Neidio i'r prif gynnwy

Fel rhan o'i chynllun gweithredu i gyflawni uchelgais gwrth-hiliol Cymru ar draws addysg bellach (AB), comisiynodd Llywodraeth Cymru yr ymchwil hon ar raddau ac effeithiau hiliaeth ar ddysgwyr a staff.

Nod yr ymchwil oedd:

  • Canfod camau gweithredu ymarferol y gellid eu cymryd i drechu gwahaniaethu, gwella profiad dysgwyr a staff ethnig leiafrifol, a magu hyder dysgwyr a staff o bob ethnigrwydd i ddeall a thrafod gwrth-hiliaeth.
  • Sicrhau bod profiadau bywyd pobl ethnig leiafrifol wrth wraidd y broses o ddylunio a chwblhau'r gwaith ymchwil.
  • Cynnig sylfaen gadarn ar gyfer gwaith ymchwil ansoddol a meintiol yn y dyfodol ar brofiadau dysgwyr a staff gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau partner, gan gynnwys ffyrdd o fesur cynnydd a newid dros amser.

Adroddiadau

Tuag at addysg bellach wrth-hiliol: ymchwil ansoddol ar brofiadau bywyd dysgwyr a staff , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB

PDF
4 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Marian Jebb

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.