Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Cafodd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) y cydsyniad brenhinol ar 29 Mehefin 2023 gan ddod drwy hynny yn Ddeddf ("Deddf REUL"). Rhoddodd Deddf REUL bwerau eang i weinidogion y DU ac awdurdodau datganoledig i ddirymu, disodli a diwygio is-gyfraith yr UE a ddargedwir. Mae adran 17 o Ddeddf REUL yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl pob cyfnod adrodd (bob chwe mis hyd at 23 Mehefin 2026), ddiweddaru dangosfwrdd y gyfraith gymhathedig a chyhoeddi a gosod adroddiad ar ddirymu a diwygio cyfraith gymhathedig (sef 'cyfraith yr UE a ddargedwir ' fel y'i galwyd hyd at ddiwedd 2023 a chyn hynny) gerbron Senedd y DU.

Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Llywodraeth y DU i Senedd y DU ar Gyfraith Gymhathedig: Mehefin 2024 i Ragfyr 2024 ('adroddiad Llywodraeth y DU'), mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r adroddiad hwn i Senedd Cymru ar yr offerynnau statudol (OSau) a wnaed o dan Ddeddf REUL sy'n berthnasol i Senedd Cymru am y cyfnod rhwng Mehefin 2024 a Rhagfyr 2024. 

Mae adroddiad Llywodraeth y DU yn cadw'r un fformat â'i hadroddiadau blaenorol. 

Mae'r adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu'n fras adroddiad Llywodraeth y DU mewn perthynas â defnyddio pwerau Deddf REUL i ddiddymu, diwygio neu ailddatgan cyfraith a gymathwyd a'r un cyfnod adrodd. Mae'r adroddiad yn ymdrin yn unig ag OSau lle mae Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pwerau o dan Ddeddf REUL neu wedi cydsynio i Lywodraeth y DU ddefnyddio pwerau cydredol o dan Ddeddf REUL. Mae Llywodraeth yr Alban yn dilyn yr un trywydd, ac mae ei phwyllgor seneddol yn cyhoeddi ei hadroddiad. Mae dolen i adroddiad Llywodraeth yr Alban ar gael yma: Third Bi-Annual Scottish Government REUL Act update | www.parliament.scot

2. Polisi a rheolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfraith a gymathwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw bob amser at ei pholisi o ddefnyddio pwerau Deddf REUL mewn ffordd gymesur a deallus lle gwelir bod manteision i Gymru. O wneud hynny, cydnabyddir mai ein blaenoriaeth yw cyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol a'n Rhaglen Lywodraethu ein hunain. Rhwng Mehefin 2024 a Rhagfyr 2024, ni welodd Llywodraeth Cymru unrhyw fantais iddi fyddai'n cyfiawnhau defnyddio pwerau Deddf REUL.  Felly, ni wnaeth Gweinidogion Cymru unrhyw OSau mewn perthynas â'r pwerau o dan Ddeddf REUL yn ystod y cyfnod hwn.

Mae Adroddiad Llywodraeth y DU yn dweud bod Llywodraeth y DU wedi gosod dau OS yn unig rhwng Mehefin a Rhagfyr 2024 gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf REUL:

  • Rheoliadau Diogelwch Hedfan (Diwygio) 2024
  • Rheoliadau Gyrwyr Cerbydau (Tystysgrifau Cymhwysedd Proffesiynol) (Diwygio) 2024)

Roedd y ddau mewn meysydd a ddargedwir yn llwyr ac felly ni wnaeth Llywodraeth y DU ofyn i Lywodraeth Cymru am ei chydsyniad. Yn ogystal, roedd un OS lle gofynnodd Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru am ei chydsyniad er mwyn defnyddio ei phwerau Deddf REUL, sef Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygio) 2024 (gweler Atodiad A).

