Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni bellach yn ceisio ehangu ein tîm trwy recriwtio arweinydd peirianneg profiadol i gyflawni rôl ein harbenigwr mewnol ar bob mater peirianyddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Swydd: Arweinydd Peirianneg - 37 awr yr wythnos
Dyddiad cau: 2 Ebrill 2024 am hanner dydd
Cyfeirnod: TGCPE

Amadanom ni

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy ym mherchnogaeth y cyhoedd – Trydan Gwyrdd Cymru. Ei bwrpas yw rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y newid sydd ei angen i fynd i'r afael â her enfawr newid hinsawdd. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cyflymu'r broses o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ystad gyhoeddus Cymru, yn bennaf trwy dechnolegau ynni gwynt ar y tir a solar ffotofoltaig. Ein nod yw cael mwy nag un gigawat o ynni glân dan berchnogaeth leol, a gynhyrchir yn lleol erbyn 2040. Mae gennym gyfle gwirioneddol yma i gynhyrchu incwm a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau pobl yng Nghymru yn ogystal â chreu swyddi ynni glân o ansawdd da.

Dylai'r cwmni newydd hwn sbarduno dull newydd o sicrhau buddiannau o ynni adnewyddadwy sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau. Mae'r argyfwng costau byw presennol yn tanlinellu pwysigrwydd ynni yn ein cymdeithas a bydd cynnwys pobl wrth ddatblygu modelau gwahanol o rannu buddiannau yn hanfodol i lwyddiant y cwmni.

Y Rôl

Fel cwmni newydd ei greu, rydyn ni bellach yn ceisio ehangu ein tîm trwy recriwtio arweinydd peirianneg profiadol i gyflawni rôl ein harbenigwr mewnol ar bob mater peirianyddol. Gan weithio gyda thîm bach o reolwyr prosiect a chydlynwyr technegol, bydd deiliad y swydd yn cyflawni cyfres o brosiectau gwynt ynni adnewyddadwy ar y tir sydd wedi'u lleoli ar draws Ystad Goed Llywodraeth Cymru. Byddwch yn defnyddio’ch arbenigedd peirianyddol i ddatblygu a dylunio seilwaith sifil a thrydanol ffermydd gwynt, gan helpu i nodi risgiau prosiect, ac argymell datrysiadau peirianyddol.

I fod yn llwyddiannus, byddwch yn ddelfrydol wedi’ch addysgu hyd at lefel gradd mewn peirianneg sifil neu beirianneg strwythurol neu bydd gennych lefel gyfatebol o brofiad proffesiynol. Byddwch yn gallu dangos gwerthfawrogiad cryf o Reoliadau CDM, systemau gwaith diogel a gofynion amgylcheddol. 
Dyma gyfle gwych i rywun sy'n chwilio am her newydd i fod yn rhan o rywbeth o'r cychwyn cyntaf i greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb.

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y rôl a gofynion y swydd yn y pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr.

Os, ar ôl i chi ddarllen y gofynion ar gyfer y rôl, eich bod yn teimlo bod gennych y cymwysterau a'r profiad perthnasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Lleoliad

Bydd y cwmni'n gweithredu gan ddefnyddio model hybrid lle bydd staff yn treulio cyfran o'u hamser yn gweithio o gartref pan nad ydyn nhw allan ar leoliad. . Bydd cyfarfodydd a gweithgareddau ar y cyd eraill yn cael eu cynnal o bryd i'w gilydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwahanol leoliadau swyddfa ledled Cymru. Bydd Pencadlys y Cwmni ym Merthyr Tudful. Bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn hyblyg oherwydd bydd angen teithio o bryd i'w gilydd o gwmpas y wlad.

Yn gyfnewid am hyn, rydyn ni’n cynnig cyflog cystadleuol yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad, 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus, a chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig.

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Dydyn ni ddim yn gwahaniaethu ar sail hil, crefydd, lliw, tarddiad cenedlaethol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws priodasol neu anabledd. Rydyn ni’n hapus i ystyried gweithio hyblyg.