adnabod cig dofednod o Barth Gwarchod yng Nghymru

Cymeradwyaeth o’r marc sy’n adnabod cig dofednod o Barth Gwarchod yn Lloegr