Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni nawr yn ceisio recriwtio rheolwr caffael a chontractau profiadol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Swydd: Rheolwr Caffael a Chontractau – 37 awr yr wythnos

Dyddiad cau: 2 Ebrill 2024 am hanner dydd

Cyfeirnod: TGCPCM

Amadanom ni

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu datblygwr ynni adnewyddadwy ym mherchnogaeth y cyhoedd – Trydan Gwyrdd Cymru. Ei bwrpas yw rhoi sero net a chymunedau Cymru wrth wraidd y newid sydd ei angen i fynd i'r afael â her enfawr newid hinsawdd. Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cyflymu'r broses o gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy ar draws ystad gyhoeddus Cymru, yn bennaf trwy dechnolegau ynni gwynt ar y tir a solar ffotofoltaig. Ein nod yw cael mwy nag un gigawat o ynni glân dan berchnogaeth leol, a gynhyrchir yn lleol erbyn 2040. Mae gennym gyfle gwirioneddol yma i gynhyrchu incwm a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi i wella bywydau pobl yng Nghymru yn ogystal â chreu swyddi ynni glân o ansawdd da.

Dylai'r cwmni newydd hwn sbarduno dull newydd o sicrhau buddiannau o ynni adnewyddadwy sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau. Mae'r argyfwng costau byw presennol yn tanlinellu pwysigrwydd ynni yn ein cymdeithas a bydd cynnwys pobl wrth ddatblygu modelau gwahanol o rannu buddiannau yn hanfodol i lwyddiant y cwmni.

Y Rôl

Wrth i ni barhau i ehangu ein tîm, rydyn ni nawr yn ceisio recriwtio rheolwr caffael a chontractau profiadol. Gan adrodd i'r Cyfarwyddwr Datblygu mae gan y rôl hon ran annatod i’w chwarae o safbwynt cyflawni blaenoriaethau strategol Trydan Gwyrdd Cymru, gyda chyfrifoldeb am oruchwylio prosesau caffael y cwmni, o ddewis cyflenwyr a negodi contractau i reoli contractau, gwerthuso perfformiad a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion rheoleiddiol. Byddwch yn gweithio gyda'n rheolwyr prosiect i sicrhau bod gofynion a rhwymedigaethau caffael yn cael eu deall a'u hymgorffori mewn cynlluniau yn ogystal â chynnal ymchwil i ddeall marchnadoedd, mynd i'r afael â risgiau, a nodi cyfleoedd.

Yr ymgeisydd

Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y rôl hon, bydd gennych brofiad a gwybodaeth brofedig mewn caffael a rheoli contractau a gafwyd, yn ddelfrydol ond nid yn hanfodol, o fewn y sector ynni adnewyddadwy neu sector cysylltiedig, er enghraifft, adeiladu neu'r sector cyhoeddus. Byddwch yn meddu ar graffter masnachol a sgiliau negodi, cyfathrebu a rhyngbersonol da. Byddwch yn gallu meddwl yn ddadansoddol gyda sgiliau TG cryf. Byddwch yn gallu defnyddio Microsoft Office yn fedrus, gan gynnwys Excel. Mae sgiliau’r Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl yma, a byddwn yn cefnogi unrhyw un sydd am ddatblygu eu sgiliau Cymraeg o fewn y rôl. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am y rôl a gofynion y swydd yn y pecyn gwybodaeth ymgeisiol.

I’r ymgeisydd cywir, rydyn ni’n cynnig cyflog cystadleuol yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad, 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd ag 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus, a chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig. Rydyn ni’n deall bod creu'r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith yn bwysig i bob un ohonom. Gall ein model gweithio hybrid o weithio rhwng y cartref a'r swyddfa gynnig hyblygrwydd mawr. Bydd cyfarfodydd a gweithgareddau eraill ar y cyd yn cael eu cynnal o bryd i'w gilydd gan Lywodraeth Cymru mewn gwahanol leoliadau swyddfa ledled Cymru. Mae Prif Swyddfa’r Cwmni ym Merthyr Tudful. Gellir ymgeisio am y rôl yma yn y Gymraeg, ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Dyma gyfle gwych i rywun sy'n chwilio am her newydd i fod yn rhan o rywbeth o'r cychwyn cyntaf i greu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb. Os ydych chi'n teimlo bod gennych chi'r cymwysterau a'r profiad perthnasol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith cynhwysol i bawb. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Dydyn ni ddim yn gwahaniaethu ar sail hil, crefydd, lliw, tarddiad cenedlaethol, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran, statws priodasol neu anabledd. Rydyn ni’n hapus i ystyried gweithio hyblyg.