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal Dangosfwrdd cyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith wedi'i chymhathu, sy'n cynnwys rhestr sydd ar gael i’r cyhoedd o gyfraith yr UE a ddargedwir a chyfraith gymhathedig (Mae dangosfwrdd REUL yn cynnwys deddfwriaeth y DU a ddargedwir, ac sydd â chymhwysedd cymysg neu sy'n dod o fewn maes lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli. Ni cheir unrhyw ddeddfwriaeth arno a wnaed gan lywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.). Ar adeg paratoi’r adroddiad hwn  diweddarwyd y Dangosfwrdd ddiwethaf ar 23 Ionawr 2025 i adlewyrchu'r sefyllfa ar 23 Rhagfyr 2024.  Cafodd ei ddiweddaru yr un pryd â chyhoeddi'r trydydd Adroddiad i Senedd y DU ar Gyfraith Cymhathedig a pharheir i'w ddefnyddio i dracio statws cyfraith gymhathedig wedi’i nodi gan Lywodraeth y DU.   

Mae'r trafod a fu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar lefel swyddogol ynghylch defnyddio pwerau Deddf REUL wedi parhau i fod yn gadarnhaol.

3. Agenda strategaeth ddiwydiannol a rheoleiddio Llywodraeth y DU

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phapur gwyrdd “Invest 2035, the UK’s modern industrial strategy” ym mis Hydref 2024 a ddisgrifiai cynllun 10 mlynedd fyddai'n canolbwyntio ar sectorau 'twf uchel' i wireddu ei chenhadaeth twf economaidd ('y Papur Gwyrdd').  Mae'r Papur Gwyrdd yn nodi wyth sector twf: gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau ynni glân, diwydiannau creadigol, amddiffyn, digidol a thechnolegau, gwasanaethau ariannol, gwyddorau bywyd, a gwasanaethau proffesiynol a busnes.

Wrth i fwriad Llywodraeth y DU ynghylch diwygio'r drefn reoleiddiol ac unrhyw ddefnydd a ragwelir o bwerau yn Neddf REUL ddod yn glir, mae Llywodraeth Cymru yn barod i weithio'n agos gyda hi ar gyfleoedd, goblygiadau a manteision posibl i Gymru.

4. Rhagolygon

Ers yr Etholiad Cyffredinol bu llai o gynigion gan Lywodraeth y DU i ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf REUL. Tra bod Llywodraeth Cymru'n parhau i gydweithio â Llywodraeth y DU, nid ydym yn disgwyl i bwerau REUL gael eu defnyddio’n helaeth cyn iddynt ddod i ben ym mis Mehefin 2026.

Pan fydd Llywodraeth y DU yn cynnig ac yn ceisio cydsyniad i ddefnyddio pwerau cydredol, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ceisiadau fesul achos yn unol â'n blaenoriaethau ein hunain. Bydd Llywodraeth Cymru yn hysbysu Senedd Cymru yn unol â phrotocolau y cytunwyd arnynt a Rheolau Sefydlog y Senedd.

Disgwylir yr adroddiad chwemisol nesaf yng nghanol 2025, yn dilyn adroddiad Llywodraeth y DU. 

Atodiad A: Defnydd Llywodraeth y DU o bwerau Deddf REUL y rhoddodd Gweinidogion Cymru gydsyniad ar eu cyfer yn ystod y Cyfnod Adrodd

Offeryn Statudol

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygio) 2024 

Manylion

Mae'r OS yn dirymu ac yn disodli darpariaethau yn y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol a deddfwriaeth berthnasol arall i ddarparu sail ddeddfwriaethol hirdymor i Fodel Gweithredu Targed y Ffin y tu hwnt i ddibynnu ar y Cyfnod Graddoli Trosiannol (TSP) ar gyfer nwyddau perthnasol. 

Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud yr offeryn hwn o ganlyniad i'r cytundeb ar Fodel Gweithredu Targed y Ffin rhwng y tair llywodraeth ym Mhrydain Fawr, i gyflwyno cyfundrefn iechydol a ffytoiechydol cydlynol a chyson ar gyfer nwyddau a fewnforir i Brydain Fawr, i amddiffyn bioddiogelwch ac i sicrhau bod safonau diogelwch bwyd yn cael eu cynnal yng Nghymru.

Cynnydd

Wedi'i gosod gerbron Senedd y Deyrnas Unedig 19 Tachwedd 2024, a Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar 20 Tachwedd 2024. Daeth y rheoliadau i rym ar 10 Chwefror 2024.